Dechrau croesawu'r Eisteddfod i Rondda Cynon Taf

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Aberdâr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd digwyddiad Machlud Haf yn gyfle i deuluoedd ddod ynghyd i weld gorymdaith lusernau a chlywed gan gerddorion a storïwyr

Daeth tua 100 o bobl at ei gilydd ym Mharc Aberdâr nos Iau i ddechrau ar weithgareddau o groesawu'r Eisteddfod Genedlaethol i Rondda Cynon Taf.

Bydd y Brifwyl yn dychwelyd i'r ardal yn 2024 - y tro cyntaf iddi fod yn y sir ers 1956.

Roedd digwyddiad Machlud Haf nos Iau yn gyfle i deuluoedd ddod ynghyd i weld gorymdaith lusernau, a chlywed gan gerddorion a storïwyr.

Ym Mharc Aberdâr y cafodd yr Eisteddfod Genedlaethol fodern gyntaf ei chynnal ym 1861.

Mae trafodaethau yn parhau ynglŷn ag union leoliad yr Eisteddfod pan fydd yn ymweld â'r sir ymhen dwy flynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Katie Hall yn gweithio fel swyddog cymunedol gyda'r Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf

Roedd y gwaith yn mynd ymlaen "ers sbel" i baratoi ar gyfer digwyddiad nos Iau, yn ôl Katie Hall, sy'n gweithio fel swyddog cymunedol gyda'r Eisteddfod Genedlaethol yn y sir ers blwyddyn.

Fe fu'n cydweithio ar y trefniadau gyda chwmni lleol Citrus Arts ac ysgolion lleol.

"Spectacle tân wrth Gylch yr Orsedd," meddai ar raglen Post Prynhawn, oedd yn cloi'r noson yn dilyn y daith o amgylch y parc a straeon wrth y bandstand.

Gan fod cymaint o fwlch ers i'r ardal gynnal y Brifwyl am y tro diwethaf - yn Aberdâr ei hun, yn 1956 - dywedodd bod angen "tynnu sylw at y potensial o be' mae'r Eisteddfod yn ei olygu yn yr ardal".

I'r perwyl hynny, mae nifer o ddigwyddiadau peilot wedi cael eu cynnal yn lleol i godi ymwybyddiaeth, gyda'r gobaith eu bod, fel yr Eisteddfod ei hun, "yn rhoi profiad da o'r iaith Gymraeg i bobl [ac yn] cael pobl yn involved".

"'Dan ni'n meddwl bod o'n bwysig iawn i ddefnyddio'r celfyddydau a'r iaith Gymraeg i roi'n ôl i'r gymuned a chodi excitement rili am yr ŵyl sydd i ddod," meddai Katie.

Pynciau cysylltiedig