Layton Maxwell: Carcharu cyn-chwaraewr Caerdydd ac Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Layton MaxwellFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe chwaraeodd Layton Maxwell - sydd bellach yn 43 oed - dros dîm-21 Cymru hefyd

Mae cyn-bêl-droediwr proffesiynol wedi cael ei garcharu am wyth mlynedd am fod yn rhan o gang gwerthu cyffuriau.

Cafodd Layton Maxwell ddechrau addawol i'w yrfa, gan sgorio yn Anfield yn ystod ei gêm gyntaf i Lerpwl pan oedd yn 19 oed.

Ond ar ôl i yrfa cyn-chwaraewr Caerdydd ac Abertawe ddod i ben, ymunodd Maxwell â gang gwerthu cocên.

Clywodd llys fod Maxwell, 43, wedi caniatáu i gang ddefnyddio ei gartref yng Nghaerdydd i storio cyffuriau mewn ymgyrch droseddol gwerth £6m.

Cafodd swyddogion heddlu hyd i gyffuriau, arian ac offer pwyso wrth gynnal cyrch ar gartref Maxwell yn ardal Rhiwbeina.

Yn ôl yr erlyniad roedd yn cael ei dalu £500 y mis am gynorthwyo'r gang.

Cafodd ei arestio fel rhan o ymchwiliad Operation Venetic drwy'r DU i drosedd broffesiynol.

Cafodd cyrchoedd eu cynnal ar ôl i swyddogion ddatrys gwasanaeth negeseuon cudd oedd yn cael ei ddefnyddio gan arweinwyr y gang.

Gwerth £6m o gyffuriau

Fe gawson nhw hyd i dros 60 kilo o gocên a heroin - gwerth £6m - ynghŷd â £2.5 mewn arian parod.

Roedd Maxwell yn un o wyth diffynnydd gafodd eu carcharu am 80 mlynedd gan Lys y Goron Caerdydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe chwaraeodd Maxwell dros nifer o glybiau Cymreig - o Gaerdydd i Gaernarfon

Yn enedigol o Lanelwy, roedd Maxwell yn cael ei ystyried yn chwaraewr addawol pan ddechreuodd gyda Lerpwl yn ei arddegau, gan sgorio yn ystod ei ymddangosiad cyntaf gyda'r clwb yn 1999.

Ond heb ragor o gemau i'r tîm cyntaf, cafodd ei roi ar fenthyg i Stockport County, cyn symud i Gaerdydd ac Abertawe, a gorffen ei yrfa yn Uwch Gynghrair Cymru.

Ar ôl ymddeol o bêl-droed daeth yn beiriannydd gyda Vodafone a bu hefyd yn rheolwr ar Cardiff Draconians yn nhrydedd haen pêl-droed Cymru.

Fe blediodd yn euog i gynllwynio i gyflenwi cyffur Dosbarth A a chafodd ei garcharu am wyth mlynedd.