'Argyfwng am byth nes i weithwyr gofal gael cyflog teg'

  • Cyhoeddwyd
Eunice a Llio Jones
Disgrifiad o’r llun,

Llio Jones gydag Eunice Jones-Parry, un o'r unigolion y mae hi'n ymweld â nhw i ddarparu gofal yn y cartref

Mae yna "argyfwng cenedlaethol" o fewn gofal iechyd a chymdeithasol oherwydd prinder gofalwyr sy'n cael eu talu, yn ôl arweinwyr y gwasanaeth iechyd.

Maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu cyflogau'r sector ar unwaith.

Mae Conffederasiwn GIG Cymru'n dweud bod hyd at 1,500 o bobl yn feddygol iach ond yn methu gadael yr ysbyty oherwydd nad yw'r gofal yno ar eu cyfer wedyn.

Mae hyn wedi arwain at alwadau am dalu cyflog o £15 o leiaf yr awr i ofalwyr.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n "buddsoddi i gefnogi recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol" ac wedi gwella amodau gwaith a thâl.

'Adref maen nhw hapusaf'

Mae Llio Jones yn Gydlynydd Gwasanaethau Cymunedol gydag elusen Age Cymru yn ardal Dyffryn Nantlle.

Mae hi'n gweld hi'n hollbwysig bod yna ddigon o ofalwyr ar gael i sicrhau bod unigolion yn gallu bod yn eu cartrefi yn hytrach nag yn yr ysbyty neu gartre' henoed.

"Mae'n bwysig bod yna rywun yna i helpu nhw yn y boreau ac amser cinio a te er mwyn iddyn nhw gael bod yn lle maen nhw hapusaf," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Er y pwysau ar weithwyr y sector, mae yna fwynhad i'w gael wrth roi cymorth i bobl, medd Llio Jones

Mae Llio yn gweld llawer yn gadael y sector am waith arall wrth i gostau byw a chostau teithio godi.

"Mae lot yn mynd o'r swydd ella am hynny - a'r cyflog ddim yn uchel," meddai.

"Mae 'na lot o pressure yn y swydd, ond mae 'na lot o falchder mewn gwatshiad ar ôl rhywun hefyd - felly dwi'm yn gwybod pam bod lot o bobl ddim eisiau gwneud y swydd.

"Mae o'n rewarding dwi'n meddwl, bod chdi'n gweld rhywun yn hapus yn eu cartre'u hunain."

Mae pryderon cynyddol bod gofalwyr yn gadael y sector am swyddi sy'n talu mwy - er enghraifft, ym meysydd manwerthu, lletygarwch neu dwristiaeth.

Yn ôl Keri Llewellyn, cyfarwyddwr cwmni gofal All Care Ltd, maen nhw wedi colli 40% o'u gweithlu ers y pandemig ac mae angen talu isafswm o £15 yr awr i weithwyr gofal os am eu cadw yn y sector.

Mae hi hefyd yn galw am fwy o integreiddio rhwng gofal iechyd a chymdeithasol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae methu â dal gafael ar staff yn destun pryder i reolwyr cwmnïau gofal fel Keri Llewellyn

Effaith yr 'argyfwng gofal' ar y GIG

Mae Darren Hughes, cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru, yn dweud bod arolwg diweddar o arweinwyr y GIG yn dangos bod yna "argyfwng gweithlu" yn y sector gofal oedd yn effeithio ar y GIG yn ei gyfanrwydd - o drosglwyddiadau ambiwlans i ddelio â'r rhestrau aros cynyddol.

Ychwanegodd bod y sefyllfa wedi'i disgrifio fel "argyfwng cenedlaethol" a bod rhwng 1,000 a 1,500 o bobl yn barod i adael yr ysbyty ond yn methu mynd adre' am nad oedd pecyn gofal cymdeithasol priodol yn ei le.

"Mae hynny'n gyfystyr â chymryd ysbyty mwya' Cymru allan o'r system oherwydd oedi yn trosglwyddo cleifion i ofal cymdeithasol," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Rhyddhau cleifion o'r ysbytai ar ddiwedd eu triniaeth yw'r broblem fwyaf, medd Darren Hughes, cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru

"Mae'r pwysau ar y GIG dros yr haf yn barod wedi bod ar lefelau gaeaf. 'Dan ni'n mynd mewn i'r gaeaf yn disgwyl cynnydd yn nifer yr afiechydon anadlu.

