Penodi James Davies yn is-weinidog yn Swyddfa Cymru

  • Cyhoeddwyd
James Davies

Mae AS Dyffryn Clwyd, Dr James Davies wedi cael ei benodi'n is-weinidog yn Swyddfa Cymru.

Mae'n llenwi'r bwlch wedi i Brif Weinidog y DU, Rishi Sunak, ddyrchafu David TC Davies i fod yn Ysgrifennydd Cymru yn gynharach yn yr wythnos.

Daeth cadarnhad hefyd bod AS Brycheiniog a Maesyfed, Fay Jones bellach yn Chwip Cynorthwyol gyda'r cyfrifoldeb o sicrhau bod aelodau Ceidwadol yn pleidleisio gyda'r llywodraeth.

Bydd yn cydweithio â'r cyn Ysgrifennydd Gwladol, Simon Hart a gafodd e ei enwi yn brif chwip y Torïaid yng nghabinet Mr Sunak.

Cafodd Dr Davies ei ethol i gynrychioli etholaeth Dyffryn Clwyd yn 2015 ond fe gollodd y sedd yn etholiad cyffredinol 2017.

Fe ddychwelodd i'r Senedd yn etholiad cyffredinol 2019.

Mae Fay Jones wedi cynrychioli Brycheiniog a Maesyfed ers 2019.

Dywedodd mewn neges ar Twitter bod hi'n "anrhydedd llwyr" bod yn rhan o dîm gweinidogol Rishi Sunak a "chael ei agenda drwy'r Senedd".