Canoli gwasanaeth fasgwlar y gogledd yn 'gamgymeriad'

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Glan Clwyd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaeth fasgwlar ei ganoli yn Ysbyty Glan Clwyd yn 2019

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi dweud wrth Newyddion S4C eu bod nhw'n benderfynol o wneud gwelliannau i'r gwasanaeth fasgwlar ar ôl i ffigyrau ddangos mai yng Ngogledd Cymru mae'r gyfradd waethaf y DU o farwolaethau yn dilyn math penodol o lawdriniaeth.

Fe ddaeth y wybodaeth honno i'r amlwg mewn adroddiad gafodd ei gyflwyno i gyfarfod o'r Bwrdd Iechyd gan Dr Nick Lyons, y Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol.

Dros gyfnod o dair blynedd hyd at 2020 roedd 10.6% o bobl wedi marw ar ôl llawdriniaeth i dynnu coes neu fraich. Hynny yw'r ganran uchaf yn y Deyrnas Unedig.

Bron i dair blynedd yn ôl yn Ebrill 2019, fe gafodd y gwasanaeth fasgwlar - sy'n ymwneud â chylchrediad y gwaed - ei ganoli yn Ysbyty Glan Clwyd, gydag israddio'n digwydd yn ysbytai Gwynedd a Maelor.

'Gwell cyn israddio'

Pete ac Esyllt CalleyFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Pete Calley yn defnyddio cadair olwyn am weddill ei oes

Mae Esyllt Calley, gwraig i un claf sydd wedi colli ei ddwy goes, yn hynod feirniadol o'r penderfyniad hwnnw.

Fe gafodd Pete Calley lawdriniaeth yn Lerpwl yn ddiweddar - ond yn ôl ei wraig roedd y gwasanaeth yn well o lawer cyn yr israddio.

"Mae Pete rŵan... heb ddim un goes uwch ben y pen-glin, yn byw mewn cadair olwyn am weddill ei fywyd.

Pete CalleyFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y gwasanaeth yn well cyn is-raddio, medd gwraig Pete, Esyllt

"Mae'r mortality rate y gwaetha' ym Mhrydain... sut fedrith unrhyw un ddeud mai dyna oedd y peth gora ar gyfer fasgwlar yng Ngwynedd, yng Ngogledd Cymru... sut fedran nhw ddeud hynny? Fedran nhw ddim."

'Arwyddion o welliant'

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fodd bynnag yn dweud bod yna rai arwyddion fod y sefyllfa'n gwella, er bydd angen rhagor o waith i fedru bod yn siŵr o hynny.

Fe ddywedodd Dr Nick Lyons: "Mae hyn yn rhywbeth yr ydan ni'n ei gymryd o ddifri calon, ac mae'r Bwrdd yn benderfynol o wneud y gwelliannau angenrheidiol.

Ysbyty Glan Clwyd
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth aelod o'r bwrdd iechyd ymddiswyddo dros ganoli'r gwasanaeth fasgwlar yn 2019

"Mae ffigyrau'r Gofrestr Genedlaethol ar wasanaethau fasgwlar yn dangos cyfradd farwolaeth o 10.6% ar gyfer y tair blynedd hyd at 2020. Rydym wedi cynnal astudiaeth fewnol, sy'n cofnodi cyfradd o 3.3% o farwolaethau yn 2020, yn seiliedig ar 91 o achosion.

"Mae hynny'n awgrymu y gallai'r sefyllfa fod yn well na ffigyrau'r gofrestr, er bydd angen cynnal rhagor o waith manwl.

"Rydym yn deall yn llwyr mor anodd y gall colli rhan o'r corff fod i gleifion a'u perthnasau, ac yn gwybod yn iawn mai pobol ydy'r rhain, y tu ôl i'r ystadegau. Bydd cleifion sy'n colli coes yn aml ag anhwylderau eraill, ac nid ar chwarae bach y byddwn yn rhoi llawdriniaeth.

Arwydd Ysbyty Glan Clwyd
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y bwrdd iechyd eu bod yn ceisio recriwtio mwy o staff i'r gwasanaeth

"Er mwyn sicrhau bod y data'n ddibynadwy, rydym yn defnyddio arbenigwyr allanol i'n cefnogi wrth asesu'r canlyniadau, fel y gallwn ddeall y rheini cyn ac ar ôl canoli rhai gwasanaethau yn Ysbyty Glan Clwyd.

"Rydym yn gweithio'n galed i recriwtio pobl i'r gwasanaeth fasgwlar a dod â nifer y staff i'r lefel ofynnol. Fe ddechreuodd ymgynghorydd newydd yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

"Mae'n bwysig cofio bod Coleg Brenhinol y Llawfeddygon wedi argymell canoli'r gwasanaeth fasgwlar yng Nglan Clwyd gyda changhennau yn Wrecsam a Bangor, ac rydym yn dal i fod yn hyderus mai trwy wneud hynny, gyda chefnogaeth ymgynghorwyr ar alw, y gallwn drin y cleifion orau yn y tymor hir."

'Angen ymchwiliad cyhoeddus'

Sian Gwenllian
Disgrifiad o’r llun,

"Camgymeriad dybryd a gwallus" oedd symud y gwasanaethau, medd Aelod y Senedd dros Arfon

Er hynny, mae Aelod y Senedd dros Arfon, Siân Gwenllian, nawr yn galw am ymchwiliad cyhoeddus.

"Yn anffodus mae'r data fel 'dach chi 'di glywed heddiw yn y Bwrdd Iechyd yn cadarnhau mai camgymeriad dybryd a gwallus oedd ceisio symud gwasanaethau o Fangor allan o'r ardal ac mae angen gweithredu ar frys.

"Dwi'n credu erbyn hyn bod angen ymchwiliad cyhoeddus i fewn i'r holl saga yma."