Arestio dau yn dilyn marwolaeth dyn yn Sir Y Fflint

  • Cyhoeddwyd
Precinct Way, BwcleFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Precinct Way ym Mwcle nos Fawrth

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi i ddyn arall farw yn dilyn adroddiadau o ymosodiad yn Sir Y Fflint.

Cafodd yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans eu galw i Precinct Way yn nhref Bwcle am 22:30 nos Fawrth.

Er gwaethaf ymdrechion parafeddygon, bu farw'r dyn yn yr ysbyty, medd Heddlu Gogledd Cymru.

Mae dyn o Fwcle wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac mae dynes, sydd hefyd o'r dref, wedi ei harestio ar amheuaeth o roi cymorth i droseddwr.

Dywedodd y llu bod y ddau'n parhau'n yn y ddalfa.

"Hoffwn roi sicrwydd i'r cyhoedd ein bod yn credu mai achos unigol oedd hwn a does dim rheswm i'r gymuned ehangach boeni," dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Mark Pierce.

"Serch hynny, fe fydd yna bresenoldeb heddlu fwy amlwg yn yr ardal heddiw tra ein bod yn cynnal rhagor o ymholiadau."

Pynciau cysylltiedig