Penodi David TC Davies, AS Mynwy, yn Ysgrifennydd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae David TC Davies wedi cael ei benodi'n Ysgrifennydd Cymru gan Brif Weinidog newydd y DU, Rishi Sunak.
AS Mynwy sy'n olynu Syr Robert Buckland, a ymddiswyddodd yn gynharach ddydd Mawrth wedi pedwar mis yn y swydd, wrth i Mr Sunak ddewis aelodau ei gabinet.
Roedd Mr Davies wedi datgan ei gefnogaeth i Mr Sunak - a ddaeth yn Brif Weinidog y DU yn swyddogol ddydd Mawrth - yn y ras i olynu Liz Truss fel arweinydd y Blaid Geidwadol.
Mae'r penodiad yn ddyrchafiad i'r Ceidwadwr sydd wedi bod yn is-weinidog yn Swyddfa Cymru ers Rhagfyr 2019.
Daeth cadarnhad brynhawn Mawrth hefyd fod y cyn-Ysgrifennydd Gwladol, Simon Hart, wedi ei benodi'n Brif Chwip y blaid yn Nhŷ'r Cyffredin.
Yn croesawu'r penodiad dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, bod Mr Davies yn "ffrind da" ac y bydd yn "parhau i fod yn bencampwr gwych i Gymru oddi fewn y cabinet".
Ychwanegodd y bydd yn "amhrisiadwy i sicrhau bod Cymru wrth galon Llywodraeth y DU, yn enwedig gan dynnu ar ei brofiad fel aelod cynulliad cyn dod yn AS".
Cafodd Mr Davies ei eni yn 1970 a'i addysgu yn Ysgol Gyfun Basaleg, yng Nghasnewydd.
Ar ôl gadael yr ysgol fe weithiodd i gwmni British Steel ac ymuno â'r Fyddin Diriogaethol cyn byw a gweithio dramor am rai blynyddoedd - Awstralia, yn bennaf, ble gweithiodd fel hyrwyddwr clwb nos, casglwr tybaco a gyrrwr ricsio.
Dychwelodd i'r DU a gyrru loris ar hyd y cyfandir cyn rheoli busnes cludo nwyddau ei deulu.
Roedd ymhlith sylfaenwyr ymgyrch yn gwrthwynebu datganoli, gan addo i wrthwynebu grymoedd pellach i Gymru pan gafodd ei ethol i gynrychioli Mynwy yn y Cynulliad yn 2003.
Roedd yn AC tan 2007, ac mae wedi cynrychioli etholaeth Mynwy yn San Steffan ers 2005.
Mr Davies oedd cadeirydd Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan rhwng 2010 a 2019.
Mae wedi dysgu siarad Cymraeg ac roedd yn Gwnstabl Arbennig gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain am naw mlynedd.
Roedd yn gefnogwr brwd o'r ymgyrch i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac fe gafodd ei benodi'n Is-Weinidog Cymru gan Boris Johnson wedi etholiad cyffredinol Rhagfyr 2019.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2022