Un yn yr ysbyty ar ôl i drên stêm a char daro'i gilydd
- Cyhoeddwyd
Mae un person wedi cael ei gludo i'r ysbyty ar ôl gwrthdrawiad rhwng trên stêm a char ar groesfan rheilffordd yn Eryri.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger Cwmcloch Isaf ar Ffordd Caernarfon ym Meddgelert am tua 11:30 ddydd Gwener.
Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth ambiwlans iddyn nhw gael eu galw am 11:41 i adroddiadau o wrthdrawiad rhwng car a thrên.
"Fe wnaethon ni anfon un ambiwlans i'r safle. Fe gawson ni ein cefnogi gan Ambiwlans Awyr Cymru. Cafodd un person ei gludo mewn cerbyd i Ysbyty Gwynedd am driniaeth bellach."
Mae'r heddlu a'r gwasanaeth tân wedi cadarnhau eu bod wedi mynychu'r digwyddiad, ac maen nhw'n gofyn i bobl gadw draw tra'u bod yn delio â'r sefyllfa.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru nad oes unrhyw anafiadau difrifol wedi'u hadrodd.