Ateb y Galw: Elin Huws
- Cyhoeddwyd
Yr artist Elin Huws sydd yn Ateb y Galw'r wythnos yma. Mae Elin yn arlunwraig ac yn wehyddwraig o Lanbedrog ym Mhen Llŷn ac yn gweithio fel athrawes Gelf yn Ysgol Uwchradd Botwnnog.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Codi o fy set uchel wrth y bwrdd swper ym Metws y Coed a datgan nad oedd hi'n deg fod plant eraill yn cael 'bwalan' (gwialen bysgota) a ni ddim. Y plant eraill oedd fy mrawd Iwan a ni oedd fi a fy efaill Dafydd.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Mynydd Tir Cwmwd, Llanbedrog - awyr iach, llonyddwch, golygfeydd bendigedig, adra!
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Dim yn hawdd dewis, mae sawl un - nosweithiau pan yn fyfyrwraig yng Nghaeredin pan oedd y nos yn troi yn fore i nosweithiau mewn amrywiaeth o wledydd yn gweld pethau anhygoel, cyfarfod pobl ddifyr, bwyta ac yfed amrywiaeth fwyddydd a diodydd. Un o rhai sydd yn aros yn cof ydi noson flwyddyn newydd a dreuliais yng nghanol mynyddoedd Yr Atlas, Morocco gyda James. Nosweithiau yn nes at adref hefyd.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Penderfynol, creadigol, blêr (i gymharu gyda safonau fy mam).
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Fy mrodyr yn ffraeo gyda'i gilydd wrth gario oergell tra'n helpu fi a fy nheulu i fudo.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Brexit.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Sefyllfa'r byd ar hyn o bryd yn ddigon i wneud unrhyw un grïo.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Methu dweud na, ceisio gwneud gormod o bethau ar unwaith, methu penderfynu fel sydd yn amlwg o rai o fy atebion yma! Dwi siwr bod gennyf ddigonedd o rai eraill hefyd.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Cwestiwn anodd, dim yn hawdd penderfynu, llawer o ffefrynau mewn cyfnodau gwahanol o fy mywyd.
Ym mherfformiad gwych Theatr Bara Caws o Un Nos Ola Leuad yn ddiweddar cefais fy atgoffa o'r mwynhad a gefais o ddarllen y nofel bwerus hon gan Caradog Prichard pan yn astudio Lefel A, angen ei darllen eto. Yn y saesneg dwi'n cael fy hudo gan waith Kazuo Ishiguro yn enwedig ei nofel 'An Artist of the Floating World'.
Unrhyw ffilm gan Pedro Almadóvar. Os gyda ychydig oriau yn sbar mi fuaswn wrth fy modd yn gwylio Dr Zhivago eto, ffefryn i mi yn fy arddegau.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Salvador Dali, dwi siwr y byddai'n brofiad swreal.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n ffan mawr o Farmite.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Mynd am dro i Fynydd Tir Cwmwd gyda fy nheulu a Cymro y ci. Treulio gweddill y diwrnod gyda theulu a ffrindiau yn bwyta'n dda ac yn yfed ambell i lasiad o win coch Primitivo neu Pomerol.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Mae sawl llun yn bwysig i mi, lluniau teuluol, lluniau gan arlunwyr, anodd iawn gwneud dewis. Ond gan ei fod yn lun sydd ar y wal o fy mlaen wrth i mi ysgrifennu hwn ac yn waith sydd mor amserol dwi am ddewis "The Dis-United Kingdom (Eton Mess)" gan Iwan Bala. Does dim angen dweud mwy!
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Dwi'm eisiau bod yn neb arall, dwi'n hapus yn bod yn fi, ond swn i ddim yn meindio bod yn Cymro y ci am ddiwrnod er mwyn gweld y byd o'i bersbectif o. Ella wedyn byswni'n gallu ei ddisgyblu'n well!