Pennod newydd i un o siopau llyfrau Cymraeg fwyaf Môn

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Dylan Morgan wedi penderfynu troi ei fryd at ei fusnes cyfieithu

Bydd hi'n bennod newydd i siop lyfrau Cymraeg ar Ynys Môn wrth iddi newid dwylo am y tro cyntaf mewn 32 mlynedd.

Sefydlwyd Cwpwrdd Cornel yn Llangefni hanner can mlynedd yn ôl, gyda Dylan Morgan yn cymryd yr awenau yn 1990.

Ond wrth i'w gyfnod ddirwyn i ben, dywedodd Mr Morgan ei fod yn obeithiol am ddyfodol siopau llyfrau Cymraeg er gwaethaf trafferthion y stryd fawr.

Mae dyfodol Cwpwrdd Cornel o leiaf yn ddiogel ar ôl i berchnogion siop lyfrau leol arall ei phrynu.

Disgrifiad o’r llun,

Fe sefydlwyd Cwpwrdd Cornel gan Bessie Burns yn 1972 cyn symud i'w safle presennol yng Nghanolfan y Ffowndri yn 2001

Gan siarad gyda Cymru Fyw yn ystod ei wythnos ddiwethaf wrth y llyw, dywedodd Mr Morgan: "Mae hi wedi bod yn gyfnod difyr iawn ac mae'r amser wedi hedfan, ond roeddwn yn teimlo fod yr amser wedi dod gyda'r Cwpwrdd Cornel ar fin dathlu hanner canmlwyddiant ei sefydlu ar Dachwedd 12fed.

"Ges i ddechrau anhygoel ar Ddydd Gŵyl Dewi 1990 - y diwrnod oeddwn yn agor cafodd llyfr clawr caled Hanes Cymru Dr John Davies ei gyhoeddi, ac nid yn aml oedd gofyn mawr am lyfr gwerth £30.

"Ar ben hynny oedd holl helynt Bryn Fôn yn cael ei arestio, yn cydredeg ag anterth poblogrwydd Bryn fel prif ganwr Sobin a'r Smaeliaid ac roedd C'mon Midffîld yn hynod o boblogaidd ar y teledu, felly doeddwn methu cael digon o gasetiau Sobin na chrysau-T C'mon Midffîld, felly fues yn hynod o lwcus gyda'r dechrau ges i."

Newidiadau mawr

Ond dros gyfnod o 32 mlynedd mae sawl newid wedi bod, gydag oes y casét a'r tapiau VHS yn dod i ben wrth gael eu disodli gan gryno ddisgiau a DVDs.

Er hynny, dywedodd Mr Morgan fod gwerthiant llyfrau wedi parhau'n sefydlog dros y blynyddoedd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i Gwpan y Byd sbarduno mwy o ddiddordeb mewn deunydd yn dathlu llwyddiant y tîm cenedlaethol

"Mae llyfrau wedi aros yn gyson ar hyd y blynyddoedd, yn ogystal â chardiau ac anrhegion.

"'Da ni newydd gael pethau'r haf yma yn dathlu fod Cymru wedi cyrraedd Cwpan y Byd a mae'n siŵr bydd 'na ragor o gynnyrch wrth i Gwpan y Byd agosáu.

"Ond mae llyfrau wedi bod yn sylfaen gadarn i'r busnes a dwi'n siŵr, mewn cyfnod digon anodd, bydd llyfrau yn dal i fynd."

Pan ofynnwyd sut fod siop fel Cwpwrdd Cornel wedi goroesi pan fo cymaint o rai eraill ar y stryd fawr wedi cau, ychwanegodd fod ffyddlondeb cwsmeriaid yn hollbwysig.

Dywedodd hefyd fod ffyniant amlwg yn y farchnad llyfrau a deunydd i'r rheiny sy'n dysgu'r Gymraeg, gan hefyd groesawu cynllun gan Lywodraeth Cymru i ddarparu tocyn llyfr gwerth £7 i bob disgybl uwchradd yng Nghymru rhwng blynyddoedd 7 ac 11.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gwerthiant llyfrau wedi dal ei dir dros yr holl flynyddoedd, yn ôl Dylan Morgan

"Mae 'na farchnad i lyfrau plant ac oedolion," ychwanegodd.

