Biggar allan ag anaf wrth i Gymru enwi carfan yr Hydref
- Cyhoeddwyd
Mae capten Cymru, Dan Biggar wedi cael ei adael allan o garfan Cymru ar gyfer gemau'r hydref yn dilyn anaf i'w ben-glin.
Ond mae chwaraewyr profiadol gan gynnwys Ken Owens, Leigh Halfpenny a Justin Tipuric yn dychwelyd.
Mae pum chwaraewr allai ennill eu cap cyntaf - Josh Macleod, Dane Blacker a Sam Costelow o'r Scarlets, asgellwr y Dreigiau Rio Dyer, a chanolwr y Gweilch Josh Hawkins.
Bydd Cymru'n dechrau'r gyfres yn erbyn Seland Newydd ar 5 Tachwedd, cyn wynebu'r Ariannin, Georgia ac Awstralia.
Cyfres yr Hydref
Cymru v Seland Newydd - Sadwrn 5 Tachwedd, 15:15, Stadiwm Principality
Cymru v Ariannin - Sadwrn 12 Tachwedd, 17:30, Stadiwm Principality
Cymru v Georgia - Sadwrn 19 Tachwedd, 13:00, Stadiwm Principality
Cymru v Awstralia - Sadwrn 26 Tachwedd, 15:15, Stadiwm Principality
Mae Biggar ymhlith nifer o chwaraewyr fydd yn methu'r gemau oherwydd anafiadau, gan gynnwys Taine Basham, Leon Brown, Seb Davies, Wyn Jones, Josh Navidi, Johnny Williams a Liam Williams.
Ond mae Nicky Smith, Jac Morgan, Rhodri Jones a Rhys Priestland wedi eu cynnwys, yn ogystal â'r asgellwr Alex Cuthbert er nad yw wedi chwarae eto'r tymor yma oherwydd anaf.
Does dim lle fodd bynnag i Gareth Davies, Rhys Carre, Ross Moriarty, Willis Halaholo a Thomas Young.
Yn absenoldeb Biggar bydd yn rhaid i'r hyfforddwr Wayne Pivac ddewis capten newydd, ond nid yw'n bwriadu gwneud hynny nes i'r gêm gyntaf agosáu.
Gyda Chwpan y Byd yn Ffrainc y flwyddyn nesaf, dywedodd Pivac ei fod yn gyfle i gael golwg ar rai o'r chwaraewyr ifanc sydd bellach yn cael gemau rheolaidd i'w rhanbarth.
"Rydyn ni'n edrych ar y garfan fel mae e nawr, ond hefyd tu hwnt i Gwpan y Byd 2023 ar gyfer twrnament 2027, felly bydd rhai chwaraewyr ifanc yn cael blas o awyrgylch y garfan," meddai.
"Falle gawn nhw gêm neu falle ddim, ond bydd yn brofiad da iddyn nhw."
Carfan Cymru
Blaenwyr: Rhodri Jones (Dreigiau), Nicky Smith (Gweilch), Gareth Thomas (Gweilch), Ryan Elias (Scarlets), Dewi Lake (Gweilch), Ken Owens (Scarlets), Tomas Francis (Gweilch), Dillon Lewis (Rygbi Caerdydd), Sam Wainwright (Saracens), Adam Beard (Gweilch), Ben Carter (Dreigiau), Alun Wyn Jones (Gweilch), Will Rowlands (Dreigiau), Taulupe Faletau (Rygbi Caerdydd), Dan Lydiate (Gweilch), Josh MacLeod (Scarlets), Jac Morgan (Gweilch), Tommy Reffell (Caerlŷr), Justin Tipuric (Gweilch), Christ Tshiunza (Caerwysg).
Yn y cefn: Dane Blacker (Scarlets), Kieran Hardy (Scarlets), Tomos Williams (Rygbi Caerdydd), Gareth Anscombe (Gweilch), Sam Costelow (Scarlets), Rhys Priestland (Rygbi Caerdydd), Joe Hawkins (Gweilch), George North (Gweilch), Nick Tompkins (Saracens), Owen Watkin (Gweilch), Josh Adams (Rygbi Caerdydd), Alex Cuthbert (Gweilch), Rio Dyer (Dreigiau), Leigh Halfpenny (Scarlets), Louis Rees-Zammit (Caerloyw).