'Ar y dibyn ar ôl mynd i £28,000 o ddyledion'
- Cyhoeddwyd
Pan wnaeth ei merch 16 oed ei ffonio dan ofn mawr gan fod beilïaid yn curo ar y drws, roedd Julie Andrews yn gwybod ei bod angen help.
Roedd yr ofalwraig mewn dyled o £28,000 trwy beidio talu biliau a chymryd benthyciadau diwrnod cyflog er mwyn prynu gwisg ysgol i'w phlant.
"Bu cyfnodau lle nad oeddwn i'n gallu ymdopi ac fe wnes i geisio cymryd fy mywyd fy hun," meddai Julie, 57, o Bort Talbot.
Mae hi'n rhybuddio pobl rhag cymryd benthyciadau â graddau llog uchel oherwydd yr argyfwng costau byw.
Mae arbenigwyr yn amcan bod un ym mhob saith o bobl yn y Deyrnas Unedig - dros saith miliwn o bobol - wedi eu heithrio yn ariannol.
Mae hynny'n cyfeirio at bobol sydd â phroffil credyd mor sâl nes eu bod yn gorfod talu graddau llog uwch wrth gael benthyciadau a chytundebau ffôn symudol.
Mae tua 370,000 o bobol yng Nghymru - un ym mhob chwech o bobol - wedi'u heithrio yn ariannol yng Nghymru, a heb fynediad i wasanaethau ariannol y stryd fawr.
Yn ôl ymchwil y cwmni data LexisNexit, mae nifer o bobol ifanc yn cymryd benthyciadau tymor byr.
'Cywilydd'
Ym Mlaenau Gwent, roedd bron i hanner y rheiny rhwng 25-35 (49.7%) yn ddibynnol arnyn nhw a'r peryg yw na fydden nhw'n gallu eu talu'n ôl oherwydd y graddau llog cynyddol.
Dywedodd Julie bod ganddi gymaint o "gywilydd" ei bod mewn trafferthion ariannol na ddywedodd hi ddim wrth neb, hyd yn oed perthnasau a ffrindiau agos.
"Roedd yn rhaid i mi aros cyn i'r plant adael y tŷ cyn torri lawr," meddai Julie, sy'n gweithio mewn cartref preswyl yn ne Cymru.
"Yr ofn oedd e. Fe wnes i fagu fy mhlant i sicrhau nad oedden nhw'n agor y drws nes oeddwn i yno.
"Bob tro roeddwn yn mynd allan roeddwn yn edrych dros fy ysgwydd i weld os oedd rhywun yn cerdded y stryd fel casglwyd dyled neu'r beilïaid."
Fe ddechreuodd ei phroblemau ariannol ar ôl ysgariad, ac yna marwolaeth ei thad, oedd yn arfer ei helpu.
"Nes i gario ymlaen fel mam sengl a dechrau anwybyddu'r biliau," meddai. "Cyn i mi sylwi roeddwn i mewn £28,000 o ddyled."
Dywedodd bod rhaid i'r plant gael rhywbeth i'w agor ar Ddiwrnod Nadolig neu eu pen-blwydd, a'r unig ffordd oedd gael benthyciad gyda graddau llog uchel.
"Doeddwn i ddim yn poeni pe byddwn yn cael benthyg £500 ac yn gorfod talu £1,500 yn ôl," meddai.
'Annheg i'r plant'
Mae Julie'n cofio'n diwrnod y gofynnodd am gymorth ariannol i roi diwedd ar y boen iddi hi a'i theulu.
"Roeddwn i yn y gwaith, ac fe wnaeth fy merch, oedd yn 16 ar y pryd, ffonio gan ddweud bod y beilïaid wrth y drws yn ei bygwth," meddai.
"Roeddwn i wir yn ofn. Roedd hi yn ofn a meddyliais nad oedd hyn y deg ar y plant. Roedd fy nheulu wedi syfrdanu ar ôl clywed maint fy nyled."
Erbyn hyn, mae'r rhan fwyaf o fenthyciadau yn ddrytach ar ôl i Fanc Lloegr godi graddau llog i 2.25% fis diwethaf - y lefel uchaf mewn 14 o flynyddoedd. Y darogan ydy y byddan nhw'n codi i tua 6% erbyn y gwanwyn.
Dywedodd Mike Normansell o gwmni Lexis Nexis: "Mae'r data yn bwysig achos mae'n dangos bod pobol yn troi at fenthyg arian mewn ffordd ddrud iawn. Mae'n nhw'n talu am filiau bob dydd a hynny dro ar ôl tro.
"Mae'n anodd cael mas o batrwm o fenthyg fel hyn."
Mae Heledd Haf Howells, 21, o Lanelli, yn gweithio'n rhan amser yn y dref ac yn dweud bod nifer o bobol ei hoed hi yn "dioddef" oherwydd yr argyfwng costau byw.
Mae hi'n dweud ei bod yn ymwybodol o bobol ifanc yn cael benthyciadau.
"Bydd lot mwy o pobol yn gofyn am loans yn y misoedd nesa'," meddai. Ond beth am y costau cynyddol o'u talu yn ôl?
"Fi'n gwybod am cwpwl o ffrindiau, dydyn nhw ddim yn becso am hwnna ar y foment.
"Mae nhw'n becso am nawr a fel ma nhw'n mynd i fyw bob dydd a byddan nhw'n poeni am hwnna pan mae pethau wedi cool-o lawr."
Bydd Banc Bwyd Taff-Ely ym Mhontyclun yn dechrau ar brosiect newydd fydd yn cynnig cyngor ariannol bobol yn fuan.
"Un o'r prif resymau pam bod pobol eisiau banc bwyd ydi yw oherwydd problemau dyled," meddai Adrian Curtis, sy'n gweithio i elusen Community Money Advice ac sy'n Gyfarwyddwr Rhwydwaith gyda'r Trussell Truss.
"Pan nad yw pobol yn gallu talu dyled yn ôl a thalu biliau, maen nhw angen bwyd fel argyfwng.
"Dyw'r arian ddim ganddyn nhw i fynd i archfarchnad i brynu bwyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2022