Creu llysgenhadon iaith i integreiddio pobl newydd i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Y Ddraig GochFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd "rhwydwaith o lysgenhadon diwylliannol" yn cael eu creu mewn cymunedau yng Nghymru er mwyn esbonio ein diwylliant a'n hiaith i bobl sy'n symud i'r ardal.

Y bwriad yw "helpu i integreiddio pobl newydd" i gymunedau, meddai Gweinidog y Gymraeg Jeremy Miles.

"Pobl leol fydd rhain sy'n adnabod eu cymunedau'n dda, yn esbonio'n diwylliant a sefyllfa'n hiaith" meddai.

"Mae pobl yn fwy barod i berthyn i gymuned pan fyddan nhw'n deall y gymuned mae nhw'n byw ynddi," ychwanegodd.

Mae'n yn rhan o'r Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg gan Lywodraeth Cymru, a luniwyd drwy gydweithio â Phlaid Cymru.

Cyhoeddwyd hefyd pecyn o bron i £500,000 i wireddu rhai o amcanion y cynllun.

Ymatebodd y Ceidwadwyr na ddylai fod "unrhyw ragfarn yn erbyn unrhyw berson sy'n edrych i brynu tŷ yng Nghymru", a mynegodd Cymdeithas yr Iaith "siom bod cymaint o'r mesurau... yn dal i ddibynnu ar weithredoedd gwirfoddol".

'Gwybodaeth ac egni lleol'

"Prif nod y cynllun" medd y gweinidog, "yw helpu cymunedau i gynllunio drostyn nhw eu hunain, i ddelio gyda heriau penodol o fewn eu hardaloedd, gan ddwyn ynghyd gwybodaeth ac egni lleol".

Ymhlith yr amcanion medd y gweinidog mae:

  • mwy o fentrau cydweithredol, wedi eu harwain gan y gymuned. "Bydd rhain yn llefydd i bobl weithio a defnyddio'u Cymraeg yn ddirwystr —gofodau uniaith hynny yw".

  • "Gweithio gyda'r rheiny sydd â rôl allweddol yn y farchnad dai—arwerthwyr tai, cyfreithwyr, cwmnïau morgeisi ac awdurdodau lleol... er mwyn i ni rannu gwybodaeth am gymorth i helpu pobl leol i brynu neu i rentu tai yn fforddiadwy."

  • sefydlu "cynllun cyfle teg, i godi ymwybyddiaeth ymysg gwerthwyr neu ddarpar werthwyr am y dewisiadau sydd ganddyn nhw, i gefnogi pobl sydd am aros neu ddychwelyd i'r cymunedau y cawsant eu magu ynddynt. Bydd hwn yn gynllun gwirfoddol, er mwyn amlygu beth y gallwn ni ei wneud i helpu pobl leol i gael tŷ sy'n fforddiadwy i'w brynu neu ei rentu."

  • Gwarchod enwau lleoedd Cymraeg - "comisiynu ymchwil trylwyr i'n helpu ni yn hynny o beth. Byddwn ni hefyd yn parhau i gydweithio ag awdurdodau lleol i gael gweld beth yn union sy'n mynd ymlaen, a bydd angen gwahanol atebion er mwyn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol".

'Marchnad rydd'

Ymatebodd y Ceidwadwr Janet Finch-Saunders: "Ni ddylai fod yma yng Nghymru, ar unrhyw adeg, unrhyw ragfarn yn erbyn unrhyw berson sy'n edrych i brynu tŷ yng Nghymru.

"Rwy'n parchu'r ffaith bod y cynllun cyfle teg, a all ganiatáu i eiddo gael ei farchnata'n lleol yn unig, am gyfnod penodol, yn wirfoddol, ond ni ddylai hyn gael ei wneud yn orfodol o bell ffordd, oherwydd, wedi'r cyfan, rydym yn byw mewn marchnad rydd."

Ychwanegodd: "Os cymerwn Iwerddon, er enghraifft, yn dechnegol mae miliwn o bobl yn sôn yn y cyfrifiad y gallant siarad Gwyddeleg, ond, mewn gwirionedd, llai nag 80,000 sy'n siarad hynny bob dydd. Dyna'r sefyllfa yr ydym i gyd yn gweithio i'w hosgoi yma, ac rydym i gyd am weld y Gymraeg yn ffynnu.

"Fodd bynnag, mae angen cymunedau cynaliadwy arnom, a chyfleoedd swyddi sy'n talu'n well o lawer yn y meysydd hynny y mae'r cynllun hwn wedi'i gynllunio i'w cefnogi."

'Argyfwng tai yn anferthol'

Ar ran Plaid Cymru, dywedodd Mabon ap Gwynfor: "Dwi'n falch, trwy gydweithio efo Plaid Cymru a thrwy wrando ar lais ymgyrchwyr sydd wedi bod mor huawdl yn cyflwyno y broblem a chynnig atebion ers degawdau, fod yna olau ar ben draw y twnnel."

Ychwanegodd: "Dwi'n cytuno efo datganiad y gweinidog wrth iddo ddweud ein bod ni'n torri tir newydd yma yng Nghymru, ac fe hoffwn gymryd y cyfle i groesawu'r pecyn o fesurau sydd eisoes wedi'u cyhoeddi, y cynllun tai cymunedau Cymraeg newydd yma, a bod yna gyllid sydd am gynorthwyo er mwyn cyrraedd y nod.

"Mae yna gwestiwn, wrth gwrs, a ydy'r cyllid yma am fod yn ddigonol, oherwydd mae'r argyfwng tai yn anferthol."

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi "siom bod cymaint o'r mesurau yn y Cynllun Tai a Chymunedau Cymraeg yn dal i ddibynnu ar weithredoedd gwirfoddol ac nad yw'r mesurau na'r cyllid yn mynd yn bell o gwbl".

Mae'r mudiad wedi datgan eto mai Deddf Eiddo gyflawn sydd ei hangen.

Dywedodd Robat Idris, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "Mae tipyn o gynnwys y cynllun yn bethau sydd wedi wedi eu cyhoeddi yn barod ond tu hwnt i hynny mae sôn eto am ragor o gamau gwirfoddol yn ardal peilot Dwyfor.

"Ond dydyn ni ddim yn gweld mesurau presennol yr ardal peilot yn cael eu hymestyn y tu hwnt i'r ardal.

"Mae angen i sgôp daearyddol a gweithredol unrhyw fesurau i ehangu yn sylweddol os ydyn ni am weld y Gymraeg yn iaith gymunedol, bob dydd mewn cymunedau ym mhob ran o Gymru."