Cymuned ym Môn wedi'i 'hynysu' ers stopio gwasanaeth bws

  • Cyhoeddwyd
Pentrefwyr PenmonFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cyfarfod ei gynnal yn ddiweddar gan bentrefwyr a oedd yn ddig bod eu cymuned wedi ei "datgysylltu"

Mae pentrefwyr ym Môn yn dweud eu bod wedi eu "hynysu" yn dilyn "datgysylltu'r gymuned o'r rhwydwaith drafnidiaeth gyhoeddus".

Yn sgil gosod cyfyngiadau pwysau ar Bont y Borth dros yr haf, mae bysiau wedi gorfod defnyddio Pont Britannia er mwyn croesi'r Fenai.

Ond mae'r penderfyniad i newid yr amserlen, gyda bysiau bellach yn osgoi Penmon, wedi cythruddo trigolion.

Maen nhw bellach yn wynebu cylchdaith o hyd at dair milltir ar hyd ffordd "anaddas" i ddal bws yn Llangoed.

Erbyn hyn mae Pont y Borth wedi ei chau i holl draffig, gyda dim sôn pryd fydd y gwasanaeth bws yn cael ei ailsefydlu.

Ond yn ogystal ag effeithio ar drigolion lleol, dywed fod y newidiadau hefyd yn taro cartref gofal yn ei ymgais i recriwtio gweithwyr, ac i aelodau staff sy'n ceisio cyrraedd y gwaith.

Yn ôl cwmni Arriva - sy'n cysylltu Bangor a de-ddwyrain Môn - maen nhw wedi "gorfod gweithredu newidiadau sy'n darparu'r gwasanaeth mwyaf dibynadwy a chynaliadwy i'r mwyafrif o gwsmeriaid".

Maen nhw'n cyfaddef nad yw'r newidiadau yn "ddelfrydol".

Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Cynghorydd Gary Pritchard nad oedd cynghorwyr na thrigolion yn gwybod y byddai'r gwasanaeth bws yn cael ei dorri

Dywedodd un o gynghorwyr sir lleol yr ardal, Gary Pritchard, na ddylai Arriva fod wedi datgysylltu cymuned Penmon o'r gwasanaeth bysiau yn ei gyfanrwydd.

"Da' ni fel cyngor, ac mae Llywodraeth [Cymru], yn annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ond ar yr un pryd da' ni wedi gweld gwasanaeth poblogaidd iawn yma ym mhen draw Ynys Môn yn cael ei dorri heb fath o rybudd," meddai.

"Fis Gorffennaf doedden ni fel cynghorwyr ddim yn ymwybodol bod o'n mynd i gael ei dorri ac mae'r trigolion yn honni fod neb wedi cysylltu efo nhw ynghynt.

"Mae trio cael atebion gan y cwmni wedi bod yn anodd tu hwnt, a cyn belled â da' ni yn y cwestiwn mae'n warthus fod y penderfyniad wedi ei wneud i ddatgysylltu rhan wledig o Ynys Môn o weddill rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yr ynys."

Disgrifiad o’r llun,

Does dim modd i unrhyw gerbydau groesi Pont y Borth erbyn hyn, ond mae cyfyngiadau wedi rhwystro bysiau rhag gwneud ers yr haf

Fel mae'r enw yn ei awgrymu, mae Penmon yn bentref yng nghornel ddwyreiniol yr ynys, gyda diffyg palmentydd a goleuadau stryd hefyd yn peri pryder yn sgil torri'r gwasanaeth bysiau.

"Dwi 'di bod yn gynghorydd ers 18 mis ac mae wedi'n synnu faint o bobl sydd wedi cysylltu efo fi ynglŷn â'r achos yma - mwy nag unrhyw achos arall," ychwanegodd y Cynghorydd Pritchard.

"Dwi'm yn meddwl fod pobl yn ymwybodol faint mae'r trigolion yn ddibynnol ar y gwasanaeth bysiau, heb sôn am y gweithwyr sy'n dod i weithio yn y cartrefi preswyl ym Mhlas Penmon a Haulfre.

"Da' ni'n derbyn bod y cyfyngiadau ar Bont y Borth yn peri problem i'r cwmni, ond be' da' ni ddim yn derbyn ydy'r angen i ddadgysylltu cymuned yn gyfan gwbl."

'Y bws yn lifeline'

Dywedodd un o'r trigolion lleol, Alice Rowe, ei bod yn colli'r gwasanaeth "yn ofnadwy" ac nad yw'n deg ar bobl i ddibynnu ar eraill sy'n gallu gyrru.

