Cyhuddo gyrrwr ambiwlans o achosi marwolaeth claf
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr ambiwlans wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o achosi marwolaeth claf oedd yn ei gerbyd.
Fe wnaeth Emrys Roberts, 61, o Fangor yng Ngwynedd wadu achosi marwolaeth Janet Winspear, 76, o Fryncrug ger Tywyn, wrth yrru'n ddiofal.
Clywodd ynadon yng Nghaernarfon bod yr ambiwlans, oedd ddim yn cludo cleifion brys, wedi taro yn erbyn cerbyd ar yr A470 ar gyrion Dolgellau ym mis Ebrill 2021.
Cafodd Mr Roberts ei ryddhau ar fechnïaeth cyn iddo ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon fis nesaf.