Rhieni yn mynd heb fwyd wrth i gostau byw gynyddu
- Cyhoeddwyd
"Mae fy mhlant wedi bod yn gofyn, ydyn ni'n mynd i allu bwyta?"
Mae Laura Amos yn gorfod tawelu meddyliau ei dau blentyn bod digon o arian i roi bwyd ar y bwrdd.
Ond mae'r newid yn yr hyn mae hi'n ei wario yn yr archfarchnad yn dangos y straen ariannol sy'n wynebu ei theulu.
"Roeddwn i'n arfer gwneud siop wythnosol ac yn gwario uchafswm o £30," meddai Laura, o Fynydd Cynffig yn sir Pen-y-bont ar Ogwr.
"Mae bellach dros £60 neu £70, a hynny dim ond ar gyfer yr ychydig bethau dwi angen."
Mae plant Laura yn naw ac yn bump oed, ac mae hi wedi bod yn dibynnu ar gefnogaeth gan ganolfan Splice.
Mae hi'n 36 ac yn byw gyda'i mam, Christine, ac yn dweud bod costau cynyddol bwyd yn golygu eu bod yn bwyta llai.
"Rydw i bob amser wedi dweud y bydd fy mhlant yn bwyta cyn fi. Felly dwi bob amser yn gwneud yn siŵr bod hynny yn digwydd, a bydda i'n mynd heb [fwyd], os oes rhaid," meddai Laura.
Mae'n "dipyn o frwydr ar hyn o bryd" gyda phrisiau'n codi ar gyfer biliau bwyd ac ynni, meddai.
"Ar amryw achlysur dwi wedi gorfod rhoi rhywbeth nôl yn y siop oherwydd does gen i ddim yr arian i dalu amdano."
'Mae'n mynd i waethygu'
Mae elusen Splice yn cyflogi cynghorydd lles sy'n helpu Laura a'i mam i reoli eu harian ac i baratoi ar gyfer costau cynyddol.
Mae'r elusen hefyd yn rhedeg banc babanod, sy'n dosbarthu pethau hanfodol i rieni newydd, gan gynnwys cotiau, dillad a chewynnau.
"Mae pobl yn wirioneddol ofnus. Gyda'r gaeaf yn dod, mae'n mynd i waethygu," meddai Tracey Morgan, sy'n rhedeg Splice.
"Mae gennym ni lawer iawn o rieni fydd yn mynd heb fwyd fel bod y plant yn cael eu te neu eu cinio. Mae'n anodd iawn, iawn," meddai.
Mae mwy o bobl yn troi at y banc babanod wrth i gost pethau fel cewynnau gynyddu. Mae'r elusen bellach yn dosbarthu dillad oedolion a pharseli bwyd i rai teuluoedd.
Mae Tracey wedi sylwi ar wahaniaeth yn y mathau o deuluoedd sydd angen cymorth erbyn hyn.
"Rydyn ni'n gweld y newid nawr, ac mae shifft bendant lle mae rhieni yn gweithio... maen nhw'n llythrennol un pay-cheque i ffwrdd o gyrraedd argyfwng.
"Neu efallai bod ganddyn nhw fil mawr annisgwyl, neu fabi newydd. Mae babanod yn ddrud, ac mae wir yn effeithio ar y teuluoedd hyn."
Mae Splice yn cynnig sesiynau chwarae yn eu canolfan i unrhyw rieni â phlant yn yr ardal.
Ond mae'r elusen wedi gweld y galw'n cynyddu am y cymorth penodol sydd ar gael i deuluoedd mewn angen.
"Mae'r biliau gwres mor uchel ar hyn o bryd, maen nhw'n gorfod [gwario] llai ar eu bwyd," meddai Tracey. "Mae'n frawychus."
'Dyma sydd wedi fy nghadw i fynd'
Dywedodd Laura fod cost ynni yn ei gwneud hi'n anodd cadw ei phlant yn gynnes adref wrth i'r tywydd oeri.
"Mae'r plant yn dod lawr yn y bore: 'O mam, ga' i flanced, dwi'n oer.' Achos doeddwn i ddim eisiau rhoi'r gwres ymlaen achos mae'n rhy ddrud.
"Maen nhw'n eistedd yno gyda'r blancedi, nes i mi ildio am bum munud a rhoi'r gwres ymlaen. Ac yna wna'i droi i ffwrdd eto. Cyn gynted ag y bydd y lle wedi cael cyfle i gynhesu, mae'n mynd i ffwrdd."
Defnyddiodd Laura y banc babanod pan gafodd ei phlant eu geni, ac mae'n ddiolchgar i'r ganolfan am ei chadw'n fyw.
Dywedodd: "Mae wedi rhoi'r hyder i mi fod y person dwi heddiw.
"Cyn i mi ddechrau mynychu Splice, roedd fy iechyd meddwl yn wael iawn ac roeddwn i wedi cyrraedd pwynt lle nad oeddwn i eisiau bod yma.
"Heb y lle hwn, fyddwn i ddim yma heddiw. Dyma sydd wedi fy nghadw i fynd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2022