Mynnu atebion am fethiannau cyn marwolaeth dynes 93 oed

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Glan Clwyd
Disgrifiad o’r llun,

Doedd dim ambiwlans ar gael am oriau i gludo Glenys Roberts i uned fasgwlar Ysbyty Glan Clwyd

Mae crwner yn galw am weithredu gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a'r Gwasanaeth Ambiwlans yn dilyn methiannau a arweiniodd at farwolaeth dynes oedrannus o Ynys Môn.

Doedd dim ambiwlans ar gael i gludo Glenys Roberts, 93, o Ysbyty Gwynedd ym Mangor i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan am driniaeth fasgwlar frys a allai fod wedi achub ei bywyd.

Cafodd casgliad naratif ei gofnodi yn y cwest i'r farwolaeth, ac fe gyhoeddodd Uwch Grwner Dros Dro Gogledd Orllewin Cymru, Kate Sutherland, adroddiad Atal Marwolaethau yn y Dyfodol.

Bydd yn rhaid i'r bwrdd a'r ymddiriedolaeth, sydd wedi cael cais am sylw gan BBC Cymru, ymateb i'r pryderon sydd wedi eu nodi yn yr adroddiad erbyn 12 Rhagfyr.

Mae galw wedi bod ers tro i'r bwrdd ailedrych ar wasanaethau fasgwlar ers eu canoli yn Ysbyty Glan Clwyd, a phryder yn gyffredinol ar draws Cymru ynghylch y pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans.

Cafodd Mrs Roberts ei chludo i Ysbyty Gwynedd ar 23 Awst, 2021 wedi iddi gael ei darganfod ger drws ei chartref ym Moelfre mewn poen ac wedi colli'r teimlad yn ei choesau.

Pan gyrhaeddodd adran frys yr ysbyty, am 19:46, dywedodd ymgynghorydd fod ganddi geulad gwaed a'i bod yn debygol o golli'r cylchrediad gwaed i'w dwy goes oni bai ei bod yn derbyn triniaeth fasgwlar arbenigol.

Cysylltodd staff â'r uned fasgwlar yn Ysbyty Glan Clwyd, 30 milltir o Ysbyty Gwynedd, a threfnu i'w throsglwyddo'n syth i ward arbenigol er mwyn osgoi oedi.

Ond roedd yr ambiwlans agosaf yn Y Bermo ac erbyn i griw fod ar gael, am 05:15 y bore canlynol, roedd ei chyflwr wedi dirywio gormod i'w symud, ac fe fu farw tua 07:30.

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Glenys Roberts yn Ysbyty Gwynedd ryw 12 awr ar ôl cyrraedd yr adran frys

Dywedodd y crwner, Kate Sutherland yn ei hadroddiad bod "cyfle wedi ei golli" i Mrs Roberts gael llawdriniaeth fasgwlar a allai fod wedi achub ei bywyd "trwy beidio â chael ei chludo i Ysbyty Glan Clwyd... ond ni ellir ddweud y byddai hyn wedi newid y canlyniad yn ei hachos".

Dywedodd bod yna sawl rheswm pam nad oedd ambiwlans ar gael "ond yn benodol roedd cleifion holliach yn parhau yn yr ysbyty yn niffyg gofal ar eu cyfer yn y gymuned" gan gyfyngu ar nifer y gwelyau ar gael i gleifion eraill.

Nododd bod y gwasanaeth ambiwlans a'r bwrdd iechyd yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r sefyllfa ond bod pryderon yn parhau.

Dywed Ms Sutherland bod adolygu a gweithredu'r trefniadau o ran trosglwyddo cleifion ysbytai "wedi bod yn rhy araf", a bod cynllun i leihau'r oriau sy'n cael eu colli wrth i griwiau ambiwlans orfod aros i drosglwyddo cleifion ddim eto mewn grym.

Disgrifiad o’r llun,

Ambiwlansys tu allan i adran frys Ysbyty Glan Clwyd

Mae gan y bwrdd iechyd ac Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru 56 diwrnod i ymateb ac i egluro amserlen i gyflwyno gwelliannau.

Dywed Ms Sutherland: "Dylai eich ymateb gynnwys manylion y camau sydd wedi eu cymryd neu sy'n cael eu cynnig, gan osod amserlen i'w gweithredu. Fel arall mae'n rhaid i chi egluro pam os nad oes bwriad gweithredu."

Yn dilyn cais i ymateb gan BBC Cymru, dywedodd Gill Harris, Dirprwy Brif Weithredwr y Bwrdd Iechyd: "Rydym yn cynnig ein cydymdeimlad diffuant i deulu Mrs Roberts am eu colled trist iawn.

"Rydym yn derbyn canfyddiadau'r crwner yn llawn ac rydym yn cydweithio gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i gyflawni'r gwelliannau gofynnol yn gyflym.

"Bydd ein cynlluniau gwella yn cael eu rhannu gyda'r crwner."

Mae'r ymddiriedolaeth hefyd wedi cael cais i ymateb.

Pynciau cysylltiedig