Llygredd: Afonydd Cymru yn wynebu 'sefyllfa enbyd'
- Cyhoeddwyd
Mae angen adolygiad o'r ffordd mae achosion o lygredd dŵr yng Nghymru yn cael eu hymchwilio, yn ôl grwpiau sy'n amddiffyn afonydd.
Nid yw miloedd o orlifiadau bychain yn cael eu harchwilio na'u hatal ar hyn o bryd, yn ôl y cyrff, ac mae hyn yn creu "sefyllfa enbyd".
Mae'n dilyn beirniadaeth o ddogfen, gafodd ei rhyddhau i'r cyfryngau, sy'n dangos bod Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr yn cyfarwyddo'u staff i anwybyddu llygredd effaith isel.
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru mae rheoli digwyddiadau yn rhan hanfodol o'u gwaith.
Mae dogfen Asiantaeth yr Amgylchedd wedi ei disgrifio fel "sgandal erchyll" gan yr Ymddiriedolaeth Afonydd.
Mewn adroddiadau yn y Guardian a'r Ends Report mae wedi dod i'r amlwg bod penaethiaid yn Lloegr wedi cefnogi "peidio ymateb" i ddigwyddiadau amgylcheddol effaith isel, oherwydd diffyg cyllid i ymchwilio iddyn nhw.
'Angen newid y diwylliant'
Nawr mae ymgyrchwyr yn dweud bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi mabwysiadu agwedd debyg ers blynyddoedd a bod angen newid y diwylliant hwn.
Yn ôl canllawiau ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru ers 2017, fyddai digwyddiadau risg isel "ddim yn teilyngu presenoldeb" staff na chwaith ymateb brys.
Mae enghreifftiau o achosion o lygru afonydd yn perthyn i'r categori hwn gan gynnwys y rhai sy'n achosi "mân golled cynefin pysgod" neu "golli niferoedd bach o fân rywogaethau fel crethyll (sticklebacks)".
Mae'r un peth yn wir am ddigwyddiadau sy'n achosi problemau iechyd cyhoeddus llai difrifol gan gynnwys "nifer fach o unigolion â dolur gwddf dros dro".
Gallai gorlif sy'n lladd un neu ddau o eogiaid neu frithyll môr hefyd gael ei ystyried yn ddigwyddiad effaith isel, er y byddai angen ymgynghori â swyddogion pysgodfeydd lleol.
'Anodd cael darlun cywir'
Mae stoc o'r pysgod mwyaf eiconig wedi cyrraedd "isafbwynt digynsail" yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyflwyno is-ddeddfau newydd sy'n gorfodi pysgotwyr i daflu pysgod nôl i'r afon.
Mae'r ddogfen yn nodi y dylai diddordeb y cyfryngau neu'r perygl i enw da Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn un ystyriaeth wrth bwyso a mesur ymateb i ddigwyddiad.
"Nid yw agwedd Asiantaeth yr Amgylchedd yn annhebyg i'r hyn sydd eisoes yn digwydd yng Nghymru," meddai Gail Davies-Walsh, prif weithredwr Afonydd Cymru, y corff sy'n cynrychioli ymddiriedolaethau afonydd Cymru.
Mae miloedd o "ddigwyddiadau lefel isel naill ai ddim yn cael eu hymchwilio o gwbl neu'n cael eu hystyried yn bell wedi'r digwyddiad," meddai.
Mae hynny'n golygu ei bod yn anodd iawn cael darlun cywir o raddfa'r llygredd amaethyddol, y garthffosiaeth a gwastraff busnes sy'n effeithio ar afonydd Cymru.
Yn 2019 mae ffigyrau Cyfoeth Naturiol Cymru'n dangos ei bod wedi derbyn 7,423 o adroddiadau o ddigwyddiadau'r flwyddyn honno, gyda 29% ohonyn nhw'n ymwneud â llygredd dŵr.
"Dyw'r achosion llai ddim yn cael eu hystyried yn broblem ar eu pen eu hunain - ond gyda'i gilydd maen nhw'n cael mwy o effaith ar ein hafonydd nag unrhyw un digwyddiad mawr," meddai Richard Garner Williams o Ymddiriedolaeth Afonydd De Ddwyrain Cymru.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hyd yn oed yn ei chael hi'n anodd plismona digwyddiadau "effaith lefel uchel" honnodd Mr Williams.
