Costau byw: 'Becso am fethu prynu 'sgidiau i'w plant'

  • Cyhoeddwyd
RhydamanFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhydaman yn dref ôl-ddiwydiannol yn nwyrain Sir Gaerfyrddin a lefelau diweithdra yn uchel

Mae'r argyfwng costau byw yn "effeithio'r gymuned gyfan" a phobl yn "poeni na fyddan nhw'n gallu prynu esgidiau i'w plant".

Dyna glywodd Gohebydd Arbennig BBC Radio Cymru, Garry Owen, wrth holi rhai o drigolion Dyffryn Aman fore Mercher ar raglen Dros Frecwast.

Mae'r hen ardal lofaol ôl-ddiwydianol hon yn nwyrain Sir Gâr yn cynnwys tref Rhydaman a phentrefi cyfagos fel Tai'r-gwaith.

Yn ôl ystadegau'r Adran Gwaith a Phensiynau mae'r proffil economaidd yn dangos fod canran uwch o'r boblogaeth yma yn ddi-waith yn yr hir dymor neu erioed wedi gweithio.

Yn Nyffryn Aman, fel mewn ardaloedd eraill ar hyd a lled Cymru, mae costau byw yn codi ac mae pobl yn bryderus wrth wynebu biliau bob dydd fel trydan, nwy a bwyd.

Mae chwyddiant wedi codi yn uwch na 10% am yr eildro eleni ac mae pwysau mawr ar bobl nawr wrth wynebu'r cynnydd mwyaf mewn costau bwyd ers dros ddeugain mlynedd.

Yn ôl Bethan Davies, rheolwr canolfan gymunedol Maerdy, Tai'r-gwaith ger Rhydaman, mae pobl yn dod i'r banc bwyd yn y ganolfan ac yn "becso am y dyfodol".

Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer y bobl sy'n mynd i'r banc bwyd ym mhentref Tai'rgwaith ar gynnydd yn ôl Bethan Davies

"Ydyn nhw mynd i orfod penderfynu rhwng bwyta a chadw y gwres 'mlaen?

"Mae pobl wir yn pryderu, ac yn ansicr... ac ry'n ni'n gweld nifer y bobl sy'n dod aton ni am help yn cynyddu."

'Effeithio'r gymuned gyfan'

Wrth weld costau ynni yn codi mae'r cyn-löwr Terry Pugh, sydd nawr yn ymgynghorydd ynni gwyrdd, yn credu yn gryf bod rhaid "i ni ddibynnu mwy ar ynni gwyrdd".

"Mae'r sefyllfa yn dywyll iawn, bob tro fi yn dishgwl ar y newyddion fi yn teimlo yn depressed," meddai.

"Ma' hwn yn effeithio y gymuned yn gyfan, a ma' rhaid dishgwl ar y gwersi o'r gorffennol, a gweld be' ni di 'neud yn anghywir."

Disgrifiad o’r llun,

Mae banciau bwyd wedi cael eu sefydlu mewn sawl ardal yng Nghymru

Wrth edrych i'r dyfodol mae'r cynghorydd Betsan Jones yn dweud bod cynghorau yn trïo helpu.

"Mae'r sefyllfa yn argyfyngus gyda chostau byw," dywedodd.

"Yn Sir Gâr ma' mannau cynnes wedi agor yn llyfrgelloedd Rhydaman, Llanelli a Chaerfyrddin. Mae te a choffi ar gael yno a help gyda sefyllfa costau byw."

Mae cyflogwyr lleol a busnesau yn yr ardal eisoes wedi dechrau cwtogi, yn ôl Janet Collins sy'n gyfrifydd.

"Mae'r esgid yn gwasgu yn bobman a bobl yn meddwl ddwywaith ambwyti faint o ddyddiau ma' nhw mynd i agor eu busnesau.

"Mae'r diwydiant lletygarwch yn torri nôl ar faint o ddyddiau ma' nhw yn agor, neu torri nôl ar oriau achos ma' cost prynu pethe mewn a thalu staff 'di codi ochr yn ochr â gwres a chost coginio."

Disgrifiad o’r llun,

Mae costau teithio'n dal yn uchel yn ôl Emyr Jones

Er bod pris petrol wedi gostwng yn ddiweddar, mae costau teithio'n dal yn uchel, ac mae hynny yn golygu bod mwy o alw am y car cymunedol yn ôl Emyr Jones, rheolwr trafnidiaeth cymunedol Canolfan Maerdy.

"S'dim lot o fysiau'n dod trwyddo fan hyn... efallai dau y dydd, s'dim tacsis 'ma, ma' nhw gorfod dod lan o Rydaman a ma' nhw gallu bod yn ddrud i bobl.

"Gyda phopeth yn mynd lan... electric a gas, ni yn defnyddio ceir trydan. Ma' hwn yn ffordd eithaf chêp i drafaeli, a ma' pobl yn cyfri eu ceiniogau."

I'r cyn-berchennog busnes Julia Jones, sydd nawr yn drysorydd ymddiriedolaeth Theatr y Glowyr, Rhydaman, mae'n anodd deall sut ein bod mewn argyfwng costau byw.

"Mae'r wlad i gyd yn bryderus, a fi ffili credu'r twll ni ynddo fe ar hyn o bryd.

"Mae Prydain yn un o'r gwledydd mwya' cyfoethog yn y byd a ni'n gweld pobl yn becso byddan nhw ffili dodi gwres 'mlaen.

"Fi yn clywed hyd yn oed fod bobl yn becso fyddan nhw ffaelu prynu 'sgidiau i'w plant."

'Siarad am gostau byw yn yr ysgol'

Mae prisiau yn codi yn taro pobl o bob oedran, yn ôl Lydia Brennen sy'n ddisgybl chweched dosbarth yn Ysgol Dyffryn Aman.

"Ma' pawb yn siarad ambwyti costau trwy'r dydd yn ysgol.

"Ni gyd yn meddwl ambwyti pethe syml fel troi'r golau bant ac yn y blaen."

Wrth edrych i'r dyfodol mae'r cyn-gynghorydd Arwyn Woolcock, yn pryderu am yr effaith ar gymunedau fel Dyffryn Aman ac ar wasanaethau yn lleol.

"Bydd y toriadau yn effeithio ar gynghorau ymhobman. Mae'r peth yn anhygoel a dweud y gwir, ac ry' ni mewn sefyllfa sy'n fregus dros ben.

"Fy mhryder i yw os gollwn ni wasanaethau nawr oherwydd hyn i gyd, gewn ni ddim o nhw nôl."

Pynciau cysylltiedig