Cynlluniau tai yn y fantol yn sgil targedau llygredd afonydd
- Cyhoeddwyd
Fe allai llygredd afonydd effeithio ar gynlluniau i adeiladu degau o filoedd o dai newydd yng Nghymru a Lloegr, allai gostio £16bn i'r economi.
Mae'n deillio o reolau llymach ar gyfer adeiladu tai yn sgil targedau ar lygredd ffosffad mewn afonydd.
Yn ôl arbenigwyr mae mwy o ffosffad, sy'n cael ei ddarganfod mewn gwastraff dynol ac anifeiliaid, yn mynd mewn i afonydd ac yn effeithio ar ansawdd y dŵr.
Mae rhaglen BBC Wales Investigates wedi archwilio'r broblem yn Afon Gwy, sydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Mae datblygwyr yn galw ar lywodraethau i weithredu ar frys er mwyn dod o hyd i atebion.
Dywedodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Lesley Griffiths, fod cyfrifoldeb gan bawb i leihau llygredd ond eu bod yn gweithio i ddatrys problemau.
Mae'r broblem yn cael ei hachosi'n rhannol gan bobl, a'n hawydd i gael bwyd rhatach, gan greu diwydiant sydd mewn perygl o lethu ein hamgylchedd, yn ôl ymchwiliad gan y BBC.
Ond mae ymgyrchwyr yn dweud bod angen gwneud mwy i achub afonydd y DU cyn iddi fynd yn rhy hwyr.
Yng Nghymru fe allai'r targedau llymach, gafodd eu cyflwyno yn 2020, effeithio ar dros 5,000 o dai newydd, allai gostio dros £700m i'r economi.
Fe wnaeth yr Home Builders Federation (HBF) gysylltu ag awdurdodau cynllunio a datblygwyr, gan amcangyfrif bod y cyfyngiadau ar adeiladu hefyd yn effeithio ar 100,000 o dai mewn 74 ardal yn Lloegr hefyd.
Mae'r HBF yn amcangyfrif y gallai hynny arwain at golled o £16bn i economi Cymru a Lloegr.
Mae'r ffigwr hwnnw wedi cael ei gyfrifo yn ôl model safonol gan y diwydiant, ac wedi ei wirio gan y BBC, sy'n rhagweld effaith ariannol prynwyr tai newydd, gan gynnwys gwariant yn yr economi leol a threthi.
"Mae adeiladu tai yn arwain at dwf, ac mae'n hanfodol bod y llywodraeth yn ail-asesu effaith y costau a'r moratoria yma gan sicrhau bod y diwydiant yn cael ei gefnogi'n ddigonol fel y gall ddarparu tai newydd sydd fawr eu hangen, a'r buddiannau economaidd a chymdeithasol sy'n deillio o hynny", meddai Stewart Baseley, cadeirydd gweithredol yr HBF.
"Mae'n galonogol ar ôl bron i dair blynedd o grefu gan adeiladwyr tai bod y llywodraeth i'w weld yn edrych ar atebion posib, ond rydyn ni angen gweithredu brys sy'n cyfateb i faint y broblem."
'Niwed difrifol'
Yn ôl Natural England, asiantaeth Llywodraeth y DU, mae llygredd ffosffad yn achosi "niwed difrifol" i afonydd a gwlypdiroedd - a'r rhywogaethau sy'n byw ynddyn nhw - ac maen nhw wedi neilltuo £100,000 i bob dalgylch afon sydd wedi ei heffeithio.
Fe wnaeth y Prif Weinidog, Mark Drakeford gynnal uwch-gynhadledd dros yr haf gyda chynrychiolwyr ffermwyr a chwmnïau dŵr i drafod effaith llygredd ffosffad ar adeiladu tai.
Gallai lefelau uchel o ffosffad a mwynau eraill mewn afonydd arwain at ordyfiant algau, ac yn y pendraw, at rywogaethau'n colli eu cartrefi, sy'n allweddol ar gyfer ecosystem afonydd.
Mae Afon Gwy yn un o'r afonydd mwyaf amrywiol o ran ecoleg yn y DU, gydag eogiaid, dyfrgwn a glas y dorlan wedi ymgartrefu yno.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn amcangyfrif bod tri chwarter y ffosffadau sy'n cyrraedd yr afon yn dod o ddefnydd tir amaethyddol, fel ffermio.
"Allwn ni ddim aros rhagor," dywedodd Gail Davies-Walsh o elusen Afonydd Cymru, sy'n cynrychioli ymddiriedolaethau afonydd yng Nghymru.
"Yn syml, os yw'n parhau fel y mae nawr, bydd yr ecosystem yn dymchwel.
"Mae modd ei achub, ond mae'n mynd i gymryd llawer o gydweithio, gyda gofyn i'r holl sectorau chwarae eu rhan.
"Yr hyn ry'n ni'n ei weld ar hyn o bryd yw llawer o oedi gyda hynny."
Ai ffermio dwys sydd ar fai?
Mae nifer o ymgyrchwyr yn credu mai ffermio dofednod dwys sy'n gyfrifol.
Yn ôl data gafodd ei gasglu gan Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, mae dros 300 o ffermydd dofednod dwys wedi cael caniatâd cynllunio ym Mhowys ers 2008, sir lle mae Afon Gwy yn rhedeg trwy ran fawr ohoni.
Ond dydy monitro safon dŵr ddim wedi gallu profi cyswllt uniongyrchol rhwng ffermydd ieir a ffosffadau yn yr afon.
"Mae amaeth yn rhan o'r broblem," meddai llywydd undeb amaethyddol NFU Cymru, Aled Jones.
"Mae'n fater cymhleth iawn. Mae 'na gymaint o elfennau eraill sy'n cyfrannu i fethiant y dŵr yn yr afonydd hyn.
"Mae angen i ni ddilyn tystiolaeth. Pan fydd y dystiolaeth yn glir, yn amlwg, fe wnawn ni ymateb bryd hynny."
Fe wnaeth Prifysgol Lancaster ddarganfod bod 7,500 tunnell o ffosfforws yn cael ei ollwng yn nalgylch Afon Gwy bob blwyddyn yn sgil carthion anifeiliaid.
Dim ond tua 4,500 tunnell o'r gwastraff hwnnw all cnydau ei amsugno.
Dywedodd Dr Shane Rothwell o'r brifysgol bod gormodedd o ffosfforws yn yr amgylchedd yn golygu safon dŵr gwaeth.
Ffyrdd o atal llygredd?
Ger rhan o'r Afon Gwy yn Sir Henffordd, mae'r gwlyptir cyntaf i gael ei ariannu gan ddatblygwyr "credyd ffosffad" yn cael ei adeiladu.
Bwriad mesurau o'r fath yw rhwystro mwynau fel ffosffad rhag cyrraedd afonydd.
Fe ddylai'r gwlyptir ym mhentref Luston atal 200kg o ffosffad rhag cyrraedd yr afon bob blwyddyn.
'Gwneud fy ngorau dros yr amgylchedd'
Ond mae'r datblygwr tai, Merry Albright, wedi gorfod oedi 52 o gynlluniau tai oherwydd cyfyngiadau ffosffad yn yr ardal.
Dywedodd: "Nid tai newydd wnaeth achosi'r broblem hon ac eto, ry'n ni'n cael ein beio a'n gofyn i dalu am ddatrysiad na fydd wir yn ateb y broblem ehangach.
"Dwi'n hapus i wneud fy ngorau dros yr amgylchedd... ond fydden i'n hoffi gweld pobl yn canolbwyntio ar beth wnaeth achosi hyn a beth sydd angen digwydd er mwyn ei ddatrys."
Yn Lloegr, dywedodd adran materion gwledig Llywodraeth y DU eu bod wedi treblu eu gweithlu dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac wedi cynyddu nifer eu harolygon ffermydd o 300 i 1,700 y flwyddyn.
Yng Nghymru, cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru yw gweithredu rheoliadau safon dŵr.
Dywedon nhw eu bod yn trafod gyda Llywodraeth Cymru er mwyn ceisio cael mwy o gyllid i blismona'r rheolau llygredd newydd.
Dywedodd Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, eu bod eisoes yn gweithio i "elwa'n gyflym" yn ogystal â sicrhau datrysiadau hir dymor.
"Wrth gwrs, dwi'n rhan o'r datrysiad, fel y mae pobl eraill," dywedodd.
"Mae'n rhaid i ni gyd gymryd cyfrifoldeb - bob un ohonom."
Bydd Wales Investigates: What's Killing our Rivers yn cael ei darlledu ar BBC iPlayer a BBC One Wales am 20:30 nos Lun.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd17 Medi 2020