'Urddas a diogelwch cleifion uned frys yr Ysbyty Athrofaol yn y fantol'

  • Cyhoeddwyd
Adran Frys Ysbyty Athrofaol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ydy'r ysbyty mwyaf yng Nghymru

Mae arolygwyr iechyd wedi codi cyfres o bryderon yn dilyn archwiliad di-rybudd o'r uned frys ac asesu yn yr Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd.

Roedd yna amharu ar urddas a hunan-barch cleifion ar sawl achlysur yn ystod yr archwiliad tri diwrnod ym mis Mehefin, medd yr adroddiad.

Cafodd poteli wrin oedd wedi'u defnyddio eu gweld ar gypyrddau ger gwelyau cleifion ac roedd y sinc yn un o'r toiledau yn "amlwg yn fudr".

Cafodd cleifion eu gweld hefyd yn eistedd ar finiau neu ar y llawr oherwydd nad oedd digon o seddi ar gael.

Ymhlith y canfyddiadau eraill oedd meddyginiaethau ddim yn cael eu storio'n gywir, ac offer ddim yn cael ei archwilio fel ag y dylai.

Roedd llai na hanner y staff wnaeth siarad â'r arolygwyr yn dweud eu bod yn fodlon â safon y gofal oedd yn cael ei roi i gleifion.

Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn cydnabod bod yr adroddiad yn "ddarllen anodd", ond yn dweud bod cynllun gweithredu wedi cael ei sefydlu i fynd i'r afael â'r materion sy'n cael eu codi ynddo.

'Diogelwch cleifion yn y fantol bron yn ddyddiol'

Cafodd yr archwiliad di-rybudd ei gynnal gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru rhwng 20 a 22 Mehefin eleni.

Yn yr uned asesu, fe welodd arolygwyr gleifion yn cael eu nyrsio mewn cadeiriau sydd ddim wedi cael eu cynllunio ar gyfer eu defnyddio am gyfnod hir.

"Fe wnaethon ni weld un claf oedd wedi treulio'r noson ar ddwy gadair gyda chefn uchel oedd ddim yn gogwyddo," meddai'r adroddiad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Cafodd pryderon hefyd eu codi gan staff am yr adnoddau oedd ar gael iddyn nhw.

Fe ddywedodd un aelod o staff nad oedd yr adnoddau cywir ar gael i drin plant oedd wedi dioddef llosgiadau.

"Mae oeri gyda dŵr a dad-lygru yn rhan bwysig o reoli'r llosg, ond does ganddon ni ddim yr adnoddau i wneud hynny," meddai, "felly mae'n rhaid i ni geisio ffitio plant mewn sinc neu fynd â nhw i ystafell newid y staff er mwyn ceisio dod o hyd i gawod."

Fe ddywedodd staff hefyd bod morâl ar ei lefel isaf erioed, gydag un yn dweud bod "urddas a diogelwch cleifion yn y fantol bron yn ddyddiol, a hynny dros gyfnod hir".

'Gweithio'n galed i wneud gwelliannau'

Mewn ymateb, dywedodd Dirprwy Gyfarwyddwr y Bwrdd Clinigol ac Ymgynghorydd Uned Frys y bwrdd iechyd bod yr uned wedi bod o dan bwysau mawr ers cryn amser a'u bod yn derbyn casgliadau'r arolygwyr yn llawn.

"Mae'r timau wedi bod yn gweithio'n galed i wneud gwelliannau ac i wella'r profiad i gleifion, ac mae yna strategaeth gadarn yn ei lle i fynd i'r afael â'r materion ac i addasu gwasanaethau," meddai Katja Empson.

Fe ychwanegodd bod "rhai o'r materion yn yr adroddiad yn adlewyrchiad o'r pwysau ar draws y GIG. Mae gwasanaethau iechyd a gofal yn wynebu pwysau parhaus, ac mae'r gofynion ar y system argyfwng yn sylweddol."

Fy ddywedodd hefyd bod y bwrdd eisiau rhoi sicrwydd i'r tîm nad oedden nhw'n ystyried yr adroddiad fel adlewyrchiad o'r ymdrechion a'r ymrwymiad y maen nhw'n parhau i'w ddangos.