'Jambori' Urdd ymhlith prosiectau i hyrwyddo Cymru i'r byd
- Cyhoeddwyd
Mae lleoliadau cymunedol yn cael eu hannog i ymuno mewn gŵyl fydd yn cael ei chynnal ar draws Cymru i ddathlu lle'r wlad yng Nghwpan y Byd.
Bydd Gŵyl Cymru Festival yn dechrau ar 19 Tachwedd, ddeuddydd cyn i'r tîm cenedlaethol herio'r UDA yn eu gornest gyntaf yn Qatar.
Wedi'i drefnu gan yr Urdd, a'i darlledu ar BBC Radio Cymru a Radio Wales, mae gobaith y gallai hyd at 250,000 o blant hefyd fod yn rhan o sesiwn ganu ar-lein.
Mae'n un o'r prosiectau y bydd Llywodraeth Cymru'n gwario bron i £2m arnynt i hyrwyddo Cymru i'r byd yn ystod y twrnament, fydd hefyd yn cynnwys gŵyl gerddorol yng Ngogledd America.
'Llygaid pawb arnom ni'
Un o brif amcanion Gŵyl Cymru Festival fydd hyrwyddo'r Gymraeg, diwylliant a'r celfyddydau wrth i'r gemau gael eu chwarae.
Cyn hynny y gobaith yw y bydd pob ysgol gynradd yng Nghymru'n ymuno mewn 'Jambori' ganu ar 10 Tachwedd, fydd yn cynnwys Dafydd Iwan yn canu 'Yma o Hyd'.
"Roedd rhaid i ni ddangos ein cefnogaeth i'r tîm a chael plant cynradd Cymru gyfan i'w hanfon nhw i ffwrdd i Gwpan y Byd yn y ffordd orau posib," meddai prif weithredwr yr Urdd, Siân Lewis.
Bydd yr ŵyl sy'n dilyn yn cynnwys gweithgareddau plant, nosweithiau comedi, gweithdai a gigiau cerddorol - a galwad felly ar lefydd ar draws Cymru i agor eu drysau ar gyfer hynny.
"Bydd llygaid pawb arnom ni, llygaid biliynau o bobl ar y wlad," meddai prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney.
Ychwanegodd: "Rydyn ni'n edrych am leoliadau creadigol lleol fel theatrau, llyfrgelloedd, caffis. Gallen nhw i gyd gynnal digwyddiadau Gŵyl Cymru.
"Gallai e fod yn siop farbwr, siop ddillad, unrhyw le. Mae'n dibynnu lle mae pobl yn meddwl y gallen nhw ei gynnal.
"Beth sydd angen i chi wneud yw dod â phobl gyda chi, dangos y gemau, dathlu ein diwylliant, a does dim rhaid iddo fod yn fawr."
'Cyfle pwysicaf erioed i farchnata'
Mae'r ŵyl yn un o nifer o brosiectau sy'n arwain at Gwpan y Byd ym mis Tachwedd fydd yn cael cyllid gan Gronfa Cymorth i Bartneriaid Cwpan y Byd Llywodraeth Cymru.
Bydd cyfanswm o £1.8m yn cael ei rannu rhwng 19 o brosiectau, gyda'r nod o hyrwyddo Cymru'n rhyngwladol yn ystod y twrnament.
Fe fyddan nhw'n cynnwys "gŵyl o greadigrwydd a diwylliant" yn ogystal â chyngerdd yng Ngogledd America, ar drothwy'r gêm yn erbyn yr UDA, i hyrwyddo diwylliant Cymreig.
Bydd cyllid tuag at yr Amgueddfa Bêl-droed Cymru newydd yn Wrecsam, a digwyddiad yn Qatar gyda band cefnogwyr y Barry Horns.
Fe fydd y Mentrau Iaith hefyd yn comisiynu murluniau gan artistiaid Cymreig, cynnal cystadleuaeth dylunio het fwced, a chreu crysau retro anferth wedi eu harwyddo gan y cefnogwyr i'w harddangos yng ngwersyll carfan Cymru yn Doha.
"Dyma'r cyfle marchnata a diplomyddiaeth chwaraeon pwysicaf erioed i gael ei gynnig i Lywodraeth Cymru, o ystyried proffil y digwyddiad," meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething.
"Fe fyddwn ni'n hyrwyddo Cymru, ein gwerthoedd cynhwysol ac o amrywiaeth, sicrhau diogelwch pobl Cymru yn ystod y twrnament, a sicrhau gwaddol positif a hirhoedlog o gymryd rhan yn y gystadleuaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2022
- Cyhoeddwyd13 Awst 2022
- Cyhoeddwyd23 Medi 2022