Y Bencampwriaeth: Caerdydd 0-1 Coventry

  • Cyhoeddwyd
Viktor GyökeresFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Viktor Gyökeres sgoriodd unig gôl y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd

Cafodd Mark Hudson ei drechu am y tro cyntaf fel rheolwr dros-dro yr Adar Gleision brynhawn Sadwrn wrth i Coventry ennill gêm agos yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi 34 munud, wrth i gyn-ymosodwr Abertawe, Viktor Gyökeres ymateb gyflymaf ar ôl i Ryan Allsop arbed ergyd Jamie Allen.

Roedd Caerdydd yn credu eu bod wedi dod yn gyfartal ar ddechrau'r ail hanner, ond wedi iddo drafod gyda'r llumanwr fe wnaeth y dyfarnwr benderfynu fod Callum Robinson yn camsefyll, gan olygu ei bod yn parhau'n 0-1 i Coventry.

Mae'r canlyniad yn gweld yr Adar Gleision yn disgyn o 13eg i'r 16eg safle yn y Bencampwriaeth.