Caerdydd: Her gyfreithiol yn erbyn gorsaf garthffosiaeth
- Cyhoeddwyd

Brynhawn gwener fe fu rhai o blant ysgol Glan Ceubal yn gorymdeithio o'r ysgol i swyddfa'r Aelod Seneddol lleol
Mae gan Gyngor Dinas Caerdydd tan ddydd Gwener i ymateb i lythyr cyfreithiol gan ymgyrchwyr sy'n gwrthwynebu datblygiad ar un o barciau'r brifddinas.
Mae Cymdeithas Trigolion Ystum Taf yn dadlau na ddilynodd y cyngor y broses gywir wrth ganiatáu gorsaf bwmpio carthffosiaeth ym Mharc Hailey.
Fe gyflwynodd Dŵr Cymru gais cynllunio ar gyfer cludo dŵr brwnt o ddatblygiad tai Plasdŵr i waith trin dŵr Caerdydd ym mhen arall y brifddinas. Fe gafodd y cais ei gymeradwyo fis Medi.
Fel y clywodd Newyddion S4C mae gwrthwynebiad chwyrn yn lleol, a phobl yn dadlau y dylai'r gorsaf bwmpio fod yn agosach at ddatblygiad Plasdŵr.
Codi ymwybyddiaeth
Brynhawn Gwener fe fu rhai o blant Ysgol Glan Ceubal yn gorymdeithio o'r ysgol i swyddfa'r Aelod Seneddol lleol, Anna McMorrin i gyflwyno poster iddi yn dangos eu gwrthwynebiad.
Cafodd yr orymdaith ei threfnu gan YGC Rebel Mams, criw o rieni sydd eisiau i'w plant fod yn ymwybodol o benderfyniadau allai effeithio arnyn nhw.

Mae ymgyrchwyr yn dadlau nad yw'r safle'n addas
Yn ôl un o'r plant, Fern, mae'r parc yn bwysig: "Mae'r gwastraff i gyd yn dod o rywle arall a does dim angen rhoi e fan hyn.
"Dwi, Dad a fy chwaer yn hoffi mynd draw i chwarae yn y parc pan mae'n heulog. Dwi'n hoffi'r ardal yma."
Mae un o'r rhieni, Cerys Ponting, yn cytuno.
"Mae lot o blant yn defnyddio ac yn mwynhau Parc Hailey, i chwarae a 'neud chwaraeon," meddai.
"Ni fel teulu yn mynd â'r ci am dro yno, a byddai'n golled fawr i'r ardal nid jyst am y cyfnod pan maen nhw'n adeiladu, ond hefyd yn y dyfodol oherwydd bydd angen adnewyddu'r safle mewn 15 mlynedd.
"Gallen nhw fod wedi rhoi'r orsaf bwmpio yn agosach at ddatblygiad Plasdŵr."
Yn dilyn anfon y llythyr cyfreithiol mae gan y cyngor tan ddiwedd yr wythnos i ymateb.
Mae'r Gymdeithas Drigolion eisiau iddyn nhw ddiddymu'r penderfyniad i ganiatáu'r orsaf bwmpio am nad oedd y broses yn gywir.

Mae ymgyrchwyr yn brwydro i wyrdroi'r caniatad cynllunio
Russell Todd yw cadeirydd y Gymdeithas Drigolion. Mae'n poeni fod y broses gynllunio yn ffafrio datblygwyr.
"Mae pobl leol yn grac iawn ond ddim jyst am y penderfyniadau, maen nhw'n grac am ddiffyg transparency yr holl broses," meddai.
"Mae pethau cynllunio yn gallu bod yn gymhleth, 'dyn ni'n gwerthfawrogi hynna, ond mae pawb yn y gymuned wedi gorfod brwydro am wybodaeth."
Yn ôl Dŵr Cymru mae un o'r prif bibellau sy'n cario carthion i waith trin Dŵr Caerdydd yn Nhremorfa yn rhedeg o dan y caeau.
Roedd hynny, a'r ffaith fod yna dir ar gael gerllaw, yn golygu mai dyma oedd y safle mwyaf addas ar gyfer gorsaf bwmpio.
Maen nhw hefyd yn pwysleisio fod y bibell yma'n gallu cymeryd y gwastraff ychwanegol o ddatblygiad Plasdŵr.
'Newid cymeriad'
Mae ymgyrchwyr fel Russell Todd yn anfodlon.
"Dwi ddim yn credu fod yr ardal hon, sydd yn brydferth, yn addas," meddai.
"Mae'n rhy agos at gymunedau, mae'n rhy agos at dai, bydd yn swnllyd a bydd yn newid cymeriad y parc.

Mae Russell Todd yn gwrthwynebu'r cynllun, sydd eisoes wedi ei gymeradwyo gan y cyngor
"Tu hwnt i'r datblygiad hwn mae cymaint ohonom ni'n becso beth fydd yr ardal gwyrdd nesa' sy'n rhaid cael ei newid, sy'n rhaid cael ei ddatblygu er elw datblygwyr tai."
Dafliad carreg o'r safle mae Bwrdd Iechyd Felindre yn adeiladu ysbyty ganser newydd, ar gaeau oedd yn cael eu defnyddio gan y gymuned leol.
Mae Cerys Ponting yn dweud ei bod hi'n bwysig fod plant yn ymwybodol o ddatblygiadau sy'n effeithio ar eu cymunedau.
"Mae lot o ardaloedd gwyrdd wedi cael eu datblygu erbyn hyn," meddai.
"Mae'n bwysig bod plant yn gwybod, lle maen nhw'n byw, mae ganddyn nhw lais ac maen nhw'n gallu defnyddio'r llais yna i geisio effeithio ar y dyfodol."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd nad oedd hi'n briodol iddyn nhw wneud sylw ar hyn o bryd, gan eu bod nhw wedi cael llythyr allai arwain at gamau cyfreithiol.
Mewn llythyr at bennaeth cynllunio'r cyngor mae'r AS lleol, Anna McMorrin, yn rhannu pryderon yr ymgyrchwyr, gan erfyn ar yr awdurdod i ddileu'r caniatâd i osod gorsaf bwmpio ym Mharc Hailey.
Mae hi'n dweud yn y llythyr bod y cyngor wedi "methu'r nod o ran asesu effaith amgylcheddol y datblygiad a methu ag ystyried gofynion polisi".