Syr Robert Buckland yn ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Syr Robert BucklandFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Syr Robert Buckland yn Ysgrifennydd Cymru am bedwar mis

Mae Syr Robert Buckland wedi ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Cymru wrth i Brif Weinidog newydd y DU, Rishi Sunak benodi aelodau i'w gabinet.

Yn ei lythyr ymddiswyddiad dywedodd AS De Swindon ei fod "yn gadael y llywodraeth ar fy nghais fy hun".

Mae disgwyl cadarnhad maes o law pwy fydd ei olynydd.

Yn y cyfamser mae cyn-Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, wedi ei benodi'n Brif Chwip yn y cabinet.

Dywedodd Syr Robert y byddai'n cefnogi Mr Sunak - a ddaeth yn Brif Weinidog y DU yn swyddogol ddydd Mawrth - o'r meinciau cefn.

"Bu'n fraint i wasanaethu fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac o fod wedi gwasanaethu pedwar Prif Weinidog fel Twrnai Cyffredinol, Gweinidog Cyfiawnder ac Arglwydd Ganghellor," meddai yn y llythyr.

Cafodd Syr Robert, sy'n hanu o Lanelli, ei benodi gan Boris Johnson ym mis Gorffennaf, gan barhau yn y swydd yn ystod cyfnod byr Liz Truss wrth y llyw.

Fe lenwodd y bwlch yn sgil ymddiswyddiad Simon Hart fel Ysgrifennydd Cymru wrth i nifer fawr o ASau Ceidwadol gynyddu'r pwysau ar Mr Johnson i adael 10 Downing Street.

Roedd yna ddarogan y byddai Syr Robert yn colli'r swydd wedi iddo newid ei feddwl yn ystod y ras i olynu Mr Johnson, gan gefnogi ymgyrch Mr Sunak yn gyntaf cyn datgan cefnogaeth i Ms Truss.

Yn ei lythyr ymddiswyddo dywedodd ei fod wedi "gwneud cynnydd sylweddol ar yr agenda Codi'r Gwastad, gan lansio proses cynigion Porthladdoedd Rhydd Cymru a pharhau â rhaglen y Gronfa Ffyniant Cyffredin".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Simon Hart oedd Ysgrifennydd Cymru yn llywodraeth Boris Johnson

Yn y cyfamser mae Aelod Seneddol Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro wedi cael ei benodi yn brif chwip yng nghabinet Rishi Sunak, gan gymryd lle Wendy Morton.

Mr Hart fydd rheolwr busnes Mr Sunak yn Nhŷ'r Cyffredin, yn sicrhau disgyblaeth o fewn y blaid a bod ASau Ceidwadol yn pleidleisio gyda'r llywodraeth.

Mae'n swydd sy'n cael ei hystyried yn allweddol yn dilyn y golygfeydd o anhrefn yn y Senedd arweiniodd at ymddiswyddiad Liz Truss.

Mr Hart oedd Ysgrifennydd Cymru yn llywodraeth Boris Johnson rhwng 2019 a 2022, ac un o'r gweinidogion Cabinet ddywedodd wrtho fod yn rhaid iddo ymddiswyddo ym mis Gorffennaf.