Dathlu canmlwyddiant adran gyntaf yr Urdd yn Nhreuddyn
- Cyhoeddwyd
Daeth trigolion hen ac ifanc at ei gilydd yn un o bentrefi Sir y Fflint i ddathlu sefydlu Adran gyntaf Urdd Gobaith Cymru gan mlynedd yn ôl.
Yn Nhreuddyn yr aeth merch ifanc 16 oed, Marian Williams ati i sefydlu adran gyntaf y mudiad ym 1922.
Fe gafodd cofeb arbennig ei dadorchuddio yno ddydd Gwener gan Archdderwydd Cymru, Myrddin ap Dafydd.
Mae'r Urdd yn dathlu canmlwyddiant eleni.
Roedd Marian Williams yn gerddor ac yn awdures oedd yn cyhoeddi eitemau'n gyson yng nghylchgrawn yr Urdd, Cymru'r Plant, ac roedd yn un o'r cyntaf i ymuno â'r mudiad newydd.
Bu'n beicio o amgylch holl dai ei ffrindiau i recriwtio aelodau i'r Adran newydd.
'Symudiad pwysig'
Erbyn 1923 roedd dros 50 o ieuenctid y pentref wedi ymuno â'r Adran gyntaf.
Mae rhan Marian wedi cael ei ddathlu yn y pentref dros y blynyddoedd, a'r plinth canmlwyddiant fydd y mwyaf diweddar i anrhydeddu'r rhan a chwaraeodd.
Bellach yn 92 oed,fe ddechreuodd Idris Jones fynd i Adran Treuddyn yng nghartref Marian Williams yn Fferm y Llan, y Treuddyn yn y 1930au.
Doedd o ddim yn sylweddoli ar y pryd ei fod yn rhan o symudiad pwysig yn hanes y Gymraeg yn yr 20fed ganrif.
"Roedd 'na lawer iawn mwy o Gymry Cymraeg yn Nhreuddyn yr adeg honno."
"Doedd o ddim yn rhywbeth newydd inni mewn gwirionedd. Roedd y rhan fwyaf o bobl yn siarad Cymraeg."
Roedd tad Ceinwen Parry ymhlith aelodau cyntaf yr Adran.
Roedd hi'n falch o wisgo hen fathodynnau Urdd ei thad yn y dathliad ddydd Gwener.
"'Den ni wedi dathlu yn Nhreuddyn 50 o flynyddoedd, 75, 90 - a fedren ni ddim gadael i hwn fynd heibio heb wneud rhywbeth mawr i'r canmlwyddiant."
Canrif o hanes
Yn Ysgrifennydd Pwyllgor Eisteddfod Treuddyn, roedd Ceinwen Parry yn siomedig nad oedd modd cynnal Eisteddfod dros y tair blynedd diwethaf.
"Er gwaethaf hyn, mae aelodau pwyllgor yr Eisteddfod wedi bod yn falch o'r cyfle i ddod at ei gilydd dros y misoedd diwethaf i drefnu'r digwyddiad hwn i ddathlu Canmlwyddiant yr Urdd a'r Adran gyntaf yma yn Nhreuddyn.
"Mae un llun, yn y casgliad o gannoedd a fydd yn cael eu harddangos, yn dangos 24 o'r plant yn yr Adran gyntaf."
"Mae gennym bob un o'u henwau a'r rhan fwyaf o'u cyfeiriadau, ond byddem wrth ein bodd yn cwblhau ein gwaith ditectif trwy allu darganfod faint o deuluoedd y 24 o bobl ifanc hynny sy'n dal i fyw yn Nhreuddyn heddiw."
Roedd dwsinau o blant lleol Ysgol Terrig ac Ysgol Parc y Llan wedi gorymdeithio dan ganu at neuadd y pentref bnawn Gwener.
Dywedodd Matthew ei bod hi'n "crazy" meddwl bod Adran gyntaf yr Urdd wedi ei dechrau yn ei bentref.
Fe soniodd Lily eu bod nhw wedi creu podlediad yn sôn am hanes Treuddyn ac wedi adrodd am Marian Williams yn sefydlu'r Adran.
Dywedodd Charlie ei fod yn "falch, falch iawn" bod trigolion y pentref wedi bod mor flaengar.
Does dim Adran yr Urdd wedi bod yn Nhreuddyn ers rhai blynyddoedd, ond mae'r Urdd yn gobeithio y bydd un yn cael ei ailsefydlu yn fuan.
Yn ôl Sian Morris Jones, Cyfarwyddwr Ieuenctid a Chymuned, Urdd Gobaith Cymru, mae'r cyfnod clo wedi effeithio ar nifer o glybiau cymunedol ac adrannau.
"'Den nin'n gwybod yr ysgol yma wedi parhau i gynnal eu clybiau nhw o fewn yr ysgol o ran yr Urdd."
"Ond ie, gad i ni gael clwb cymunedol yn ôl yn Nhreuddyn fatha'r hen draddodiad rŵan bod gennym ni staff mewn lle."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2013