Y Gynghrair Genedlaethol: Boreham Wood 1-1 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Aaron HaydenFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Sicrhaodd Aaron Hayden bwynt i Wrecsam diolch i'w gôl yn fuan yn yr ail hanner

Aaron Hayden oedd achubiaeth Wrecsam brynhawn Sadwrn wrth i'r dreigiau ddod yn ôl i sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Boreham Wood.

Aeth y tîm o Swydd Hertford ar y blaen wedi i Danny Newton rwydo wedi hanner awr.

Ond diolch i gymorth Paul Mullin, gwnaeth Hadyn ddim camgymeriad wrth unioni wedi 52 munud.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Wrecsam yn parhau'n ail yn y tabl.