'Dryswch' am gynllun gofal plant am ddim yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
gofal plant

Mae rhai rhieni wedi derbyn biliau annisgwyl oherwydd dryswch ynglŷn â chynllun gofal plant am ddim, yn ôl adroddiad.

Mae rhieni plant tair a phedair oed yng Nghymru sy'n gweithio yn cael 30 awr am ddim o ofal plant yr wythnos am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Daeth ymchwilwyr i'r canfyddiad fod rhai rhieni yn defnyddio'r cyfan yn gynnar heb sylwi ac yn derbyn biliau annisgwyl am ofal plant yn ystod gwyliau ysgol.

Dywed Llywodraeth Cymru fod y gofal plant am ddim yn cynnig cymorth i deuluoedd.

Cafodd y cynllun ei gyflwyno fel peilot yn 2017 ac mae'n cynnig 20 awr o ofal plant am ddim i rieni sy'n gweithio ar ben y 10 awr sy'n cael ei roi am ddarpariaeth addysg gynnar.

Yn ystod gwyliau ysgol, mae'r cynnig yn rhoi 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i hyd at naw wythnos.

Caiff hwn ei roi gan ddarparwyr gofal plant cofrestredig, fel meithrinfeydd, gwarchodwyr plant a chylchoedd chwarae, sydd wedi ymuno â'r cynllun.

Mae astudiaeth ymchwil swyddogol i Lywodraeth Cymru yn dangos, er ei bod yn arbed cannoedd o bunnoedd i deuluoedd, mae yna ddryswch o hyd ynglŷn â sut mae'r cynllun yn gweithio.

'Un plentyn yn £500 yr wythnos'

Dywedodd un rhiant eu bod "mewn sioc fawr" o gael bil am dros £800 am ofal plant un mis yn ystod yr haf ar ôl peidio â sylweddoli bod eu hawl wedi dod i ben.

Dywedodd un arall ei bod wedi cael bil mawr ar ddiwedd y gwyliau ar ôl peidio â sylweddoli nad oedd ganddi hawl i'r 12 wythnos lawn.

Dywedodd yr adroddiad fod yna ddryswch hefyd ynglŷn â sut mae'r cynnig yn effeithio ar gredydau treth a materion gyda rhieni hunangyflogedig yn profi eu cymhwysedd.

Mae'n argymell bod mwy o ganllawiau ar gael i rieni ynghylch eu hawl i ofal plant dros fisoedd y gwyliau.

Ffynhonnell y llun, Sarah Rees
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sarah Rees wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn iddyn nhw newid y rheolau i helpu rhieni sy'n dychwelyd i gyflogaeth

Yn ôl Sarah Rees - sy'n fam i ddau o blant o Benarth, Bro Morgannwg - mae'r system bresennol yn gwahaniaethu yn erbyn rhieni sy'n fyfyrwyr a'r rheini ar gontractau dim oriau.

Dywedodd Ms Rees, sy'n astudio i fod yn gyfreithiwr ac sy'n diwtor rhan-amser, fod cost gofal plant yn ei gwneud hi'n amhosib i rieni fynd yn ôl i'r gwaith.

"Mae un plentyn yn golygu bil o £500 yr wythnos, dau blentyn neu fwy - nid oes gwerth mynd i weithio," meddai.

"Mae'n bryd i Lywodraeth Cymru wrando ar rieni a gwneud y newid sydd ei angen ar rieni, fel mynediad i'r rheini ar gontractau dim oriau, gan seilio'r terfyn ar incwm cartrefi a chaniatáu i rieni sy'n astudio gael rhywfaint o help hefyd."

'Mwy o gyfleoedd'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y cynnig gofal plant yn sicrhau "buddion cadarnhaol i deuluoedd ledled Cymru".

"Mae gan fwy nag wyth o bob 10 o bobl fwy o incwm gwario o ganlyniad ac mae mwy na hanner yn teimlo bod penderfyniadau cysylltiedig â gwaith yn fwy hyblyg," meddai.

"Canfu hefyd fod mwy o gyfleoedd ar gyfer hyfforddi, dysgu a datblygu.

"Rydym yn ystyried yr holl faterion a godwyd yn y gwerthusiad. Yn y cyfamser, byddem yn annog teuluoedd ledled Cymru i weld a allan nhw elwa o'r cynnig gofal plant."