Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 7-5 Barnet
- Cyhoeddwyd
Roedd yna wledd o goliau ar y Cae Ras wrth i Wrecsam sicrhau buddugoliaeth mewn gêm llawn cyffro yn erbyn Barnet yn y Gynghrair Genedlaethol.
Roedd hi'n 3-2 ar ddiwedd yr hanner cyntaf a 7-5 oedd sgôr terfynol - y tro cyntaf i Wrecsam sgorio saith gôl mewn gêm ers 27 o flynyddoedd.
Roedd yna ddwy gôl yr un gan Aaron Hayden a Paul Mullin - goliau rhif 10 ac 11 Mullin y tymor hwn, gyda'r un olaf yn dod o gic o'r smotyn.
Thomas O'Connor, Luke Young ac Ollie Palmer oedd y sgorwyr eraill.
O fod 2-1 ar y blaen yn yr hanner cyntaf i fod 7-3 ar ei hôl hi yng nghanol yr ail hanner, ni roddodd Barnet yr ffidil yn y to, fodd bynnag, gan sgorio ddwywaith yn y 10 munud olaf i leihau'r bwlch.
Roedd canlyniad mor rhyfeddol yn ateb perffaith wedi'r golled ganol wythnos yn erbyn Notts County.
Mae'n golygu bod Wrecsam yn dal yn ail yn y tabl gyda 29 o bwyntiau - un yn llai na Notts County ar y brig a phedwar yn fwy na Boreham Wood sy'n drydydd.