Beth oedd pobl Cymru eisiau o'r 'gyllideb fach'?

  • Cyhoeddwyd
Thomas Jones siop goffi T.H. Porthmadog
Disgrifiad o’r llun,

Mae Thomas Jones yn credu mai busnesau bach sy'n dioddef waethaf ar y funud

Rhoi hwb i'r economi ydy nod Llywodraeth y DU wrth wneud cyhoeddiad ariannol ddydd Gwener.

Ymysg y cyhoeddiadau yn y 'gyllideb fach' oedd tynhau'r rheolau ar Gredyd Gynhwysol, torri'r gyfradd sylfaenol o dreth incwm 1% a chael gwared ar y gyfradd uchaf o dreth incwm.

Roedd y Canghellor Kwasi Kwarteng eisoes wedi cyhoeddi y bydd y cynnydd o 1.25% mewn Yswiriant Gwladol, a gyflwynwyd fis Ebrill, yn cael ei wrthdroi.

Ers i Liz Truss gymryd yr awenau fel prif weinidog ddechrau'r mis, mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd biliau ynni cartrefi a busnesau yn cael eu cyfyngu y gaeaf hwn.

Y DU eisoes mewn dirwasgiad?

Ddydd Iau fe wnaeth Banc Lloegr godi cyfraddau llog o 1.75% i 2.25%. Mae'r gyfradd bellach wedi'i chodi saith gwaith yn olynol i'r lefel uchaf mewn 14 mlynedd.

Mae'r banc wedi rhybuddio ei bod yn bosib fod y DU eisoes mewn dirwasgiad.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod eisiau gweld "gweithredoedd beiddgar" yn y cyhoeddiad ddydd Gwener. Ond beth am y Cymry yn ehangach?

Pa gymorth mae'r cyhoedd eisiau?

Cyn ei ddatganiad ddydd Gwener roedd y Canghellor Kwasi Kwarteng wedi dweud: "Er mwyn codi safonau byw i bawb mae angen i ni fod yn ddiymddiheuriad am dyfu ein heconomi" a bod "trethu ein ffordd tuag at ffyniant erioed wedi gweithio".

Ond faint o gymorth fydd y cyhoeddiad i'r cyhoedd?

Roedd Thomas Jones o siop goffi T.H. ym Mhorthmadog yn gobeithio am "'wbath i helpu busnesau bach".

"Dwi'n meddwl mai ni sy'n stryglo mwya'. Mae lot o bobl yn stryglo talu bills nhw, ond 'da ni fel busnes bach efo staff i supportio, a ma' bils ni'n mynd fyny hefyd," meddai.

"So 'da ni angen codi prisia' ni i dalu'n bils ni, ond wedyn mae'n costio mwy i bawb arall.

"Mae'n teimlo fel attack from all sides i fusnesa' bach."

Ychwanegodd y bydd y penderfyniad i wrthdroi'r cynnydd mewn Yswiriant Gwladol yn "help bach, ond dio'm yn llawer".

"Os ti'n cymharu faint nawn ni safio ar National Insurance efo faint o bonuses mae pobl sy' efo pres yn barod yn ei gael, drop in the ocean ydy o."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Linda Cowee eisiau i Lywodraeth y DU fynd i'r afael â'r cynnydd ym mhrisiau trydan a bwyd

Roedd Linda Cowee yn gobeithio y byddai Llywodraeth y DU yn gwneud mwy i fynd i'r afael â chwyddiant.

"Mae angen gwneud rhywbeth am brisiau trydan a bwyd - helpu pobl mewn tlodi. Mae popeth yn mynd fyny ac mae'n rhaid gwneud rhywbeth," meddai.

"Mae pethau'n ddrwg ofnadwy. Fedra i ddim budgetio rŵan - s'gen i ddim byd ar ôl ar ddiwedd wythnos."

Disgrifiad o’r llun,

"Dydi cyflog minimum wage ddim digon da dyddia' yma," meddai Ifan Williams

Mae Ifan Williams yn gweithio mewn siop cigydd ym Mhorthmadog. Ag yntau wrthi'n prynu tŷ, roedd wedi dychryn ar lefelau cyfraddau llog.

"Os fysan nhw'n dod ag interest rates i lawr 'sa hynny'n help mawr," meddai.

"I rywun ifanc fel fi a'm mhartner sy'n prynu tŷ, mae mortgage payments bob mis yn uffernol o uchel.

"Dwi 'di gorfod mynd i chwilio am swydd arall - dydi cyflog minimum wage ddim digon da dyddia' yma."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elen Davies eisiau gweld mwy o dreth yn cael ei godi ar y busnesau mawr sy'n cyflenwi ynni

Mae Elen Davies, sy'n gweithio fel swyddog datblygu cymunedol gyda Menter Cwm Gwendraeth Elli, yn byw gyda'i gŵr a'i mab dwy oed yng Nghaerfyrddin.

Roedd hi eisiau i Lywodraeth y DU fynd i'r afael â gwraidd y broblem o ran biliau ynni, a chodi mwy o dreth ar y busnesau mawr sy'n eu cyflenwi.

"Be sy' ddim yn iste'n gyfforddus gyda fi yw chi'n gweld cymaint o elw mae'r cwmnïoedd mawr ynni hyn yn wneud, yn enwedig yn y flwyddyn ddiwetha' ers iddyn nhw godi'r cap trwy'r amser," meddai.

"Mae'r elw maen nhw'n wneud yn ddychrynllyd, a chi jest yn gweld teuluoedd wedyn 'ny yn byw o ddydd i ddydd yn trio gwneud hi o wythnos i wythnos.

"Bydde fe'n neis gweld bod rhyw fath o dreth neu rywbeth yn cael ei godi ar y cwmnïoedd mawr hyn, fyddai'n help i'r bobl gyffredin sy'n trio'i gwneud hi o wythnos i wythnos."

'Deall yr heriau sy'n wynebu pobl'

Dywedodd y sefydliad ymchwil yr IFS mai hwn yw'r gostyngiad mwyaf mewn trethi ers hanner can mlynedd.

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod angen i lywodraeth newydd y DU "ddangos eu bod wir yn deall yr heriau sy'n wynebu pobl, busnesau a'n gwasanaethau cyhoeddus yn ystod un o'r amseroedd economaidd mwyaf heriol i ni ei wynebu erioed".

Dywedodd eu llefarydd: "Rydyn ni eisoes wedi gwneud ein blaenoriaethau yn eglur iawn i'r Canghellor, ac mae'r datganiad yma yn gyfle i Lywodraeth y DU ddangos nad yw eu blaenoriaethau yn y llefydd anghywir, fel y llywodraeth ddiwethaf."