Cwpan FA Lloegr: Gêm gyfartal i Wrecsam ond Merthyr trwodd

  • Cyhoeddwyd
Wrecsam/MerthyrFfynhonnell y llun, Getty/MerthyrTownFC

Bydd yn rhaid i Wrecsam herio Blyth unwaith eto er mwyn ceisio sicrhau lle yn rownd gyntaf Cwpan FA Lloegr yn dilyn gêm gyfartal yn y bedwaredd rownd ragbrofol ddydd Sadwrn.

Ond mae enw Clwb Pêl-droed Merthyr eisoes yn yr het wedi iddyn nhw drechu Folkstone Invicta o 2-1 gyda goliau gan Lewis Powell ac Alex John.

Dyma'r tro cyntaf ers 2005 i Ferthyr gyrraedd rownd gyntaf Cwpan FA Lloegr.

Wedi 75 munud rhwystredig i Wrecsam oddi cartref, daeth y gôl gyntaf wrth i gic rydd Tom O'Connor gael ei gwyro i gefn y rhwyd i roi'r ymwelwyr ar y blaen yn erbyn eu gwrthwynebwyr o un gynghrair yn is.

Ond gyda 90 munud ar y cloc fe ddaeth y tîm cartref yn gyfartal gyda gôl gan Michael Richardson, gan olygu y bydd yn rhaid cynnal gêm arall ar y Cae Ras nos Fawrth i benderfynu pwy fydd yn yr het ar gyfer y rownd nesaf.

Fe fydd yr enwau yn dod allan o'r het ar gyfer y rownd gyntaf ar 26 Hydref, ble bydd holl dimau Adran Un ac Adran Dau yn ymuno â'r gystadleuaeth.