Y Bencampwriaeth: Caerdydd 1-0 Rotherham

  • Cyhoeddwyd
Sheyi OjoFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Roedd ergyd hanner ffordd drwy'r ail hanner gan yr eilydd Jaden Philogene yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Gaerdydd yn erbyn Rotherham.

Er iddyn nhw reoli'r ornest a chael y gorau o'r cyfleoedd, cael a chael oedd hi iddyn nhw gipio'r tri phwynt er i Rotherham gynnig fawr ddim yn ymosodol.

Bu bron i Gaerdydd gael y dechrau perffaith wrth i Sheyi Ojo rwydo yn y dau funud cyntaf, ond roedd o'n camsefyll wrth i ergyd wreiddiol Mark Harris gael ei thanio.

Cafodd Callum O'Dowda, Ryan Wintle, Ojo a Harris gyfleoedd pellach i'r Adar Gleision wrth iddyn nhw reoli'r hanner cyntaf, ond er eu pwysau nhw doedden nhw methu canfod cefn y rhwyd.

Daeth Mahlon Romeo a Jaden Philogene ymlaen fel eilyddion i Gaerdydd ar yr egwyl wrth i Mark Hudson geisio manteisio yn yr ail hanner, ac fe brofodd hynny'n benderfyniad doeth gan y rheolwr.

Wedi 65 munud fe dderbyniodd Philogene y bêl, a chymryd ei amser cyn curo amddiffynwyr Rotherham i danio ergyd i gefn y rhwyd.

Gallai'r fuddugoliaeth fod wedi cael ei selio gyda llai na 10 munud i fynd wrth i Ojo ddod o hyd i Wintle, ond gyda chyfle i ddyblu'r fantais fe daniodd ei erbyd dros y trawst.

Ond llwyddodd yr Adar Gleision i ddal eu gafael ar y tri phwynt, a dod â rhediad gwael o dair colled yn olynol i ben.