Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 4-0 Altrincham

  • Cyhoeddwyd
Paul MullinFfynhonnell y llun, Rex Features

Fe wnaeth ergyd acrobataidd gan Paul Mullin roi Wrecsam ar ben ffordd wrth iddyn nhw drechu Altrincham yn gyfforddus yn y Gynghrair Genedlaethol.

Daeth y gôl agoriadol wedi ychydig dros hanner awr o chwarae, wrth i Mullin daro cic hyfryd dros ei ben i rwydo ei 12fed o'r tymor yn y gynghrair - a'i 10fed ar y Cae Ras.

Dau funud yn ddiweddarach roedd y fantais wedi ei dyblu o flaen torf gartref o 10,107 - yr un fwyaf ar y Cae Ras y tymor hwn - wrth i Mullin greu'r cyfle i Ollie Palmer sgorio.

Daeth y drydedd wedi 64 munud, gyda Palmer yn rhwydo ei ail ar ôl gorffen symudiad gwych yn dilyn gwaith da gan Jordan Davies a Callum McFadzean.

Doedd Wrecsam heb orffen chwaith, gyda symudiad hyfryd arall yn gorffen gyda James Jones yn rhwydo ei gôl gyntaf o'r tymor.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Wrecsam yn parhau i fod yn yr ail safle, dri phwynt oddi ar y brig, wedi i Notts County hefyd ennill brynhawn Sadwrn yn erbyn Torquay.