Ymgyrch Cyngor Môn i recriwtio mwy o weithwyr gofal
- Cyhoeddwyd

Mae pryderon bod llai o bobl yn ymgeisio am swyddi ym maes gofal oedolion, er fod y galw am gymorth yn parhau i gynyddu
Mae un o gynghorau'r gogledd wedi lansio ymgyrch recriwtio yn sgil heriau denu a chadw gweithwyr gofal.
Fel rhan o'r ymgyrch mae hysbysebion bellach yn cael eu harddangos ar gerbydau Cyngor Môn i recriwtio mwy o ofalwyr cartref a gweithwyr gofal.
Daw yn sgil pryderon fod hi'n mynd yn anoddach i gyflogi gweithwyr priodol gan fod llai yn ymgeisio am y swyddi.
Yn ogystal mae nifer yn gadael wedi iddyn nhw gyrraedd oed ymddeol neu am eu bod yn cael gwell cyflog mewn meysydd eraill.

Mae hysbysebion yn ymddangos ar gerbydau Cyngor Môn mewn ymdrech i recriwtio mwy o ofalwyr
Gyda galw cynyddol am gymorth gofal i oedolion, mae'r cyngor yn ceisio lledaenu'r neges mewn sawl ffordd.
'Her gyffredinol'
Wedi lansio'r ymgyrch yn ystod Sioe Môn yr wythnos diwethaf, roedd Pennaeth Gwasanaeth Oedolion y cyngor yn awyddus i bwysleisio bod modd datblygu gyrfa dda yn y maes.
"Dwi'n meddwl fod hi'n her yn gyffredinol ar draws Cymru ar hyn o bryd", dywedodd Arwel Wyn Owen ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.
"Mae 'na nifer o swyddi ganddon ni, ond yn anffodus mae'r nifer o bobl sy'n ymgeisio wedi gostwng.
"Da ni'n awyddus i ddwyn sylw at y cyfleon sy'n bodoli o ran datblygu gyrfa a chreu gwaith a hefyd o ran sicrhau bod unigolion yn cael y cymorth pan bo nhw angen y cymorth hwnnw."

Arwel Wyn Owen. Pennaeth Gwasanaeth Oedolion Cyngor Môn
Wrth drafod y niferoedd is sy'n ymgeisio, ychwanegodd: "Mae'r gwaith da ni'n ei wneud ella hefo ryw syniadaeth ynddo fo ac mae pobl ella 'chydig bach yn nerfus i fentro i'r maes yma.
"Ond mae'n staff ni'n dweud bod nhw'n cael boddhad mawr o wneud y gwaith a mae'r gwaith yn cael ei werthfawrogi ac mae pobl yn gwneud gwahaniaeth bob dydd."
'Agor y ffordd'
"Ond ella bod yna ryw syniadaeth hen ffasiwn am y patrymau gwaith a'r math o gyfleoedd sydd ar gael, ond da ni'n ceisio newid hynny ac mae yna amrywiaeth o swyddi sydd hefyd yn agor y ffordd ar gyfer swyddi pellach a datblygu gyrfa a symud ymlaen i waith cymdeithasol a nyrsio.
"Mae o hefyd yn gyfle i bobl sy'n dychwelyd i waith ac i bobl ifanc hefyd."

Mae'r hysbysebion yn ymdrech i "amlygu bod y cyfleon yma ar gael"
"Da ni wedi gwneud gwaith eleni hefo Coleg Llandrillo Menai gan roi cyfleon i fyfyrwyr o fewn ein cartrefi gofal, ac mae hwnna wedi bod yn hynod lwyddiannus gydag adborth da iawn gan fyfyrwyr a defnyddwyr," ychwanegodd.
"Mae o 'di dod â ffresni newydd o ran dod a phobo ifanc i fewn... da ni hefyd am y tro cyntaf wedi bod yn rhoi hysbysebion swyddi ar gefn faniau'r cyngor er mwyn amlygu bod y cyfleon yma ar gael.
"Da ni'n agored iawn o ran y math o bobl da ni isho, y prif rinwedd ydi diddordeb mewn pobl."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd17 Mai 2022