Torri trethi'n 'gambl enfawr' - llywodraethau datganoledig
- Cyhoeddwyd
Mae llywodraethau Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi galw am gyfarfod brys gyda'r canghellor yn dilyn "gambl enfawr" ei ddatganiad ariannol diweddar.
Mewn llythyr ar y cyd i Kwasi Kwarteng, mae'r llywodraethau'n gofyn am drafod "gweithredu ar unwaith" i wyrdroi effeithiau ei benderfyniad.
Mae'r llythyr wedi cael ei arwyddo gan Rebecca Evans, gweinidog cyllid Llywodraeth Cymru ynghyd â gweinidogion cyllid Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae Liz Truss wedi gwrthsefyll pwysau i wneud tro pedol ar fesurau wnaeth arwain at y bunt yn gostwng i'w lefel isaf erioed yn erbyn y ddoler ac at Fanc Lloegr yn gorfod ymyrryd i roi sicrwydd i farchnadoedd arian.
Dywedodd y prif weinidog y byddai'n "gafael yn dynn" ar gyllid.
Mae'r llythyr yn dweud: "Mae llywodraeth y DU wedi dewis gwneud pethau'n sylweddol waeth drwy gyhoeddi pecyn enfawr o doriadau treth i'r mwyaf cyfoethog heb unrhyw esboniad credadwy o sut y bydd rhain yn cael eu talu.
"Mae angen gweithredu ar frys nawr er mwyn mynd i'r afael â'r problemau sy'n wynebu'r economi, gwasanaethau cyhoeddus a chartrefi ar hyd y wlad."
Dywedodd Ms Truss ei bod "wedi ymrwymo" i gyhoeddi rhagolygon economaidd annibynnol a dadansoddiad o'i chynlluniau i dorri trethi ar 23 Tachwedd.
Mae disgwyl i'r canghellor, Kwasi Kwarteng, gyhoeddi cynlluniau economaidd pellach ar yr un diwrnod.
Mewn cyfweliad â rhaglen Today BBC Radio 4, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Syr Robert Buckland, y bydd Kwasi Kwarteng yn llwyddo i ddarbwyllo'r marchnadoedd arian fod ei gynlluniau yn gweithio pan fydd yn cyhoeddi rhagor o fanylion fis nesaf.
Ond fe wnaeth gydnabod fod y cyhoeddiad ariannol gafodd ei wneud dros wythnos yn ôl wedi arwain at ansefydlogrwydd.
Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorylys mai eu blaenoriaeth yw "tyfu'r economi a gwella safon byw i bawb".
"Ry'n ni wedi camu i mewn gydag ymyrraeth ddigynsail ar filiau ynni er mwyn cadw costau'n isel i gartrefi a busnesau y gaeaf hwn."
Ychwanegon y bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhannu gan y canghellor ym mis Tachwedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Medi 2022