'2022 yw'r flwyddyn olaf i achub Afon Gwy'
- Cyhoeddwyd
2022 yw'r flwyddyn olaf i achub Afon Gwy, yn ôl ymgyrchwyr amgylcheddol.
Mae'r alwad yn dilyn adroddiad gan bwyllgor amgylchedd y Senedd sy'n tynnu sylw at effaith gollwng carthion i mewn i afonydd.
Yn ôl Angela Jones, sydd wedi byw a gweithio ger yr afon ers degawdau, mae'r cwymp yn y nifer o bysgod fel eog yn "boenus".
"Mae fy nghalon yn gwaedu gan ein bod ni wedi cael ein gadael i lawr gan yr asiantaethau sydd i fod i warchod yr afon," meddai.
"Rydyn ni ar ochr y dibyn gyda'r Gwy, ac rwy' wir yn credu taw 2022 yw'r flwyddyn olaf i allu newid pethau."
Mae rhai problemau difrifol yn parhau, medd Cyfoeth Naturiol Cymru, ond mae nhw'n mynnu fod popeth posibl yn cael ei wneud i ymateb i'r sefyllfa a bod "camau sylweddol" wedi'u cymryd dros y blynyddoedd.
Yn ôl modelau ar ran yr Asiantaeth Amgylcheddol, daw llygredd Afon Gwy o amaeth ac o garthion.
'Anodd' gosod cyfrifoldeb
Mae'r afon 155 milltir o hyd yn llifo rhwng Cymru a Lloegr, ac mewn rhai mannau yr afon yw'r ffin rhwng y ddwy wlad.
Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n goruchwylio afonydd Cymru, a'r Asiantaeth Amgylcheddol sy'n gwneud hynny yn Lloegr.
Yn ôl Nick Measham, Prif Weithredwr Salmon and Trout Conservation, mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd penderfynu pwy sy'n gyfrifol am fynd i'r afael â'r sefyllfa.
"Dyw'r pysgod ddim yn deall y gwahaniaeth rhwng Lloegr a Chymru, na chwaith unrhyw beth arall yn yr afon," meddai.
Mae'r sefydliad wedi ymuno ag elusen Fish Legal i ddechrau achos cyfreithiol er mwyn ceisio gorfodi'r ddau gorff i gydnabod yr effaith mae ffermio ieir yn enwedig wedi'i gael.
'Blynyddoedd os nad degawdau'
Yn y cyfamser, mae'r Aelod Seneddol dros Islwyn, Chris Evans, yn galw am ymchwiliad i ollwng carthion i afonydd.
Roedd 105,000 achos o ollwng carthion fel hyn yng Nghymru yn 2020 - er fod bylchau yn y dulliau cofnodi yn golygu fod y gwir ffigwr yn debygol o fod yn uwch.
"Y cwmni sy'n llygru sy'n gyfrifol am hyn, a Dŵr Cymru yw hwnnw, ac fe ddylid eu dal i gyfrif," meddai Mr Evans.
Yn ôl Steve Ormerod, Athro Ecoleg ym Mhrifysgol Caerdydd, fe allai mynd i'r afael â rhai o'r problemau sy'n achosi llygredd mewn afonydd gostio biliynau.
"Dwi'n meddwl y bydd hi'n cymryd blynyddoedd os nad degawdau i fynd i'r afael â'r hyn sydd wedi tyfu'n broblem eang, tymor hir sydd erbyn hyn wrth gwrs yn mynd i fod yn ddrud iawn i'w ddatrys."
Mewn datganiad, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru: "Tra'n bod ni wedi gweld buddsoddiad sylweddol mewn safonau dŵr, yn arwain at welliannau sylweddol, mae rhai materion sylweddol yn parhau.
"Rydyn ni wedi ymroi i gydweithio gyda pherchnogion tir, datblygwyr, cwmnïau dŵr, pysgotwyr, partneriaid goruchwylio, amgylcheddwyr a Llywodraeth Cymru i adeiladu ar y cynnydd yma."
Dywedodd Dŵr Cymru eu bod nhw'n cydnabod bod "angen gwneud mwy er mwyn gwella ansawdd dŵr afonydd", a'u bod yn buddsoddi £800m dros bum mlynedd i gyflawni hynny.
Ond fe wnaethon nhw ychwanegu fod sawl sector yn effeithio ar sefyllfa'r afon, "ac nid yw'n bosib i ni gyflawni hyn ar ein pen ein hunain".
"Fe wnawn ni barhau i fuddsoddi er mwyn lleihau'r effaith ar ansawdd dŵr afonydd a gweithio gyda'n holl bartneriaid i sicrhau gwelliannau pellach," medd llefarydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd17 Medi 2020
- Cyhoeddwyd8 Awst 2021