Costau byw: Sut i leihau biliau nwy a thrydan

  • Cyhoeddwyd
Mesurydd clyfarFfynhonnell y llun, Getty Images

Gyda phrisiau ynni'n codi i filiynau o bobl ar draws Prydain, mae 'na bryder fydd mwy o bobl yn methu talu biliau ac yn mynd i ddyled.

Daeth y cap diweddaraf ar brisiau ynni i rym ar draws y DU ddydd Sadwrn 1 Hydref. Yn achos defnyddwyr domestig sy' ddim ar delerau sefydlog, mae'n golygu cost ar gyfartaledd o tua £2,500 y flwyddyn i'r cartref arferol - cynnydd o 27% - ond mae'r gwir filiau'n dal yn dibynnu ar faint o ynni y mae pob cwsmer yn ei ddefnyddio.

Un sy'n cynnig help i bobl ar fudd-daliadau yng Ngwynedd yw Meilyr Tomos sy'n gweithio i Y Dref Werdd ym Mlaenau Ffestiniog, prosiect sy'n taclo tlodi tanwydd ac yn cynnig cyngor am leihau defnydd ynni.

Ffynhonnell y llun, Meilyr Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Rhian Medi a Meilyr Tomos, Y Dref Werdd

Yma, Meilyr sy'n egluro am y sefyllfa yno a'r trafferthion mae rhai yn ei wynebu, gan gynnig cyngor am sut i leihau biliau egni:

Sefyllfa yng Ngwynedd

Mae cysyniad y cap ar brisiau yn anodd i'w ddeall gan mai cap cyfartalog ydi o ac mae amgylchiadau pawb mor wahanol. Mae rhai efo nwy rhwydwaith, rhai heb, rhai yn dal i ddefnyddio paraffin heaters yn Blaenau. Felly mae'n anodd rhoi ffigwr ar lle fyddan ni erbyn y gaeaf.

Mae nwy dal hanner y pris y cilowat i gymharu efo trydan. 'Does gan cyrion ein pentrefi ni a'r ardaloedd gwledig yng Ngwynedd ddim nwy - maen nhw'n ddibynnol ar olew, LPG neu trydan i gynhesu a dyw olew a LPG ddim yn cael ei rheoleiddio gan Ofgem felly does dim cap.

Mae'r bobl sy'n defnyddio'r tanwydd hynny, mae eu prisiau nhw wedi neidio fyny dros nos.

Mae 'na dipyn o dai cymdeithasol yng Ngwynedd yn cael eu cyflenwi efo olew neu LPG a trydan. Mae lot ohonyn nhw yn Blaenau. Mae costau byw tŷ sy'n cael ei gynhesu gan drydan o leiaf tua £500 y flwyddyn yn fyw - does dim adlewyrchiad o hynny yn y system fudd-daliadau.

Y pobl sy' wedi copio fo yn syth yw'r pobl mwyaf bregus - y rhai sy'n talu efo prepayment meters. Dydyn nhw ddim yn cael cynnig y fixed deals gan y cwmnïau ynni. Mae'r ystod o tariffs alli di ddewis os ti'n talu drwy prepayment yn fach iawn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Sut all bobl gadw biliau trydan a nwy i lawr? Newid ymddygiad

Rhowch y thermostat i lawr un gradd.

Defnyddiwch technoleg sy'n rhaglenni'r gwers i ddod ymlaen ar amser penodol, yn sicr yn y bore. O ran seicoleg y peth os ti'n deffro a'r tŷ yn gynnes, mae'n oce. Beth sy'n gallu digwydd yw mae pobl yn deffro i dŷ oer ac yn troi pob gwres ymlaen ac yn gwastraffu gwres fel hynny.

Cofiwch gau drysau a defnyddiwch rhimynnau drafft (draught excluders).

Paneli solar - ystyriwch gyplysu'r system efo batris - pan mae'n dod i 4.30 y prynhawn, sef y cyfnod mwyaf prysur o ran ynni, mae'n bosib symud drosodd i ddefnyddio trydan wrth y batri. Mae'n costio dros £6k i osod system felly yn y tŷ.

Gosodwch ddefnydd inswleiddio eich hunain - mae rôl yn costio tua £20. Mae angen tua 250mm o inswleiddio yn y to. Os ydy'r defnydd inswleiddio yn hen, bydd llwch wedi disgyn arno a'i wasgu i lawr. Os chi'n ffit yn gorfforol ac yn defnyddio crawl boards, mae'n werth cael golwg yn yr atig ac ystyried lluchio 100mm ar ei ben o. Mwy pwysig fyth - os oes gyda chi aelodau o'r teulu sy'n hŷn a'n defnyddio lot o wres, ystyriwch gwneud hynny iddyn nhw.

Coginio - defnyddiwch popty araf (slow cooker) neu'r popty ping. Popty araf yw'r ffordd rhataf o goginio unrhyw beth. Yn aml mae'r bwyd sy'n rhad yn yr archfarchnad yn fwyd ti'n cynhesu yn y popty fel sglodion wedi rhewi, pizza, lasagne parod. Yn aml iawn mae'r bwydydd yma angen bod yn y popty am 40 munud i awr. Os ydy popty yn defnyddio 2 cilowatt 'neith o gostio £1 i goginio'r bwyd hynny am awr.

Oes 'na un peth hawdd gallai pawb fod yn gwneud?

Mesurydd clyfar (smart meter) - tu ôl i'r sgrin fach mae 'na safle we lle mae'r gwybodaeth am eich defnydd ynni llawer mwy manwl. Dyna'r math o addysgu ein hunain 'da ni angen gwneud.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Os ydy chi'n cael trafferth talu biliau:

Mae gan pob gwmni ynni gronfa ar gyfer pan chi mewn dyled.

Ac mi fydd darpariaethau ar gael trwy banciau bwyd neu cwmniau yn y sector - ewch at eich awdurdod lleol am gyngor pellach. Mae gan pob awdurdod lleol gyngor ar-lein fel yr adran help yma gan Gyngor Gwynedd., dolen allanol

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig help gydag effeithlonrwydd ynni, dolen allanol.

Mae Cymru Fyw eisiau clywed sut mae'r cynnydd mewn prisiau a chostau byw wedi effeithio arnoch chi.

Ydych chi wedi gorfod addasu y ffordd yr ydych chi'n siopa, gymdeithasu neu agwedd arall o'ch bywyd?

Rhannwch eich profiadau gyda ni ac fe fyddwn yn cyhoeddi detholiad o'r straeon ar Cymru Fyw. E-bostiwch: cymrufyw@bbc.co.uk