"Mae 'na restrau aros - y nifer ucha' o bobl erioed yn disgwyl am driniaeth - felly 'da ni'n gweithio'n galed iawn at adfer hynny.

"Ond y rhwystr mwya' ydy ein gallu i ryddhau pobl ar ôl cael eu trin, a 'da ni angen i Lywodraeth Cymru ddelio â'r mater ar frys."

Mae Mr Hughes yn cytuno bod angen i gyflogau gofalwyr fod yn uwch ac ar yr un lefel â swyddi tebyg o fewn y GIG.

"Nes bod gweithwyr gofal yn cael cyflog teg, fyddwn ni yn yr argyfwng yma am byth," meddai.

Cyfrifoldeb i edrych ar gyfleoedd i gydweithio

Mae Conffederasiwn GIG Cymru hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid penodol i gynghorau, fyddai ond yn cael ei wario ar ofal cymdeithasol.

"Mae 'na gyfrifoldeb arnon ni i weithio gyda'r byrddau iechyd i sicrhau'n bod ni'n edrych ar gyfleon i weithio gyda'n gilydd, edrych ar gyfleon bod pethau'n fwy cyson ar draws y sector," meddai Alwyn Jones, o Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS Cymru).

"Ond yn naturiol hefyd mae 'na alw ar Lywodraeth Cymru o ran sicrhau bod 'na adnoddau priodol o fewn y system i sicrhau bod ni'n gallu gwneud hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Alwyn Jones, o Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Ychwanegodd bod cyflogi staff yn y gymuned wedi mynd yn fwy heriol, yn enwedig ers cyfnod Covid, oherwydd "bod 'na lot o gystadleuaeth yn y farchnad".

"Mae staff yn gallu symud i swyddi eraill o fewn y sector gwasanaethau cymdeithasol, y byd iechyd ac hefyd i dwristiaeth a sectorau eraill hefyd - sy'n meddwl bod o'n andros o galed i ni sicrhau grŵp o staff cyson o fewn y gwasanaeth.

"Yn naturiol, os na allwn ni ddenu mwy o bobl i mewn i'r sector, mi rydan ni'n mynd i fod efo sialens fel sydd ganddon ni ar y foment."

Mae'n cytuno gyda'r alwad am fwy o gyfartaledd rhwng cyflogau'r sector gofal ac iechyd.

"Mae'n bwysig bod gynnon ni sector sy'n rhoi cyfleon i bobl weithio yn y byd gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau iechyd, a bod pethau'n fwy cyfartal ar draws y sector," meddai.

Her mewn ardaloedd mwy gwledig

Un arall sy'n rhannu'r pryderon ydy Vicky Bishop, Arweinydd Tîm Contractau a Chomisiynu Cyngor Wrecsam. Mae hi hefyd yn dweud bod y broblem yn waeth yng nghefn gwlad.

"Rydym yn gweithio i drio recriwtio staff gofal ond does dim gweithwyr yna i recriwtio ac wedyn mae'n her i gadw staff," meddai.

"Mae'n arbennig o anodd i recriwtio staff i ddarparu gwasanaethau yn ein hardaloedd mwy gwledig ac i ddarparu a chomisiynu gwasanaethau ar gyfer gofal mwy cymhleth.

"Dydy'r her yma ddim jyst i awdurdodau lleol ond mae'n effeithio ar y trydydd sector a'r sector preifat. Heb newid mewn polisi cenedlaethol, mae'n anodd i weld sut fydd pethau'n wahanol o gwbl."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "buddsoddi i gefnogi recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol" a'u bod wedi lansio ymgyrch i ddenu mwy o weithwyr i'r maes.

Ychwanegon nhw eu bod hefyd wedi cyflwyno'r Cyflog Byw Go Iawn i weithwyr gofal cymdeithasol yn gynharach eleni a'u bod yn "parhau i weithio gyda'r sector i wella amodau gwaith".

Meddai'r llefarydd: "Mae awdurdodau lleol yn gweithio gyda byrddau iechyd i gynyddu nifer y gweithwyr gofal yn y cartref a byddwn ni'n rhyddhau manylion yn fuan am waith sy'n mynd rhagddo i gynyddu nifer y gwelyau yn y gymuned ar gyfer y gaeaf."