Ateb y Galw: Eurig Salisbury

  • Cyhoeddwyd
Eurig SalisburyFfynhonnell y llun, Eurig Salisbury

Yr awdur a'r bardd Eurig Salisbury sy'n Ateb y Galw wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Iwan Griffiths yr wythnos diwethaf.

Mae Eurig yn ddarlithydd ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cafodd ei eni yng Nghaerdydd a'i fagu yn Llangynog, Sir Gaerfyrddin.

Mae o bellach yn byw yn Aberystwyth gyda'i wraig, Rhiannon a'i fab, Llew.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Gweld lluniau o lyfr roedd yr athrawes yn ei ddarllen yn y Meithrin - llwynog yn trio'i orau i ddal ceiliog.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Unrhyw un o lawer iawn lle roedd barddoniaeth fyw, ffrindiau a theulu.

Ffynhonnell y llun, Eurig Salisbury
Disgrifiad o’r llun,

Eurig gyda'i wraig, Rhiannon a'u mab, Llew

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Trefnus. Anhrefnus. Creadigol.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Anodd curo dyffryn hardd Ceiriog.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Ffrind ar daith stag i'r cyfandir yn sylweddoli yn y maes awyr, yn y ciw i'r bws i'r awyren, ei fod e wedi dod â phasbort ei gariad ar gamgymeriad, ac wedyn nid yn unig yn gorfod gwylio'r bois i gyd yn gadael ond yn gorfod talu'n ddrud hefyd am dacsi o Fryste nôl i Gaerdydd, lle roedd e wedi gadael ei gar, ond roedd ei oriadau wedi'u cloi yn nhŷ un o'r bois, a doedd dim dewis ganddo ond dal trên i Gaer, gofyn i'w gariad ddod â'r goriadau sbâr iddo, wedyn dal trên arall yn syth nôl i Gaerdydd, cyn gyrru'r holl ffordd nôl i fyny i'r gogledd, a ninnau'r holl amser yn mwynhau penwythnos bythgofiadwy ym Mhrâg. Ac mae mwy i'r stori hefyd, ond wiw imi rannu'r pethau hynny â'r byd. Druan ag e. Ond mae e'n chwerthin am y peth gyda ni erbyn hyn.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mae'r un un yn codi'n rheolaidd - siarad yn hir efo rhywun, rhywun arall yn ymuno, a'r ddau'n amlwg yn disgwyl imi'u cyflwyno i'w gilydd, a finne'n methu'n lân â chofio'r enw. Awks.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Daeth deigryn bach i'r llygad ar ddiwedd y ffilm Coco'n ddiweddar. Dwi'n rêl boi sofft am ffilm dda.

O archif Ateb y Galw:

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Cytuno i wneud pethe, a finne'n lot rhy brysur.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Mis mêl yn yr Eidal. Joio.

Ffynhonnell y llun, Eurig Salisbury
Disgrifiad o’r llun,

Yr Eidal - lleoliad mis mêl Eurig a Rhiannon

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Ar hyn o bryd, llawysgrif Cwrtmawr 222. Enw reit ddiflas, o bosib, ond mae hi'n llawn dop o gerddi difyr iawn o'r ail ganrif ar bymtheg, a chydig iawn o bobl sy wedi craffu arni'n fanwl erioed. Cerddi o bob math - un i ofyn feiolin ar ôl i'r canwr truan syrthio ar ei offeryn yn ei ddiod, un arall i ddathlu dyfodiad yr haf, pennill am smocio baw gwyddau… mae pethau newydd ac annisgwyl ar bob dalen. A dweud y gwir, mae'r Llyfrgell Genedlaethol, lle mae'r llawysgrif wedi'i chadw, yn llawn dop o bethau tebyg sy'n aros i ymchwilwyr ddod i ddatgelu'u cyfrinachau.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Byddai'n dda iawn cael sgwrs â Gwerful Mechain. Bardd o'r bymthegfed ganrif oedd hi, a chydig iawn o'i cherddi sy wedi goroesi. Ond mae'n amlwg ei bod hi'n llais unigryw a diddorol iawn oedd yn nabod llawer o feirdd yr oes ac yn ddigon dewr i sefyll ochr yn ochr â nhw a thorri'i chŵys ei hun.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n olchwr llestri rhyfeddol o dda.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Gobeithio fod y blaned nesaf gystal â'r un yma.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Y mab, Llew. Mae e i'w weld fel tase'n joio bod yn chwe oed.

Ffynhonnell y llun, Eurig Salisbury
Disgrifiad o’r llun,

Eurig gyda'i fab Llew

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Hywel Griffiths

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw