Cyfnod clo byr yn dod i rym yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Llanbed
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y strydoedd yn dawel yn Llanbedr Pont Steffan wrth i'r cyfnod clo ddod i rym

Mae cyfnod clo byr wedi dod i rym yng Nghymru am 18:00 nos Wener, ac fe fydd yn para am 17 diwrnod.

Cafodd y cyfnod clo byr - fydd yn parhau tan 9 Tachwedd - ei gyhoeddi gan y Prif Weinidog Mark Drakeford ddydd Llun.

Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cymryd y cam er mwyn ceisio sicrhau na fydd y Gwasanaeth Iechyd yn cael ei lethu.

Mae dros 40,000 o bobl bellach wedi'u heintio yng Nghymru ers dechrau'r pandemig, gyda 1,756 o farwolaethau.

Beth mae'r cyfnod clo byr yn ei olygu?

Fel yn achos y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf ym mis Mawrth, mae'n rhaid i bobl aros adref er mwyn mynd i'r afael â'r cynnydd diweddar mewn achosion coronafeirws.

Bydd yn rhaid cael rheswm dilys i adael eich cartref, sef:

  • prynu bwyd;

  • casglu meddyginiaethau;

  • darparu gofal;

  • ymarfer corff;

  • mynd i weithio, os nad yw'n bosib gweithio o adref. Mae gweithwyr allweddol yn eithriad i hyn.

Bydd yn rhaid parhau i wisgo mygydau mewn mannau dan do cyhoeddus, sy'n parhau ar agor.

Bydd archfarchnadoedd, fferyllfeydd, banciau a swyddfeydd post yn parhau ar agor, ond bydd pob siop nad sy'n gwerthu nwyddau hanfodol yn cau o 18:00 ddydd Gwener.

Fel yn achos y cyfnod clo gwreiddiol, mae busnesau lletygarwch, twristiaeth a hamdden hefyd yn gorfod cau, ond bydd modd i fwytai gynnig gwasanaeth prydau parod.

Mewn cynhadledd i'r wasg yn gynharach ddydd Gwener, dywedodd Mr Drakeford mai bwriad y cyfnod clo newydd oedd i "achub bywydau, nid achub y Nadolig".

"Mae yna bethau y gallwn eu gwneud, ac y gallwn eu gwneud gyda'n gilydd, i wneud yn siŵr bod y Nadolig o fath yn dal i gael ei ddathlu yma yng Nghymru," meddai.

"Gadewch inni obeithio bod y mesurau sy'n cael eu rhoi ar waith mewn mannau eraill yn llwyddo hefyd, ac yna byddwn ni i gyd yn gallu cwrdd â theulu, gyda ffrindiau - cael rhyw fath o Nadolig, lle mae rhywbeth i ni i gyd ei ddathlu o hyd."

Mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd cyfarfod i drafod y camau nesaf ar ôl y clo yn digwydd ddydd Mawrth.

Dywedodd Eluned Morgan AS ar raglen Newyddion y byddai penderfyniad yn debygol ddydd Iau.

'Bydd y stats yn dangos'

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sharon Hale a Jeremy Lovesey bod ganddyn nhw amheuon am lwyddiant y clo byr

Yn Nhrecelyn, Caerffili, dywedodd Jeremy Lovesey ei bod hi'n nos Wener arferol iddo a Sharon Hale, oedd yn cael pryd tecawe.

"Cyn belled dwi yn y cwestiwn - anghofiwch e, bydd neb yn cymryd sylw ohono fe," meddai.

"Costiodd y clo diwethaf, achos bod rhaid i fi hunan-ynysu, £3,000 mewn cyflog - achos oll o'n i'n gallu cael o'dd £95 yr wthnos."

Dywedodd Sharon: "Pam pythefnos? Beth fydd hynny'n sicrhau? Dwi ddim yn meddwl bydd pythefnos yn sicrhau dim byd."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhaid aros i weld effaith y clo, meddai'r Cynghorydd Hag Harries

Yn Llanbedr Pont Steffan, dywedodd y Cynghorydd Hag Harries y byddai'n rhaid aros i weld beth fydd effaith y clo byr.

"Ar ôl y clo, bydd y stats yn dangos os ydy o'n llwyddo neu beth," meddai.

"I ddweud y gwir dwi bach yn sceptical am hynny, ond os mae'r cynllun yn helpu'r NHS i ymdopi gyda'r demand, dwi o blaid e."

Nwyddau hanfodol ar werth yn unig

Disgrifiad o’r llun,

Nwyddau nad ydynt yn rhai hanfodol o dan reolau'r cyfnod clo newydd wedi eu gorchuddio mewn archfarchnad yng Nghaerdydd brynhawn dydd Gwener

Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn "fater syml o chwarae teg" na fyddai archfarchnadoedd yn cael gwerthu eitemau a werthwyd gan siopau y mae'n ofynnol eu cau yn ystod y cyfnod clo.

"Rydyn ni'n mynnu bod cannoedd o fusnesau bach yn cau ar y stryd fawr ledled Cymru," meddai.

"Ni allwn wneud hynny ac yna caniatáu i archfarchnadoedd werthu nwyddau nad yw'r bobl hynny'n gallu eu gwerthu."

Nod y clo, meddai Mr Drakeford, oedd "lleihau faint o amser y mae pobl yn ei dreulio allan o'u cartrefi yn ystod y cyfnod o bythefnos".

"Nid yw hwn yn gyfnod i fod yn pori o amgylch archfarchnadoedd yn chwilio am nwyddau nad ydyn nhw'n hanfodol."

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud bod y cyfnod clo yn "anghymesur", ac mae Plaid Cymru wedi beirniadu diffyg cyfathrebu y llywodraeth.

Mae pryder hefyd am yr effaith gaiff y cyfnod clo byr ar fusnesau Cymru.