Nifer achosion Covid Cymru yn llai na Lloegr yn ystod y pandemig
- Cyhoeddwyd
Cafodd llai o bobl eu heintio gyda Covid yng Nghymru yn ystod dwy brif don y pandemig o'i gymharu â Lloegr, yn ôl dadansoddiad newydd.
Mae gwyddonwyr fu'n cynghori Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod 57% o Gymry wedi eu heffeithio, tra bod y ffigwr dros y ffin yn 71%.
Mae'r adroddiad gan y Grŵp Cyngor Technegol (TAC) yn dweud mai'r lefelau gwahanol o gyfyngiadau allai fod yn gyfrifol am hynny, ymysg pethau eraill.
Ond dydy hwnnw ddim yn edrych ar niwed anuniongyrchol y cyfyngiadau, fel yr effaith ar yr economi ac addysg.
Bu'r grŵp yn cynghori gweinidogion yn ystod y pandemig ac yn edrych ar y cyfnod rhwng diwedd Ebrill 2020 a Chwefror 2022 yng Nghymru a Lloegr.
Ni chafodd cymhariaethau eu gwneud gyda'r Alban a Gogledd Iwerddon oherwydd "maint llai y samplau" a doedd y data ddim ar gael tan yn ddiweddarach yn y pandemig.
Fe edrychon nhw ar ddata arolwg heintiadau coronafeirws y Swyddfa Ystadegau Gwladol gan ganolbwyntio ar dri chyfnod pan fu ymateb Cymru i'r pandemig yn wahanol i Loegr.
Yn ogystal â'r cyfyngiadau gwahanol, mae'r adroddiad yn nodi bod ymddygiad gwahanol pobl, a'r nifer sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru, wedi cyfrannu at lai o achosion.
Hydref 2020
Bu cyfnod clo byr a llym yng Nghymru ddiwedd mis Hydref 2020 i geisio sicrhau na fyddai'r Gwasanaeth Iechyd yn cael ei lethu.
Yn Lloegr, bu cyfnod clo o bedair wythnos ddechrau mis Tachwedd - bron i bythefnos yn ddiweddarach - pan oedd nifer yr achosion yn uwch.
Yn y ddwy wlad, bu gostyngiad yn nifer yr achosion newydd oherwydd y cyfyngiadau.
Ond mae'r adroddiad yn nodi bod y gyfran o bobl wnaeth brofi'n bositif yng Nghymru ar y pryd yn 2.34% o'r boblogaeth, o'i gymharu â 3.05% yn Lloegr.
Haf 2021
Fe gyflwynodd Cymru gyfyngiadau Lefel 4 ddiwedd 2020 cyn eu llacio yn raddol yn y gwanwyn gyda'r gyfran o heintiadau yn isel iawn am sawl mis.
Er symud i Lefel 1 o gyfyngiadau ym mis Gorffennaf wrth i amrywiolyn Delta ddod y mwyaf cyffredin, wnaeth Cymru ddim dod allan o'r cyfnod clo tan ddechrau mis Awst - fis ar ôl Lloegr.
Yn ystod y mis hwnnw, y darogan ydy bod 1.33% o'r boblogaeth wedi profi'n bositif yng Nghymru, o'i gymharu â 4.18% yn Lloegr.
Yn ôl adroddiad, roedd llacio'r cyfyngiadau yn ddiweddarach yn golygu bod llai o bobl yn profi'n bositif.
Mae hefyd yn egluro bod y feirws wedi ei drosglwyddo'n arafach a chafodd llai o bobl eu heintio yn 2021 gan fod mwy o bobl Cymru wedi eu brechu.
Gaeaf 2021/2022
O ganlyniad i gynnydd yn nifer yr achosion oherwydd amrywiolyn Omicron, cafodd nifer o bobl eu heintio yng Nghymru a Lloegr am y tro cyntaf.
Fe aeth Cymru i lefel 2 o gyfyngiadau o ddydd San Steffan 2021 ymlaen am fis. Doedd dim cyfyngiadau tebyg yn Lloegr ar y pryd.
Yn ôl yr adroddiad, cafodd llai o bobl newydd eu heintio yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr yn ystod y cyfnod hwn.
Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod nifer y bobl aeth i'r ysbyty yng Nghymru yn uwch nag yn Lloegr am ran fwyaf y cyfnod.
Ond roedd hyn i'w ddisgwyl, meddai'r adroddiad, gan fod gan Gymru boblogaeth hŷn, difreintiedig a bregus.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2020