Dim galwad gan Liz Truss i Brif Weinidog Cymru o hyd

  • Cyhoeddwyd
Liz Truss a Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Prif Weinidog Cymru yn dweud ei fod dal heb gael galwad gan Liz Truss, fwy na mis ar ôl iddi gymryd y llyw yn Llywodraeth y DU.

Dywedodd Mark Drakeford ei fod yn siomedig "fod y prif weinidog yn dewis siarad am brif weinidogion Cymru a'r Alban" yn hytrach nag wrthyn nhw.

Dywedodd y bu'n draddodiad cyhyd ag y bu yng ngwleidyddiaeth Cymru y byddai prif weinidogion newydd y DU yn cysylltu.

Gofynnwyd i Lywodraeth y DU am sylwadau.

Bu Mr Drakeford yn siarad ar daith dau ddiwrnod i Ddulyn a Chorc ar gyfer cyfarfodydd gyda gweinidogion Gwyddelig, gan gynnwys y Gweinidog Tramor Simon Coveney.

'Cywilydd'

Yng nghynhadledd y blaid Dorïaidd dywedodd Liz Truss fod Mr Drakeford yn rhan o'r "glymblaid gwrth-dwf" oedd yn elyn menter.

Yn ystod y ras am yr arweinyddiaeth disgrifiodd hi'r prif weinidog fel "fersiwn ynni isel" o Jeremy Corbyn oedd â "chywilydd o'n hanes".

Dywedodd Mr Drakeford wrth ddarlledwr cyhoeddus Iwerddon RTE ei fod yn "edrych ymlaen at yr amser pan fydd hi'n teimlo bod ganddi eiliad i godi'r ffôn a chysylltu".

Dywedodd Mr Drakeford yn ystod y cyfnod y bu'n ymwneud â gwleidyddiaeth Cymru ei bod "bob amser wedi bod yn wir" y byddai prif weinidogion newydd y DU yn gwneud galwad gynnar i brif weinidogion y gwledydd datganoledig.

"Ffoniodd Boris Johnson fi a dwi'n gwybod ei fod wedi ffonio prif weinidog yr Alban ar y diwrnod y daeth yn brif weinidog. Rwy'n gwybod bod [Theresa] May wedi gwneud yr un peth o'i flaen.

"Felly mae'n dipyn o wahaniaeth amlwg y tro hwn, ond cyn gynted ag y bydd y prif weinidog yn gallu estyn allan ato i siarad â ni yng Nghymru byddwn yn falch iawn o glywed ganddi."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cyfarfu Mark Drakeford â Siambr Fasnach Prydain-Iwerddon ddydd Iau

Yn y Senedd ddydd Mawrth dywedodd nad oedd cytundeb rhynglywodraethol gyda gweinidogion blaenorol y DU yn gweithredu a'i fod wedi dymchwel.

"Cafodd 11 grŵp eu sefydlu ar lefel weinidogol o dan yr adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol.

"Bu 20 cyfarfod o'r grwpiau hynny rhwng mis Mawrth a dechrau mis Medi. Nid oes yr un ohonynt wedi cyfarfod ers i'r prif weinidog newydd ddod i'w swydd."

Dywedodd Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon yr wythnos ddiwethaf ei bod hi'n "hurt" nad oedd hi wedi clywed gan brif weinidog y DU eto.

Roedd Ms Truss wedi disgrifio Ms Sturgeon fel "ceisiwr sylw" y dylid ei hanwybyddu yn ystod gornest arweinyddiaeth y Torïaid.