Sut mae'r argyfwng costau byw yn taro cymuned Penrhys?
- Cyhoeddwyd
Golygfa drawiadol o'r Rhondda sy'n eich taro chi'n gyntaf wrth gerdded drwy Stad Penrhys.
Mae'r stad wedi'i lleoli ar safle prydferth ar ochr mynydd. Ond wedi'i hadeiladu yn y 1960au, mae rhan helaeth o'r adeiladau yno wedi gweld dyddiau gwell.
Wrth gerdded drwy resi o fflatiau, mae siop gornel a siop cebab yn eich disgwyl. Mae'r cyfan yn dawel oni bai am ambell gi'n cyfarth gerllaw.
Yna, mae sŵn clebran a chwerthin yn atseinio o gyfeiriad adeilad ychydig fetrau i ffwrdd.
Canolfan Gymunedol Eglwys Llanfair yw'r adeilad hwnnw.
Dyw'r adeilad syml, brown yng nghanol y stad ddim yn edrych fel addoldy cyffredin. Ac yn fuan, daw i'r amlwg nid yw'n gyffredin o gwbl. Mae'n galon i gymuned glos.
Yno, dwi'n cwrdd â Neil Thomas, sy'n byw ym Mhenrhys ers 20 mlynedd.
Mae'n wirfoddolwr yn y gymuned sy'n aml yn gweithio shifftiau 12 awr i roi cymorth i bobl leol.
Mae Neil newydd ddychwelwyd o gludo pecynnau bwyd i ddau deulu.
"Y broblem fwyaf yw costau byw," meddai wrth Newyddion S4C.
"Mae pobl yn dewis rhwng trydan a bwyd… cadw'r trydan ymlaen yw un o'r pethau mwyaf yn bron i bob aelwyd. Mae hynny'n gorfod dod cyn nwy, felly mae pobl yn rhewi.
"Ac mi wyt ti'n ystyried gymaint o bobl sy'n cael eu troi allan hefyd. Mae'r sefyllfa'n warthus ar hyn o bryd."
'Waeth nag erioed'
Dyma un o gymunedau tlotaf Cymru.
Yn ôl data diweddaraf Llywodraeth Cymru, dim ond tair cymuned arall sy'n fwy anghenus drwy'r wlad. Mae 47% o bobl yma yn wynebu amddifadedd incwm.
O ganlyniad, mae effeithiau'r sefyllfa economaidd bresennol yn effeithio'n drwm ar y gymuned.
Mae Neil yn brysurach nag erioed, meddai, gyda theuluoedd yn cysylltu'n uniongyrchol er mwyn iddo fynd â phecynnau bwyd atyn nhw'n gyfrinachol.
"Mae gwahaniaeth enfawr wedi bod eleni," meddai.
"Dyw pobl ddim yn troi eu nwy nhw ymlaen. Mae mwy o geisiadau i fanciau bwyd gan fod pobl wir yn ei chael hi'n anodd.
"Mae llawer iawn o bobl mewn sefyllfa heriol, nid dim ond un neu ddau. Mae pethau siŵr o fod yn waeth nag erioed."
'Pwysicach nag erioed'
Yng Nghanolfan Llanfair, dwi'n cael fy hebrwng i gaffi bach. Mae pob bwrdd yn llawn, ac mae bwyd rhad ar gael.
Yn cynnig brecwast, brechdanau a byrbrydau eraill mae Sharon Rees, sydd wedi bod wrth galon rheoli'r ganolfan ers 30 o flynyddoedd.
Mae'r ganolfan wedi bod yn brysurach dros yr wythnosau diwethaf, meddai.
"Mae pobl yn falch o gael gadael eu cartref a dod i fan diogel, ac wrth gwrs wrth i'r tywydd newid, mae'n gynnes yma - felly mae'n bwysicach nag erioed."
Mae'r ddau baned gyntaf ar gael am ddim. Mae'r drws ar agor i unrhyw un sy'n dymuno cael cwmni a threulio amser mewn lle cynnes.
I fyny'r grisiau, mae Sharon yn dangos ystafell sy'n llawn dillad, ychydig o ddodrefn a chwpwrdd sy'n dal nwyddau'r banc bwyd i mi.
Er bod pethau'n anodd, mae hi'n esbonio fod caredigrwydd pobl o hyd yn ei synnu. Ond wrth i gostau bwyd ac ynni godi, mae hi'n bryderus am y dyfodol.
"Yn anffodus, mae pethau am waethygu, felly mae'r pethau ry'n ni'n eu gwneud yma yn Llanfair, wrth galon y gymuned, yn bwysicach nag erioed."
'Mwyafrif ddim am oroesi'
Yn ôl yn y caffi mae Deborah Young, sy'n byw ym Mhenrhys ers 49 o flynyddoedd, yn cytuno.
Yn y gymuned glos hon, "mae pobl bob tro'n barod i helpu ei gilydd mewn argyfwng," meddai.
Wrth wenu, mae Deborah'n dweud fod ganddi deulu o'i chwmpas a bod pethau "ddim yn rhy wael".
Ond mae hi'n cydnabod fod pethau'n fwy anodd nag erioed.
