Daniel Evans: 'Y cwmni wnaeth gynnau tân yn fy mol'

  • Cyhoeddwyd
Daniel EvansFfynhonnell y llun, Sheffield Theatres
Disgrifiad o’r llun,

Daniel Evans

Mae'r actor a'r cyfarwyddwr Daniel Evans o Gwm Rhondda wedi cael un o swyddi mawr byd theatr Prydain, fel cyfarwyddwr artistig newydd y Royal Shakespeare Company o haf 2023 ymlaen.

Bu Daniel yn sgwrsio am ei obeithion, ei ysbrydoliaeth ac hefyd heriau ei rôl newydd, yn ogystal a'i gynhyrchiad diweddar o South Pacific a'i waith presennol fel cyfarwyddwr artistig ar gyfer Chichester Festival Theatre, ar Bore Cothi ar Radio Cymru.

Dwi newydd gael y swydd gyda'r Royal Shakespeare Company felly dwi dal yn cymryd fy anadl. Roedd yr ymateb mor hael wythnos ddiwethaf.

Mae'n swydd fawr, mae'r RSC yn un o'n cwmnïau cenedlaethol ni a dyma oedd y cwmni lle yn fy arddegau bues i'n gweld Mark Rylance yn ei byjamas yn chwarae Hamlet a gwelais i Harriet Walter yn chwarae Viola yn Twelfth Night a Simon Russell Beale yn Edward II, drama Christopher Marlowe.

Ysbrydoliaeth

Felly dwi'n credu mai dyma'r cwmni wnaeth gynnau tân yn fy mol i ynglŷn a theatr ac ynglŷn a theatr glasurol. Dwi'n falch iawn o fod yn neud y swydd gyda Tamara (bydd Daniel yn rhannu y rôlgyda Tamara Harvey) - mae hi wrth gwrs wedi gwneud cymaint o waith da yn Theatr Clwyd.

Ffynhonnell y llun, Seamus Ryan
Disgrifiad o’r llun,

Daniel Evans a Tamara Harvey

Mae'r swydd mor fawr erbyn hyn doedd naill na'r llall ohonon ni ddim eisiau mynd amdani ar ein pennau ein hunain. Felly mae'n gysur mawr i wybod gall y ddau o ni fod yn her i'n gilydd ond hefyd rhoi cysur i'n gilydd achos mae cymaint o waith i neud 'na.

Cyfarwyddo Chichester Festival Theatre

Y cyfarwyddwr artistig cyntaf yn Chichester oedd Laurence Olivier ac 'oedd e arfer dweud pan oedd e'n rhaglenni; oedd e'n gwneud tri (cynhyrchiad) ar gyfer ei hun ac un i'r gynulleidfa.

Dwi ddim cweit yn dilyn hynny achos mae pob dim ar gyfer y gynulleidfa. Os dyw e ddim ar gyfer y gynulleidfa, i ba diben ydy ni'n neud e?

Ond beth sy'n bwysig a beth mae hanes y Royal Shakespeare Company ers cychwyn yn y 60au wedi gwneud yw cydbwyso dramâu Shakespeare a dramâu clasurol gyda gwaith newydd.

Cydbwysedd

Pan ti'n meddwl am y cyfnod pan oedd Syr Peter Hall yn gyfarwyddwr artistig roedd dramâu newydd gan (Harold) Pinter a (Tom) Stoppard - roedd rheiny i gyd yn digwydd dan adain yr RSC.

Mewn ffordd roeddet ti'n gofyn i ddramodwyr cyfoes pitcho eu hunain yn erbyn Shakespeare fel petai - neu ochr yn ochr ag e tabeth, a gwybod ydy nhw'n gallu ysgrifennu ar yr ystod eang oedd gyda Shakespeare o ran ei gymeriadau e, ei leoliadau e, y dosbarthiadau oedd e'n gallu portreadu - y brenhinoedd a'r bobl ar y stryd.

Ac hefyd yn ddiweddar mae'r RSC wedi bod yn gwneud sioeau cerdd newydd - mae Matilda a Les Miserables wedi dod o'r RSC yn wreiddiol.

Felly mae'r cydbwysedd 'na i fi a Tamara yn rhywbeth ni'n teimlo'n angerddol ynglŷn a fe.

Hefyd o ddiddordeb: