Mwy o garthion yn cael eu gollwng i afonydd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys i fynd i'r afael â gollyngiadau carthion gan gwmnïau dŵr i afonydd Cymru.
Dywed y pwyllgor bod angen i Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, ddechrau gweithio gyda chwmnïau dŵr ar unwaith i leihau faint o garthion amrwd sy'n cael eu gollwng i afonydd.
Pan fydd dŵr llonydd yn cymysgu gyda dŵr carthffosydd, bydd cwmnïau dŵr weithiau'n rhyddhau'r gymysgedd i afonydd.
Oni bai am y gollyngiadau, byddai cartrefi a busnesau'n gorlifo â charthion, medd cwmnïau.
Ond mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn poeni am ba mor aml mae'r gollyngiadau carthion hyn yn digwydd a'r cynnydd sydd wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
O leia' 100,000 achos yn 2020
Yn 2016 cofnodwyd ychydig o dan 15,000 o ddigwyddiadau o'r fath gan 545 o fonitorau yng Nghymru.
Ond erbyn 2020, er bod nifer y monitorau ond wedi cynyddu i 2,000, roedd dros 105,000 o achosion o garthion heb eu trin yn cael eu gollwng i afonydd Cymru.
Mae'r adroddiad yn nodi nad yw'r ffigyrau hyn yn cynnwys "gorlifoedd storm heb eu trwyddedu na gorlifoedd storm nad ydynt yn cael eu monitro gan gwmnïau dŵr" ac felly bod y nifer gwirioneddol o achosion o ollwng carthion yn llawer uwch.
Mae'r pwyllgor felly wedi galw am drefniadau monitro gwell i fesur effaith y gollyngiadau ar yr amgylchedd ac maen nhw'n dweud y dylai'r Gweinidog Newid Hinsawdd gael amserlen benodol ar gyfer y gwaith.
Mae yna alwadau hefyd ar y ddau gwmni dŵr sy'n gweithredu yng Nghymru, Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy, i lunio adroddiad am y gollyngiadau o orlifoedd storm "cyn pen awr ar ôl i'r gollyngiad ddechrau" - rhywbeth sydd eisoes yn digwydd yn Lloegr.
'Annerbyniol'
Dywedodd Llyr Gruffydd AS, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith; "Dylai gorlifoedd storm weithredu'n anaml ac mewn tywydd eithriadol - ond nid dyna sy'n digwydd.
"Yn lle hynny, rydym yn gweld nifer y digwyddiadau yn cynyddu'n sydyn, a sawl adroddiad am garthion yn ein hafonydd.
"Nid yw'n iawn bod rhiant yn ofni gadael i'w blentyn nofio mewn afon yng Nghymru rhag ofn ei fod yn cynnwys llygredd a gwastraff dynol.
"Mae'n gwbl resymol bod y cyhoedd wedi'u gwylltio gan yr hyn y maent yn ei weld - mae'n annerbyniol.
"Rhaid i Lywodraeth Cymru wrando ar y dystiolaeth rydym wedi'i chasglu a gweithredu ar unwaith i sicrhau bod nifer a maint y gollyngiadau hyn yn gostwng."
Mae'r Pwyllgor wedi rhoi chwe mis i Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, weithio gyda chwmnïau dŵr i fynd i'r afael â'r pryderon.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Awst 2021
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2017