Dirgelion Afon Dyfi
- Cyhoeddwyd
Mae Afon Dyfi sy'n tarddu yng Nghreiglyn Dyfi wrth droed Aran Fawddwy ac yn llifo i'r môr ger Aberdyfi yn gartref i fywyd gwyllt o bob math.
O'r bele i'r ŵydd dalcen wen ac afancod, un sydd wedi ei ryfeddu gan yr amrywiaeth o fywyd gwyllt sydd gan yr afon yw'r cyflwynydd radio, Richard Rees.
Mewn ffilm ddogfen Dirgelion Afon Dyfi ar S4C, 11 Hydref am 21.00 bydd Richard yn ein tywys ar ei hyd.
Richard fu'n rhannu ei wybodaeth am fywyd gwyllt Afon Dyfi gyda Terwyn Davies ar raglen Troi'r Tir, Radio Cymru.
Dechrau'r daith: Poeni am gyflwr Afon Tywi
Fe ddechreuodd y stori 'ma yn 2010 - fe benderfynes i rwy'n byw yn agos iawn at yr Afon Tywi ac oni'n poeni am gyflwr yr afon. Do'n i ddim yn meddwl fod yr afon yn edrych yn iach iawn.
Felly penderfynes i ar fy liwt fy hunan, doedd na ddim darlledwr yn y cwestiwn o gwbl jest i neud ffilm i ddangos yn lleol i bobl yr ardal o beth oedd gyda nhw o gwmpas yr afon Tywi o ran bywyd gwyllt a gymaint mae bywyd gwyllt yna yn dibynnu ar yr afon.
Fe dynnodd hynna dipyn o sylw gan S4C ac fe ofynnon nhw i fi os bydden ni yn cael trwyddedu'r rhaglen i ddangos ar y teledu ac wrth gwrs meddylies i bydde hynny yn fwy o gyhoeddusrwydd i'r afon.
Felly wnes i gytuno ac mae'n debyg bod yr ymateb i'r ffilm wedi bod yn eitha' da achos o ganlyniad ges i wahoddiad wedyn i wneud un ar afon arall a benderfynes i neud un ar afon Dyfi.
Pam Afon Dyfi?
Mae dipyn o bobl yn gofyn pam wnes i ddewis Dyfi. Mae'r Dyfi yn wahanol iawn i'r Tywi yn un peth ond mae'r amrywiaeth o fywyd gwyllt sydd yn y Dyfi yn wahanol hyd y gwn i i bron unrhyw afon arall yng Nghymru.
Dim ond 30 milltir o hyd yw hi, mae'n rhedeg lawr o Greiglyn Dyfi, lle mae'n tarddu, i Aberdyfi ond mae amrywiaeth o fywyd gwyllt ar hyd y ffordd oherwydd y coedwigoedd sydd o gwmpas, byd amaeth a'r ffermio sydd o gwmpas hefyd. Mae byd natur fan'na yn llawer fwy cyfoethog na rhan fwyaf o afonydd Cymru faswn i'n dweud.
Gymrodd y ffilm dair blynedd. Wy'n gwbod bod hynny yn mynd i swnio yn eithriadol - dwy flynedd oedd e fod ac wrth gwrs oedd COVID yn y canol, a nath hynny ehangu pethe. Dwi'n credu taw y peth pwysica yw dechre gweithio mas ble ar yr afon mae pethe'n digwydd.
Gyda'r Tywi be wnes i oedd dechre ar y môr, yna gweithio'n ffordd nôl lan i lle mae'r Tywi'n tarddu. Mae'r ffilm yma bach yn wahanol achos mae'n neidio o gwmpas bach yn fwy.
Mae'n dilyn yr afon o'r tarddiad i'r môr y tro hyn ond mae'r amrywiaeth o fyd natur wedi ei leoli mewn gwahanol lefydd felly mae'n anodd, amhosib bron 'neud un daith syth hollol achos mae'r ffilm hefyd yn dilyn y tymhorau. Felly o ddilyn y tymhorau a chanolbwyntio ar fyd natur mae'n rhaid symud o gwmpas yr afon rhywfaint yn fwy.
Felly weden ni bod ffilm Y Dyfi yn dilyn mwy o batrwm tymhorau nag yw hi'n ddaearyddol. Wedyn wrth gwrs y pwynt yw dod i 'nabod lle mae yr anifeiliaid yma yn byw a chi'n dibynnu ar bobl leol, cadwraethwyr lleol.
Yn yr ardal 'na maen nhw lwcus iawn dweud gwir - mae 'na warchodfa yn Ynys Las, mae 'na warchodfa yn Ynys Hir wedyn mae'r gwyddau sy'n cyrraedd 'na bob gaeaf - yr ŵydd dalcen wen.
Nawr mae'r ŵydd dalcen wen yn brin ar draws y byd. Does 'na ddim llawer ohonyn nhw yn unman ar draws y byd. A dim ond rhyw 20 ohonyn nhw sy'n dod i'r Dyfi bob gaeaf o'r Ynys Las.
Mae'n rhaid cadw mewn rheolau, a chymryd gofal eithriadol i wneud yn siŵr bod dim yn amharu ar yr ugain yna. Achos unwaith fyddan nhw di mynd, ychydig iawn ohonyn nhw fydd ar ôl yng Nghymru felly mae yna ystyriaethau fel'na hefyd sy'n dod i mewn i 'neud y ffilm wrth i chi ystyried ffordd a shwt i chi mynd i 'neud e.
Bywyd gwyllt Y Dyfi
Be dwi'n obeithio pan fydd pobl yn gweld y ffilm, dwi'n gobeithio falle cewn nhw eu synnu gyda rhai o enghreifftiau o fywyd gwyllt sy'n byw ar y Dyfi.
I ni gyd yn gwbod pethe amlwg fel bod y gweilch yn dod 'na o Affrica bob haf felly maen nhw wedi sefydlu yn iawn yn y ganolfan yn fan'na.
Mae yna afancod, dim ond tri ohonyn nhw ar hyn o bryd mewn lloc enfawr yng nghanolfan y Dyfi a maen nhw'n 'neud be maen nhw fod i neud sef gwella'r amgylchedd yn fan'na.
Dwi'm yn gwybod - gobeithio falle welwn ni nhw yn rhydd yn yr ardal rhyw ddiwrnod ond dwi'n credu falle bod dipyn bach o waith i 'neud cyn hynny.
Mi oedd y bele yn byw yn yr ardal beth bynnag, mi oedd yna ychydig bach, bach ohonyn nhw ond gafodd y boblogaeth ei hatgyfnerthu pan naethon nhw gyflwyno mwy ohonyn nhw o'r Alban chydig flynydde yn ôl a maen nhw bellach yn 'neud yn dda iawn.
Wrth gwrs, allwn ni ddim anghofio am y pysgod - a fi'n gobeithio bydd rhai o'r llunie o wely'r afon ac o'r pysgod yn agoriad llygad i rhai o bobl fydd falle'n gwylio.
Dwi'n gobeithio geith hi ymateb da. Mae'n rhaid cofio taw barn a golwg un person o'r sefyllfa yw'r ffilm. Yn fwy na dim fi'n gobeithio neith o godi ymwybyddiaeth o'r Dyfi ac afonydd Cymru'n gyffredinol.
Hefyd o ddiddordeb: