Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Ieuenctid Hanes Pobl Ddu
- Cyhoeddwyd
Cafodd 13 o unigolion eu hanrhydeddu yn seremoni flynyddol Gwobrau Ieuenctid Hanes Pobl Ddu Cymru, a gafodd ei chynnal yn y Senedd yng Nghaerdydd nos Iau.
Cafodd y bobl ifanc, sydd o dras Affricanaidd a Charibïaidd, eu henwebu mewn categorïau amrywiol gan gynnwys y meysydd gofal, busnes, celfyddydau, dinasyddiaeth a chwaraeon.
Dyma'r bumed blwyddyn i'r corff Race Council Cymru gynnal y seremoni, sy'n derbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.
'Ysbrydoli pobl ifanc i beidio rhoi lan'
Oherwydd ambell ffactor yn ei fywyd bob dydd, roedd y perfformiwr Isaac George, sy'n arddel yr enw Truth, yn ofni taw ei ffawd fyddai "carchar neu waeth".
Yn 19 oed ac o ardal Pilgwenlli, Casnewydd, Isaac ddaeth i'r brig yng nghategori'r celfyddydau perfformio oherwydd y negeseuon o bositifrwydd yn ei gerddoriaeth a'i waith yn y gymuned yn mentora pobl ifanc eraill.
"Rwy' eisiau trio ysbrydoli pobl [ifanc] a dweud wrth bobl i beidio rhoi lan achos mae gwaith caled yn talu," meddai ar ôl derbyn y wobr.
Fel rhan o brosiect cymunedol, fe ysgrifennodd Isaac nifer o ganeuon a fydd yn rhan o gynhyrchiad yn codi ymwybyddiaeth o'r heriau ym mywydau pobl ifanc, fel iechyd meddwl, anffafriaeth, camddefnyddio sylweddau, ecsploetio rhywiol, gangiau a throseddau cyllyll.
"Rwy' wedi tyfu lan mewn amgylchedd ble gall tlodi, dylanwadau negatif a phwysau gan gyfoedion eich hudo oddi wrth gyfleoedd.
"Dyna'r rheswm rwy'n diolch i Dduw am y bobl rwy' wedi eu cyfarfod a'r cyfleoedd ges i ganddyn nhw, a gyda nhw.
"Sylweddolais yn sydyn bod y bywyd o'm cwmpas naill ai'n gam cyntaf i'r carchar neu waeth."
Ychwanegodd bod cerddoriaeth yn fodd "i dywallt yr hyn ry'ch chi wir yn ei deimlo a grym o fewn y rhyddid i lefaru. Mae'n braf gwybod felly... bod rhywun yn gwrando ar yr hyn rwy'n ei drysori ac yn gallu gwerthfawrogi neu gytuno ar fy mhersbectif i."
'Braint cael impact'
Mae Theresa Ofure Ogbekhiulu, 23, yn gwneud MSc ar ddulliau ymchwil cymunedol ac yn Uwch Ymgynghorydd Cydraddoldeb Hiliol ym Mhrifysgol Abertawe.
Cafodd ei henwebu ar gyfer tri chategori, gan ennill y wobr Llwyddiant Academaidd Eithriadol. Hi'n sy'n llywio Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol y brifysgol, a chynlluniau sy'n codi ymwybyddiaeth o faterion anghydraddoldeb ac yn hybu diwylliant cynhwysol.
Mae ei gwaith a'i hymchwil, meddai, "yn taflu goleuni ar brofiadau myfyrwyr du" gan astudio arferion a meysyddd llefarydd y byd academaidd.
Mae hi hefyd yn gwirfoddoli gyda'r BMHS (BAME Mental Health Support) a'r Ganolfan Gymunedol Affricanaidd yn Abertawe.
"Symudais i Gymru yn 16 oed, a thros saith mlynedd wedi hynny Cymru bellach yw fy nghartref," meddai.
"Rwyd hefyd wedi bod yn freintiedig o allu gwneud impact ar fywydau llawer o bobl ifanc i'm cwmpas, ac mae cael cydnabyddiaeth am hynny yn fendith i mi.
"Diolch i Dduw a fy rhieni am ymddiried ynof i... mae'r wobr yma'n brawf pa mor bell gall gwaith caled fynd â chi.
"Gobeithio bydd hyn yn annog pobl ifanc dduon eraill bod eu lleisiau'n cyfri, na ddylien nhw fyth rhoi'r gorau arni."
'Llais i'r rhai heb lais'
Dr Mahaboob Basha oedd yr unig enillydd dros 30 oed. Cafodd ei enwebu, fel eithriad, ar gyfer gwobr arbennig am gyfraniad cyhoeddus i Gymru yn ystod y pandemig.
Yn ôl cydweithwyr ym Mhrifysgol Abertawe, mae wedi gwneud "impact difesur dros y 10 mlynedd diwethaf, dan ddadlau'n angerddol" ar ran pobl anghennus, gan gynnwys ffoaduriaid, ceiswyr lloches, y gymuned Foslemaidd a phobl sydd newydd gyrraedd y ddinas.
Mae Dr Basha'n disgrifio'i hun fel "ymgyrchydd gwleidyddiol ac undebol rhan amser", ac yn dweud ei bod "yn llais ar ran pobl heb lais... yn ne Cymru".
Roedd derbyn y wobr, meddai, "yn annisgwyl" ac roedd "yn wylaidd o fod wedi ennill a chynrychioli fy nghymuned. Mae'r gymuned yma wedi gwneud cymaint i fi - mae'n bryd i mi roi'n ôl iddyn nhw".
Ychwanegodd: "Rwy' eisiau bod yn llais y rhai heb lais yn y Senedd a heddiw yw'r cam cyntaf at hynny."
Gofalwr ifanc 'peniog â chalon aur'
Zinzi Sibanda, 15, enillodd y wobr Gofalwr Ifanc. Ers yn 12 oed mae hi'n helpu gofalu am ei mam, sydd ag anaf ymenyddol o ganlyniad math o enseffalitis.
Er yr holl gyfrifoldebau ychwanegol, fe gafodd farciau llawn yn ei harholiadau Cemeg diweddar.
Mae hi'n gobeithio astudio peirianneg cemegol yn Rhydychen neu Gaergrawnt, a dysgu'r gwyddorau yn y pen draw i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Wrth ei henwebu, dywedodd ei mam ei bod "yn beniog ac â chalon aur".
"Fel gofalwr ifanc du, mae Zinzi'n wynebu nifer o heriau," ychwanegodd.
"Mae ei hagwedd at ei chyfrifoldeb yn wahanol iawn i'w ffrindiau o ddiwylliannau gwahanol nad sydd â'r un rhwymedigaethau a dyletswyddau teuluol traddodiaol sy'n ddisgwyliedig ac yn arferol o fewn cymunedau Affricanaidd a Charibïaidd.
"Mae gofalu amdana' i, ei mam, yn ffordd o fyw... mae'n effeithio ar ei bywyd cymdeithasol ac yn rhoi pwysau ar ei bywyd ysgol."
Bydd Zinzi'n rhoi araith yn ystod lawniad Mis Hanes Pobl Ddu eleni, a hithau eisoes wedi ennill Gwobr Heddwch Ysgrifennwyr Ifanc Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2021