"Mae pethau'n fwy anodd o lawer nawr. Gyda phrisiau'n codi, dwi'n byw ar fy mhen fy hun, ac mae'n anodd. Ond dwi'n ymdopi."
O fewn pythefnos, dywed Deborah, sy'n byw mewn fflat dau lofft, ei bod wedi gwario £47 o'r £66 sydd ar gael dan gynllun cymorth biliau ynni'r llywodraeth.
"Dwi ond yn twymo un ystafell," meddai. "Dwi'n byw mewn un ystafell yn lle twymo'r tŷ cyfan."
Dros baned, mae Deborah'n sgwrsio â ffrindiau a theulu.
Mae'n fan diogel a chynnes lle mae croeso i bobl leol. Mae Joan Morris yn mwynhau brechdan bacwn ac ŵy.
Mae hi'n llawn clod i'r ganolfan, ond yn awyddus i bwysleisio pa mor heriol mae pethau ar hyn o bryd.
"Ni fydd y mwyafrif o bobl yn gallu goroesi hwn a dweud y gwir," medd Joan, wrth gofio'n ôl i'w phrofiad yn tyfu fyny'n lleol.
"Flynyddoedd yn ôl, roedd ein harian yn ymestyn.
"Dim ond hyn a hyn o arian sydd gennym ni er mwyn byw yn y lle cyntaf, ac mae costau byw yn codi a chodi - a dwi'n meddwl ei fod e'n ffiaidd."
'Byddwn ni'n gweld tai mewn tywyllwch'
Er gwaetha'r heriau, esbonia Neil Thomas fod y gymuned yn ffodus mewn rhai ffyrdd.
Diolch yn rhannol i wirfoddolwyr a staff y ganolfan, mae'r cyngor wedi dangos cefnogaeth, gyda'r gymdeithas dai lleol, Trivallis, yn barod i helpu lle'n bosib.
Mae ymgynghorwyr ariannol yn ymweld â'r stad bob mis, ac mae sesiwn dai yn digwydd yn rheolaidd.
"Mae'r rhwydwaith gymorth leol mor bwysig," medd Neil.
"Pe na bai hwn ar gael, fyddai pobl ddim yn gwybod lle i fynd am help. Os ydyn nhw'n dod fan hyn, yn gyffredinol fe wnawn nhw ddod nhw o hyd i atebion. Os nad ydyn ni'n gallu eu helpu nhw ein hunain, fe wnawn ni eu pwyntio nhw yn y cyfeiriad cywir.
"Ond mae cymaint o bobl yn cael trafferth dod trwy'r drws yn y lle cyntaf."
Ar ôl treulio ambell ddiwrnod ym Mhenrhys a'r ganolfan gymunedol, mae ei phwysigrwydd yn amlwg.
Ar nosweithiau Gwener, mae yna glwb gwaith cartref i blant gyda mynediad am ddim i'r we.
Mae'r caffi ar agor rhai nosweithiau yn ystod yr wythnos, a digwyddiadau o beatbocsio i gelf a chrefft.
"Os wyt ti'n meddwl am hynny i gyd, a'r banc bwyd, y banc dillad, y dodrefn, a phopeth arall sy'n digwydd - mae pobl yn mynd i gerdded ar gyfer eu lles ar ddydd Gwener, ac mae'r drysau ar agor i Trivallis a'r cynghorwyr yn dod i helpu pobl gymaint â phosib. Dyw e ddim yn stopio."
Mae'r bobl yma'n arbennig, medd Neil, ac maen nhw'n tynnu at ei gilydd mewn argyfwng.
Ond mae'n bryderus am y dyfodol, yn enwedig ynghylch costau ynni cynyddol. Wedi i'r Canghellor Jeremy Hunt gyhoeddi y byddai'r Gwarant Pris Ynni yn dod i ben ym mis Ebrill, mae Neil o'r farn y bydd angen cymorth parhaus.
"Wrth i'r tywydd oeri, fe fydd pobl yn ei chael hi'n fwy anodd - maen nhw eisoes yn cadw'r gwres bant.
"Mae cymorth y llywodraeth wedi gwneud gwahaniaeth mawr. Dwi wedi gweld pobl yn ei ddefnyddio yn y ffyrdd iawn.
"Ond ry'n ni eisoes yn gwybod y bydd hynny'n dod i ben, felly bydd llai o drydan a nwy yn cael eu defnyddio. Byddwn ni'n gweld tai mewn tywyllwch. Mae'r hyn ry'n ni'n ei glywed am y cyfnod ar ôl mis Ebrill yn ofidus tu hwnt."
Mae Canolfan Llanfair wedi'i hariannu'n rhannol gan roddion o'r Eglwys, ond maen nhw hefyd yn dibynnu ar grantiau maen nhw'n ymgeisio amdanyn nhw'n gyson ac sy'n fwyfwy anodd eu cael.
Mae Sharon Rees yn poeni am y dyfodol - ond mae hi'n benderfynol o fod yn bositif.
"Mae'n her," meddai, cyn ychwanegu gyda gwên ar ei hwyneb: "Fe fydd pethau'n gwella."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2022