Yn ddiweddar, methodd y corff ddatrys yr hyn ddigwyddodd pan gafodd tua 45,000 o bysgod eu lladd yn Afon Llynfi ym Mhowys ac fe gafodd ei ddisgrifio fel "gwarth" gan gynghorwyr lleol.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio sawl tro am bwysau ariannu yn y blynyddoedd diwethaf ac mae Ms Davies-Walsh yn cydnabod bod diffyg adnoddau yn rhan o'r broblem.
Ond ychwanegodd bod angen newid diwylliant hefyd er mwyn canolbwyntio ar orfodi rheolau'n gadarn.
Yn ôl Hugo Tagholm, prif weithredwr Surfers Against Sewage does gan gyrff fel Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n gwarchod yr amgylchedd, ddim "digon o adnoddau" i wneud eu gwaith yn iawn.
"Rydym wedi gweld rheoleiddwyr yn cael llai o arian dros y ddau ddegawd diwethaf, i ymchwilio i lygredd amaethyddol a chwmnïau dŵr sy'n camymddwyn ac yn cyfrannu at ddinistrio cynefinoedd unigryw a bregus yn ein hafonydd ac ar hyd ein harfordir," esboniodd.
Mae angen degawd o "weithredu radical" i sicrhau bod y rhai sy'n llygru yn atebol ac yn cael eu gorfodi i fuddsoddi mewn glanhau afonydd a moroedd er mwyn brwydro'n erbyn newid hinsawdd, meddai.
Fe fydd penaethiaid Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymddangos o flaen pwyllgor newid hinsawdd y Senedd ddydd Iau ar gyfer sesiwn graffu flynyddol.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor Llyr Gruffydd, AS ei fod yn "bryderus iawn" bod disgwyl i Gyfoeth Naturiol Cymru wneud mwy a mwy er bod cyllideb y corff wedi gostwng yn flynyddol.
"Mae wedi colli 35% o'i gyllid mewn termau real ers ei sefydlu yn 2013 ac yn y cyfamser, wrth gwrs, mae wedi gweld cynnydd aruthrol yn ei ddyletswyddau a'i gyfrifoldebau statudol.
"Mae hwnna'n gwbl anghynaladwy a ddylen ni ddim synnu felly fod yna elfennau o'r gwaith sy'n anodd eu cyflawni - mae hwn yn amlwg yn un ohonyn nhw ac yn fy marn i mae hynny'n gwbl annerbyniol," ychwanegodd.
Osgoi achosion llys costus
Dywedodd Jeremy Parr o Gyfoeth Naturiol Cymru bod y corff yn cofnodi 6,800 o ddigwyddiadau bob blwyddyn ar gyfartaledd - gan gynnwys llifogydd, troseddau bywyd gwyllt, llygredd tir a dŵr.
"Mae ein hymateb yn seiliedig ar risg ac yn gymesur o fewn yr adnoddau sydd ar gael i ni, ac mae hyn yn golygu y gallwn ymateb yn gyflym i'r digwyddiadau hynny sy'n cael eu hasesu fel rhai effaith uchel. Mae hyn tua 1,100 yn flynyddol," meddai.
Ychwanegodd hefyd bod swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn edrych ar lawer o ddigwyddiadau risg is os oedd adnoddau a blaenoriaethau eraill yn caniatáu.
Ond atal digwyddiadau rhag digwydd yn y lle cyntaf oedd y prif nod, meddai Mr Parr.
"Trwy weithio gyda chwmnïau ac unigolion i wneud y peth iawn yn y lle cyntaf, rydyn ni'n osgoi ymchwiliadau ac achosion llys costus, gan ganiatáu i ni ddefnyddio ein hadnoddau cyfyngedig ar weithredu mwy cadarnhaol," meddai.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi gwarchod cyllideb graidd Cyfoeth Naturiol Cymru o £60m ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, er gwaetha'r ffaith ei bod yn "wynebu cael llai o arian gan San Steffan".
"Byddwn yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd â Chyfoeth Naturiol Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eu sefyllfa ariannol a gweithredol, yn ogystal ag adolygu unrhyw bwysau a chyfleoedd dros y flwyddyn i ddod," meddai'r llefarydd.
Yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd, maen nhw'n dweud eu bod nhw'n edrych ar y ffordd orau i ddefnyddio eu hadnoddau a "sicrhau'r buddion mwyaf posibl i'r amgylchedd".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd8 Awst 2021
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2021