Costau byw: 'Angen gweithredu nawr i achub bywydau'

  • Cyhoeddwyd
Dynes yn edrych ar filFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae angen gweithredu nawr er mwyn achub bywydau dros y gaeaf, yn ôl melin drafod flaenllaw yng Nghymru.

Dywedodd Dr Victoria Winckler o Sefydliad Bevan fod yr argyfwng costau byw eisoes yn effeithio ar iechyd corfforol a meddyliol pobl.

Ychwanegodd fod risg gwirioneddol i fywydau pobl heb weithredu.

Mae llywodraeth Cymru wedi addo cynnig cymorth wrth helpu pobl trwy fisoedd y gaeaf a'r argyfwng costau byw.

Dywedodd Dr Winckler ar raglen Politics Wales fod llywodraeth y DU wedi gwneud y "penderfyniadau mawr" ynghylch dosbarthiad arian mewn cymunedau a bod llywodraeth Cymru'n cael eu cyfyngu.

Ond, fe wnaeth hi gydnabod fod llywodraeth Cymru wedi bod o help mawr yn ystod y pandemig a bod angen iddyn nhw gynnal y cymorth hwnnw yn ystod yr argyfwng costau byw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhaid gweithredu i achub bywydau, medd Victoria Winckler

Daw hyn wedi i filiau ynni gynyddu eto ar 1 Hydref sy'n golygu fod prisiau tua ddwywaith yr hyn oedden nhw yng ngaeaf y llynedd.

Dywedodd Dr Winckler bod angen i lywodraeth Cymru sicrhau fod pobl yn cael pob cefnogaeth y gallan nhw. Er bod taliadau un tro yn cael eu croesawu, dywedodd, mae angen "sicrwydd" ar bobl.

Ychwanegodd: "Oni bai ein bod ni'n gwneud rhywbeth, mi fyddwn ni'n dechrau gweld pobl yn colli eu bywydau'n gynnar."

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru y byddai'n parhau i gefnogi pobl yn ystod yr argyfwng costau byw, gan roi cefnogaeth wedi ei dargedu i bobl sydd ei angen fwyaf.

Yn ystod tymor yr hydref, dywedodd y bydd yn helpu pobl i hawlio'r buddiannau sydd ar gael iddynt.

Poeni am gostau'n cynyddu

Mewn un ganolfan gymunedol yn Nhrelái, Caerdydd, does dim modd osgoi'r drafodaeth a'r pryder am gostau byw cynyddol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Carol Coyle ei bod yn poeni am brisiau bwyd yn cynyddu

Dywedodd Carol Coyle, 57, fod costau bwyd yn achosi poen meddwl iddi.

"Gyda'r bara yn Aldi a Lidl yn arfer bod yn 45c, mae hwnna wedi cynyddu i 65c. Dw i'n gwybod mai dim ond 20c yw hynny, ond mae'r holl 20c hynny'n gallu adio i fyny," dywedodd.

"A wedyn nwy a thrydan, nid dim ond un peth sy'n cynyddu fan hyn, gallwch chi gael tri neu bedwar ac mae hynny'n llethol."

Ychwanegodd Tanya Clarke, 57, ei bod hithau hefyd yn poeni am y gaeaf.

"Mae costau byw mor uchel a'r buddiannau mor isel a does dim ffordd y gallan nhw lefelu fyny er mwyn i ni allu goroesi.

"Beth all pobl wneud? Wel mae'n rhaid dewis, ydych chi'n cael trydan neu ydych chi'n cael nwy? Ydych chi'n cael bwyd?"

'Pobl yn gwneud gwaith rhyw i ennill arian'

Yn y cyfamser, yn ôl elusen Cymorth Cymru, fe ddangosodd arolwg gyda 720 o bobl sy'n gweithio yn y sector tai a digartrefedd yng Nghymru fod 44% ohonynt yn ei chael hi'n anodd talu am eu biliau eu hunain.

Dangosodd yr arolwg fod 7% o'r gweithwyr wnaeth gymryd rhan yn defnyddio banciau bwyd.

"Ry'n ni'n siarad gyda phobl sydd â swyddi ychwanegol ar ben eu gwaith llawn amser arferol," dywedodd cyfarwyddwr Cymorth Cymru, Katie Dalton, ar raglen Sunday Supplement ar Radio Wales.

"Dywedodd un person wrthom ni fod cydweithwyr yn cael eu gwthio i mewn wneud gwaith rhyw er mwyn cadw dau ben llinyn ynghyd.

"Mae eraill yn colli prydau bwyd, a rhai mewn dyled."

Bydd y stori'n llawn ar raglen Politics Wales, BBC One Wales am 14:50 ddydd Sul 2 Hydref ac ar BBC iPlayer.

Pynciau cysylltiedig