"Mae hunangofiannau a nofelau wastad yn boblogaidd ac rydym yn ffodus iawn ar Ynys Môn fod ganddom awduron poblogaidd sy'n cynhyrchu'n gyson.

"John Alwyn Griffiths, y mwyaf cynhyrchiol ohonyn nhw i gyd, mae ei unfed nofel ar ddeg newydd gyrraedd... mae wedi magu dilyniant mawr.

"Mae Marlyn Samuel yn boblogaidd iawn ac mae gynnon ni Sonia Edwards, Mared Lewis a Dyfed Edwards, mae nhw i gyd yn nofelwyr o Fôn sy'n cyhoeddi'n gyson iawn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae dyfodol y siop yn ddiogel yn dilyn ei bryniant gan berchnogion siop lyfrau Awen Menai ym Mhorthaethwy

"Wrth gwrs mae hi wedi bod yn heriol drwy Covid a'r argyfwng costau byw, ond all pethau ddim mynd yn waeth, dwi ddim yn meddwl!

"Dwi'n meddwl fod siop fel hon wastad wedi bod yn fwy na rhywle i werthu gan ei fod yn wasanaeth.

"Mae newyddion papur bro yn cael ei gasglu yma, tocynnau cyngherddau a dramâu ac ati, felly mae wedi bod yn gyrchfan i bobl gymdeithasu yn ogystal â phrynu a gwerthu."

'Atyniad i'r dref'

Wrth i 32 mlynedd Dylan Morgan yn y Cwpwrdd Cornel ddod i ben - ar Ddiwrnod Cenedlaethol Siopau Llyfrau, fel mae'n digwydd - dywedodd un o gynghorwyr sir y dref fod y trosglwyddiad yn nodi diwedd cyfnod.

Disgrifiad o’r llun,

Nicola Roberts: "Mae'n wych fod o'n dal i wasanaethu ni fel cymuned"

"Mae'n end of an era," meddai'r Cynghorydd Nicola Roberts.

"'Da ni gyd yn ddiolchgar i Dylan am redeg y siop mor llwyddiannus a bod yn rhan bwysig o'r gymuned am gymaint o flynyddoedd rŵan.

"Dwi'n meddwl bod y rhan fwya' ohonon ni wedi tyfu fyny hefo'r siop a'r llyfrau sydd ar gael.

"Mae'n bwysig ofnadwy [bod y siop yn aros ar agor], mae'n rhan bwysig o'r gymuned efo Llangefni yn un o'r ardaloedd mwyaf Cymraeg sydd 'na drwy Gymru.

"Os dim arall mae'n atyniad i'r dref, un o'r USPs [unique selling point] bach 'ma ac mae'n wych fod o dal i wasanaethu ni fel cymuned."

Disgrifiad o’r llun,

Ioan Prys: "Mae gwerthiant llyfrau wedi bod yn dda ers blynyddoedd"

O ddydd Llun bydd Cwpwrdd Cornel yn nwylo perchnogion Awen Menai - siop Gymraeg ym Mhorthaethwy, sydd tua saith milltir o Langefni.

Dywedodd Ioan Prys, cydberchennog y busnes: "Oeddwn wedi clywed fod Dylan yn cysidro ymddeol ac mi oedden ni'n teimlo fod hi'n bwysig fod trefi fel Llangefni efo siop lyfrau.

"I dref fel Llangefni, sy'n un Cymreig iawn, os allwch chi ddim cael siop lyfrau yno yna mae hi'n ddrwg dydy? Bydd o'n llwyddiannus gobeithio.

"'Da ni'n gobeithio bod dyfodol... mae gwerthiant llyfrau wedi bod yn dda ers blynyddoedd.

"Dydy o heb ddisgyn lot yn yr 12 mlynedd 'da ni wedi bod yn Awen Menai - digwydd bod hefyd 'da ni ym Mhorthaethwy, sy'n dref lwyddiannus.

"Mae'r bobl 'da ni 'di siarad efo yn Llangefni yn gefnogol iawn a 'da ni'n edrych ymlaen i ddod i adnabod y dref yn well."

Pynciau cysylltiedig