"Os oes ganddoch chi appointment i fynd i'r meddyg neu i'r ysbyty neu'r dentist, allwch chi ddim dibynnu ar y neighbours bob tro," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Alice Rowe mae'r gwasanaeth bws yn allweddol i'r rheiny sydd ddim yn gyrru

"Da ni'n lost heb y bysus. Mae'r clociau'n troi ac mae hi'n dechra' tywyllu. Tydi o'm yn le da i gerdded.

"Mae'n lôn beryg i ddeud y gwir. Mae'r bws yn lifeline i rywun sydd ddim yn dreifio.

"Maen nhw jyst wedi stopio fo. 'Da ni yn ei golli fo'n ofnadwy."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Margaret Atkinson fod y gymuned "ar goll heb wasanaeth bws"

Dywedodd Margaret Atkinson, sy'n byw ar barc bythynnod i'r henoed, bod y ffordd cerdded i'r safle bws agosaf hefyd yn beryglus.

"Rydyn ni ar goll heb wasanaeth bws. Wnes i roi lifft adref i rywun o apwyntiad y diwrnod o'r blaen, gan ddod i lawr y ffordd a chyfarfod â'r bws ysgol hanner ffordd i lawr.

"Roedden ni filimetrau ar wahân heb unrhyw le i fynd. Pe bai cerddwr ar y ffordd fyddai ganddyn nhw ddim siawns o gwbl.

"Does dim golau stryd, does ddim palmant, mae hi mor beryglus."

'Ddim yn lot i'w ofyn'

Mae cartref gofal lleol hefyd yn cyfri' cost colli'r gwasanaeth bws rheolaidd, gyda staff yn cael trafferth cyrraedd y gwaith.

Dywedodd rheolwraig Plas Penmon, Buddug Jones, fod y sefyllfa hefyd yn ei gwneud hi'n anoddach recriwtio staff.

Disgrifiad o’r llun,

"Ers iddyn nhw stopio'r bysiau dydyn ni ddim wedi gallu recriwtio staff," medd Buddug Jones

"Da' ni allan o'r ffordd braidd yma, ac yn dibynnu ar y gwasanaeth bws i ddod â staff i mewn sydd ddim yn gallu dreifio," meddai.

"Ers iddyn nhw stopio'r bysiau dydyn ni ddim wedi gallu recriwtio staff. Mae llawer yn byw ym Mangor a da' ni'n recriwtio llawer o fyfyrwyr.

"Dwi'n gwybod dydy Penmon ddim yn lle prysur, ond os fasa'n nhw'n gallu rhoi dim ond tri neu bedwar bws y dydd ymlaen, mi fyddai'n caniatáu i bobl gael yma.

"Dydi tri gwasanaeth [y dydd] ddim yn lawer i ofyn a dweud y gwir.

"Mae'r gogyddes yma yn gorfod cerdded i mewn, ac ychydig o weithiau mae hi bron â chael ei rhedeg drosodd. Mae'n beryglus iawn, iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae bysiau cyhoeddus wedi bod yn olygfa prin ym Mhenmon ers mis Gorffennaf, gydag ond un gwasanaeth y dydd sy'n cyrraedd am 21:12.

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Arriva fod y cyfyngiadau pwysau a ddaeth i rym ar Bont y Borth o 25 Gorffennaf yn golygu nad oes modd gwasanaethu'r holl lwybrau arferol.

"Yn lle hynny mae bysiau'n gorfod dargyfeirio ar draws Pont Britannia sy'n golygu cosb amser sylweddol," meddai.

"Ers i'r cyfyngiadau ddod i mewn mae ein gwasanaethau wedi dechrau gweithredu'n sylweddol hwyr ac rydym wedi gorfod gwneud newidiadau i wella prydlondeb ein gwasanaethau, gyda hyd at wyth munud yn cael ei ychwanegu at wasanaethau ymhob cyfeiriad.

"Cyn i'r newidiadau ddod i rym buom yn gweithio gyda Chyngor Sir Ynys Môn a Thrafnidiaeth Cymru i ddeall effaith y newidiadau a gweithio drwy amrywiaeth o benderfyniadau posib.

"Er nad yw'n ddelfrydol rydym wedi gorfod gweithredu newidiadau sy'n darparu'r gwasanaeth mwyaf dibynadwy a chynaliadwy i'r mwyafrif o gwsmeriaid sy'n defnyddio'r gwasanaeth.

"Byddwn yn trafod adborth cwsmeriaid gyda'r cyngor a Thrafnidiaeth Cymru."