Claf MS wedi dioddef 'anghyfiawnder sylweddol'
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth claf ddioddef "anghyfiawnder sylweddol" oherwydd methiant Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i wneud diagnosis o'i sglerosis ymledol (MS) am 16 mis, yn ôl adroddiad.
Er bod y bwrdd wedi comisiynu gofal ar gyfer David Purnell yn Lloegr, roeddynt yn dal yn gyfrifol am fonitro a goruchwylio'r gofal hwnnw.
Ond yn ôl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ni wnaeth Betsi Cadwaladr hynny'n ddigonol.
Dywedodd Mr Purnell, 47 o Ynys Môn, ei fod yn teimlo nad oedd meddygon yn ei gredu.
Yn ei hadroddiad mae'r Ombwdsmon Michelle Morris yn pwysleisio na fyddai diagnosis cynharach wedi newid canlyniad clefyd y claf yn sylweddol.
Ond wrth ddyfarnu fod y bwrdd wedi camweinyddu ac achosi anghyfiawnder sylweddol i'r claf, mae'n argymell y dylai ymddiheuro a thalu £6,835.38 o iawndal am y methiannau.
Mewn ymateb dywedodd y bwrdd iechyd eu bod yn "ymddiheuro'n ddiffuant am y camau a nodwyd yn yr adroddiad" a'u bod am rannu'r adroddiad gyda'r Ymddiriedolaeth GIG yn Lloegr a wnaeth ddarparu gofal i'r claf, er mwyn gwneud gwelliannau.
Cefndir yr achos
Cafodd Mr Purnell ei gyfeirio at wasanaethau niwrolegol Ysbyty Gwynedd gan ei feddyg teulu yn Chwefror 2018 ar ôl dangos symptomau oedd yn cynnwys trafferthion symud, blinder a gwingiadau.
Ym mis Mai, gwelodd Mr Purnell ymgynghorydd niwrolegol mewn ysbyty Ymddiriedolaeth GIG yn Lloegr, ble cafodd sgan MRI.
Dywedodd fod y sgan wedi egluro'r poenau oedd ganddo yn ei gefn, ond nid ei symptomau eraill.
Gofynnodd am ragor o brofion a barn feddygol arall, ond mae'r adroddiad yn dweud bod y niwrolegydd yn awgrymu paratoi adroddiadau seicolegol oherwydd "gorbryder difrifol ac iselder".
Ar ôl dychwelyd at ei feddyg teulu cafodd Mr Purnell ei gyfeirio at niwrolegydd arall mewn Ymddiriedolaeth GIG yn Lloegr, a'i gwelodd ar 19 Medi 2019.
Cafodd ddiagnosis o MS ar 14 Tachwedd - 16 mis ar ôl ei atgyfeiriad gwreiddiol.
Dywedodd Mr Purnell ei fod yn bryderus ynglŷn â'r diffyg diagnosis rhwng Mai 2018 a Medi 2019, ac roedd hefyd yn poeni nad oedd ymatebion yr Ymddiriedolaeth yn Lloegr a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i'w gŵyn "yn gadarn ac yn gywir".
'Popeth yn anodd iawn'
Dywedodd nad oedd meddygon yn ei gredu, a bod ei gyflwr wedi gwaethygu yn y cyfnod.
"Mae straen yn beth drwg iawn i MS... doedd neb yn fy nghredu felly roedd pethau'n mynd yn waeth.
"Ac o'n i'n gorfod mynd i'r gwaith achos do'n i ddim yn cael cefnogaeth - roedd popeth yn anodd iawn."
Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn a dywedodd fod yr ymchwiliad, a'r amser a gymerwyd i wneud diagnosis o'i gyflwr, yn "is na'r safon briodol o ofal".
Pan gyfeiriwyd pryder Mr Purnell at Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd y gofal a gomisiynwyd ar ei gyfer wedi cael ei fonitro'n ddigonol i wneud yn siŵr ei fod yn briodol ac addas.
Wrth roi ei sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Michelle Morris bod y "diagnosis gohiriedig a phriodoliad ei symptomau i ffactorau seicolegol neu seiciatrig wedi achosi pryder ac ansicrwydd diangen" i Mr Purnell, a gafodd ei adnabod fel Mr A yn yr adroddiad.
"Roedd hyn yn anghyfiawnder sylweddol iddo," meddai.
"Rwy'n bryderus bod y bwrdd iechyd, ar lefel gomisiynu ac yn ei rinwedd ei hun, wedi methu â sicrhau bod yr Ymddiriedolaeth yn cydnabod ac yn cyfaddef yn llawn i raddau'r methiannau sy'n amlwg yn yr achos hwn ynghyd â'r effaith ar Mr A.
"Mae diffyg ymateb agored ac amserol i gŵyn Mr A nid yn unig yn gamweinyddiaeth ond yn golygu hefyd fod rhan bwysig o rôl fonitro'r bwrdd iechyd, sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo gael trosolwg a chraffu trylwyr ar y corff a gomisiynwyd, wedi'i cholli."
Dywedodd Gill Harris, dirprwy brif weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Rydym yn ymddiheuro'n ddiffuant i Mr A am y canfyddiadau a nodwyd yn adroddiad yr Ombwdsmon a byddwn yn cysylltu'n uniongyrchol â'r claf.
"Rydym wedi derbyn argymhellion yr Ombwdsmon ac rydym yn gweithredu newidiadau i sut rydym yn monitro gofal cleifion ar gyfer y rhai sydd wedi eu cyfeirio at ymddiriedolaethau ysbytai yn Lloegr.
"Byddwn hefyd yn rhannu'r adroddiad gyda'r Ymddiriedolaeth GIG yn Lloegr a wnaeth ddarparu gofal i Mr A er mwyn cefnogi ei gwelliant."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd9 Awst 2022