Ateb y Galw: Gwyn Jones
- Cyhoeddwyd
Gwyn Jones o Nefyn sydd yn Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Martyn Croydon wythnos diwethaf. Mae Gwyn yn Brif Weithredwr ar Oriel Plas Glyn y Weddw yn Llanbedrog ger Pwllheli ers 2005.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Bownsio mewn cadair babi o ffram drws y stafell fyw yn Henllys, Nefyn - cofio llawer ddim am flynyddoedd wedyn ond mae gen i atgofion o fod yn ifanc iawn.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Ben Garn Boduan uwchlaw Nefyn.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Diwrnod geni fy merch Beca yn 2001.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Doeth, gwirion, direidus.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Sawl digwyddiad o hwyl sydd wedi ei gael dros yr 20 mlynedd diwethaf wrth i griw o hogia Nefyn fynd dramor i drio sgïo!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Mynd i'r bus stop ar fore Sadwrn yn fy nillad ysgol.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Marwolaeth Mam yn 2018.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Gormod.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
One Flew Over the Cuckoo's Nest - fe gafodd argraff mawr arnaf yn ifanc iawn.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Meic Stevens - lej ac yn hoff iawn o'i gwmni a'i straeon.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n swil.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Mynd a'r billionaires a'r gwleidyddion drwg i gyd hefo fi.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Llun hunan bortread Evan Walters. Dwi'n hoff iawn o waith Evan Walters oedd yn artist chafodd ddim y clod na'r gydnabyddiaeth yr oedd yn ei haeddu yn ystod ei oes ond sydd bellach yn cael ei gydnabod fel un o'r artistiaid Cymraeg pwysicaf o hanner cyntaf yr 20fed ganrif.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Y wraig Caren, i mi gael gwybod beth mae'n feddwl ohonai go iawn a sut mae' gwneud hi'n hapus!
Hefyd o ddiddordeb: