Y Bencampwriaeth: Preston 1-0 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Un gôl oedd ynddi nos Fawrth wrth i Abertawe ddychwelyd o Sir Gaerhirfryn yn waglaw.
Aeth Preston ar y blaen wedi hanner awr diolch i Alan Browne, gyda'r chwaraewr ganol cae yn gwyro'r bêl i gefn y rhwyd ar ôl i Benda arbed ergyd cyn-ymosodwr Cymru, Ched Evans.
Er i'r Elyrch ymdrechu i ddod nol fewn i'r gêm wedi'r egwyl roedd campau cyn-golwr Abertawe, Freddie Woodman, yn ddigon i selio'r fuddugoliaeth i'r tîm cartref.
Mae'r canlyniad yn golygu fod Preston yn codi i'r seithfed safle, sef un lle tu ôl i'r Elyrch yn y tabl.